Aled Miles
Aelod y Bwrdd
Rôl y swydd: Uwch Ddarlithydd Cynhyrchu a Dylunio (Gwisgoedd)
Adran: Cynllunio
Anrhydeddau: Cwrs Sylfaen mewn Celf a Dylunio (1992), BA (Anrh) mewn Dylunio Theatr (2000), Tystysgrif Ôl-radd mewn Addysg Uwch (2004), Tystysgrif Sylfaenol mewn Ffotograffiaeth (2014)
Dechreuodd Allie Edge ar ei gyrfa yng nghanolbarth Cymru, yn dylunio gwisgoedd i Theatr Powys, a Theatr Ieuenctid Canol Powys sydd wedi ennill gwobrau. Yn wreiddiol, symudodd i Gaerdydd i astudio, gan gwblhau Cwrs Sylfaen mewn Celf a Dylunio a BA (Anrh) mewn Dylunio Theatr. Mae Allie yn gweithio yn CBCDC ers 2001 yn ogystal â dilyn gyrfa lawrydd lwyddiannus ym maes theatr, ffilm a theledu ers 1992.
Ei gwaith diweddaraf ym myd ffilm oedd i un o gyn-fyfyrwyr CBCDC, Tom Cullen, yn ei ffilm gyntaf fel cyfarwyddwr, Pink Wall, sydd â Tatiana Maslany a Jay Duplass yn serennu.
Mae gwaith Allie yn y Coleg yn cynnwys rheoli’r Adran Wisgoedd, goruchwylio myfyrwyr yn gweithio ar draws pob cynhyrchiad, cynnal cysylltiadau i’r diwydiant mewn perthynas â lleoliadau myfyrwyr a swyddi i raddedigion, darparu sgiliau gwisgoedd a chyfrannu at ddatblygu cyrsiau BA ac MA Dylunio ar gyfer Perfformio. Mae hefyd yn Arholwr Allanol ar gyfer cyrsiau BA ac MA Gwisgoedd i Arts University Bournemouth. Mae ei gwaith llawrydd yn cynnwys dylunio gwisgoedd a steilio ar gyfer teledu, ffilm, fideos cerddoriaeth a hysbysebion yn ogystal â theatr a dawns.
Mae gwaith ymchwil Allie yn archwilio’r ffyrdd y mae dylunio gwisgoedd a’r broses ddyfeisio yn dylanwadu ar ei gilydd. Drwy ei pherthynas â chwmni Dorky Park yn Berlin, mae wedi dylunio gwisgoedd i brosiectau yng Nghymru, Tsieina, yr Almaen (Schaubühne, Berlin) gyda theithiau rhyngwladol helaeth, a bale cyfoes yn yr Ariannin (Tŷ Opera Teatro Colon, Buenos Aires). Mae’r gwaith yn dod ag actorion, dawnswyr, cerddorion ac artistiaid ynghyd o amrywiaeth eang o genres a gwledydd, gan gyfuno testun, fideo, cerddoriaeth fyw a dawns, ac mae’r gwisgoedd yn greiddiol i’r broses ddyfeisio.