Effaith Ymchwil

Effaith Ymchwil

Tair Arddangosfa Cynllunio Rhyngwladol yn Arddangos y Celfyddydau Cynhyrchu yng Nghymru

 

 

Mae Sean Crowley, Cyfarwyddwr Drama CBCDC, wedi chwarae rôl flaenllaw mewn tair arddangosfa ryngwladol a oedd yn arddangos agweddau ar y celfyddydau cynhyrchu yng Nghymru. Drwy eu cynlluniau gwirfoddoli a interniaeth arloesol, mae’r arddangosfeydd hyn wedi cael effaith fawr ar yrfaoedd myfyrwyr ac ymarferwyr ifanc.

Curadodd a threfnodd Sean Crowley World Stage Design 2013, a gynhaliwyd yn CBCDC. Mynychodd dros 10,000 o gynadleddwyr rhyngwladol yr arddangosfa ac roedd yn cynnwys rhaglen wirfoddoli a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygiad artistiaid yng nghamau cynnar eu gyrfa.

Yn 2018 cynhaliodd CBCDC OISTAT50, dathliad 50 mlynedd arddangosfa Sefydliad Rhyngwladol Senograffwyr, Penseiri a Thechnegwyr Theatr, y gwnaeth Sean Crowley unwaith eto ei churadu a’i threfnu ac un y cyfrannodd ef arddangosyn personol ar ei chyfer, sef cynnwys stiwdio gynllunio y diweddar Paul Brown. Ganwyd Paul Brown ym Morgannwg a hyfforddodd yng Nghymru cyn dod yn un o gynllunwyr mwyaf nodedig y byd ym meysydd opera, theatr a ffilm. Gadawodd ei stiwdio i CBCDC, lle adeiladodd Sean ‘stiwdio ffrwydredig’ a oedd yn caniatáu i’r gwylwyr brofi’r teimlad o fod yng nghwmni’r artist wrth ei waith. Mae cynnwys y stiwdio yn dal i fod yn CBCDC, lle bydd myfyrwyr yn aml yn ei defnyddio ar gyfer ysbrydoliaeth wrth iddynt weithio ar eu gweledigaethau eu hunain.

Yn dilyn llwyddiant OISTAT50, gwahoddwyd Sean Crowley i arddangos rhan o stiwdio Paul Brown yn arddangosfa Prague Quadrennial Fragments ym mis Mehefin 2019. Mae arddangoswyr blaenorol yn y Prague Quadrennial of Performance Design and Space wedi cynnwys Salvador Dalí, Josef Svoboda, Oscar Niemeyer, Tadeusz Kantor a Renzo Piano. Yn arwyddocaol, yn 2019 am y tro cyntaf gwahoddwyd Cymru i arddangos yn ei hawl ei hun ac nid fel rhan o’r DU. Yn PQ2019, gofynnwyd i Crowley arwain rhaglen interniaeth arloesol, gan adeiladu ar waith y rhaglenni gwirfoddoli yn WSD2013 ac OISTAT50. Mae’r rhaglenni interniaeth hyn wedi chwarae rhan hollbwysig mewn cefnogi datblygiad cynnar gyrfaoedd mewn diwydiant byd-eang ac erbyn hyn maent yn nodwedd sydd wedi’u gwreiddio yn nigwyddiadau arloesol y diwydiant.

 

Cyfansoddi Amser Real i Gefnogi Diwydiant Ffilm a Theledu Cymru

 

Llun © Fiction Factory / S4C / All3Media / Tinopolis

 

Mae cerddoriaeth Pennaeth Cyfansoddi CBCDC John Hardy wedi chwarae rôl annatod mewn nifer o gynyrchiadau ffilm a theledu sydd wedi helpu i roi Cymru ar y map sinematig.

Cafodd grŵp John Hardy, John Hardy Music (JHM), sy’n cynnig cyfleoedd disgyblaethol i staff a myfyrwyr CBCDC, ei gomisiynu i ysgrifennu, perfformio a recordio’r trac sain ar gyfer dwy gyfres deledu ddwyieithog: Y Gwyll (‘Hinterland’ – a ddarlledwyd gyntaf yn Gymraeg ar S4C ym mis Hydref 2013; yn Saesneg ar BBC Wales a BBC Four yn 2014) a Craith (‘Hidden’ – S4C 2018; yn Saesneg, BBC Wales a BBC Four hefyd yn 2018). Cynhyrchwyd Y Gwyll gan Fiction Factory gyda’r prif gyllid gan BBC Cymru Wales ac S4C, a dosbarthiad byd-eang gan All3Media. Cynhyrchwyd Craith gan Severn Screen gyda chymorth ariannol ac ymglymiad cyd-gynhyrchu gan BBC Cymru Wales, S4C, BBC 4 ac All3Media. Cyfranodd ddull byrfyfyriol ac arloesol JHM ar gyfer cyfansoddi yn sylweddol i lwyddiant byd-eang y ddwy gyfres, a rhyngddynt enillwyd 9 gwobr BAFTA Cymru.

Mae Y Gwyll wedi’i lleoli yng Ngorllewin Cymru – cefnwlad sy’n gyforiog o hanes a chwedl. Mae’r gerddoriaeth yn tanategu triniaeth chwedlonol o dirwedd Cymru – oesol, niwolog, oer a llwyd – ac ar yr un pryd yn cyfleu blaengarwch dulliau trefniadol cyfoes yr heddlu. Mae gwead ei hun i bob pennod gydag iaith gerddorol unol i’r cyfanwaith.

Gweithiodd Hardy gyda dau a raddiodd yn ddiweddar o CBCDC, Victoria (‘Tic’) Ashfield a Benjamin Talbott. Dull Hardy oedd cael gwared ar y sgôr ysgrifenedig gonfensiynol ac ailgysylltu ar delerau’r unfed ganrif ar hugain gyda dwy dechneg a ddefnyddiwyd o driniaethau cynharach o ddrama cerddoriaeth: gwaith byrfyfyr amser real, sy’n nodweddiadol o’r ffilmiau mud; a’r leitmotif, wedi ei ymestyn yma i gynnwys lleoliad, sefyllfa a hwyliau yn ogystal â chymeriad. Drwy ddefnyddio’r dull oedd â’i wreiddiau mewn hanes o fyrfyfyrio ar gyfer y ddelwedd symudol, ac annog pob aelod o’r tîm i gyfrannu at bob rhan o’r broses, canfu Hardy gynllun a oedd yn caniatáu nid yn unig at waith artistig bywiogus, ond hefyd cyflymder ac effeithlonrwydd. Ar ôl cwblhau Y Gwyll, comisiynwyd JHM gan BBC Wales ac S4C i ddarparu trac sain ar gyfer Craith, cyfres a oedd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru.

Mae adolygiadau o gerddoriaeth Y Gwyll yn cynnwys: “trac sain atgofus” (The Guardian), ac “yn sicr un o’r traciau sain hyfrytaf i gyd-fynd â drama drosedd” (Radio Times). Disgrifiwyd y gerddoriaeth ar gyfer Craith fel “trac sain bygythiol sy’n creu pinnau bach wedi’i ddefnyddio’n grefftus i ddwysáu’r teimlad o arswyd” (The Guardian).