Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Penwythnos Mawr Llinynnau CBCDC: Jacob Shaw, Roberts Balanas a Bohemian Rhapsody - ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr llinynnau

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dathlu blwyddyn gyntaf ei breswyliad offerynnau llinynnau arloesol gyda gŵyl benwythnos sydd â’r nod o rannu byd chwarae offerynnau llinynnol - gan chwalu rhwystrau, meithrin talent newydd, a gwneud cerddoriaeth yn fwy hygyrch i bobl ifanc ledled Cymru.

Rhannu neges

Categorïau

Llinynnau, Cerddoriaeth

Dyddiad cyhoeddi

Published on 07/10/2025

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, 17–19 Hydref 2025

Mae’r Penwythnos Mawr Llinynnau yn dwyn ynghyd berfformiadau gan artistiaid o fri rhyngwladol megis Jacob Shaw a Roberts Balanas, gyda chyfleoedd ymarferol am ddim i’r genhedlaeth nesaf o gerddorion. Mae’r digwyddiad yn greiddiol i genhadaeth y Coleg i ehangu cyfranogiad yn y celfyddydau a sicrhau y gall pobl ifanc, waeth beth fo’u cefndir, brofi llawenydd chwarae offerynnau llinynnol, gan gyfuno perfformiad o’r radd flaenaf â chynhwysiant, ac arddangos sut y gall cerddoriaeth ysbrydoli a chynnwys y gynulleidfa ehangaf bosibl.

Gall ymwelwyr ddisgwyl popeth o gampweithiau clasurol i seiniau cyfoes, gyda thraddodiadau gwerin, cydweithrediadau jazz, ac Athro Cadair Rhyngwladol y Soddgrwth CBCDC, Jacob Shaw, yn gweithio gyda myfyrwyr llinynnau y Coleg. Mae yna hyd yn oed drefniant newydd sbon o ‘Bohemian Rhapsody’, wedi’i greu a’i berfformio’n arbennig gan y feiolinydd feirol Roberts Balanas i ddathlu pen-blwydd y gân eiconig yn 50 oed, yn chwarae gydag Unawdwyr Llinynnol CBCDC.

‘Bob tro y byddaf yn dod i CBCDC rwy’n cael fy ysbrydoli gan egni’r myfyrwyr a’r ymdeimlad o bosibilrwydd yma.

Mae’r Penwythnos Mawr Llinynnau yn ymwneud â rhannu’r ysbrydoliaeth honno gyda’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr llinynnau – ac mae cymysgedd eclectig y digwyddiad yn sicr yn gwneud hynny.’
Jacob ShawAthro Cadair Rhyngwladol y Soddgrwth CBCDC

Mae cynhwysiant wrth galon yr ŵyl: gyda gweithdai am ddim, cyngor ar gyfer clyweliadau, a sesiynau blasu - gan gynnwys y cyfle i gydio mewn fiola neu fas dwbl yn ogystal â’r feiolin neu’r soddgrwth, a chwarae ochr yn ochr â cherddorion o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC - anogir pobl ifanc a dechreuwyr i gymryd eu camau cyntaf un i fyd y llinynnau. 

Mae croeso cynnes i fyfyrwyr sydd ar ddechrau eu siwrnai i fyd cerddoriaeth llinynnau, hyd at y rheini sydd ar fin astudio mewn conservatoire a thu hwnt, ddod a chymryd rhan. 

‘Mae’r penwythnos hwn yn ymwneud â dathlu pŵer a hyd a lled cerddoriaeth linynnau, gan ganolbwyntio ar gyfle, cydweithio a rhannu arbenigedd a phrofiad.

Rydym am hyrwyddo cynhwysiant ac ymgysylltiad cymunedol, gan groesawu myfyrwyr ym mhob cam o’u datblygiad i rannu profiadau ysbrydoledig gyda dysgwyr eraill, myfyrwyr coleg, a gweithwyr proffesiynol o fri.

Mae’n dod â’n partneriaid ynghyd, gan weithio gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, y Gwasanaethau Cerdd, athrawon coleg a chwaraewyr o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gan feithrin perthynas gryfach ag ysgolion ac athrawon a rhoi cyfle i bob myfyriwr weithio a pherfformio gyda chwaraewyr llinynnau o’r radd flaenaf.’
Simon JonesPennaeth Perfformiad Llinynnau

Mae uchafbwyntiau’r Penwythnos Mawr Llinynnau yn cynnwys:

  • Jacob Shaw, Sylfaenydd Ysgol Soddgrwth Sgandinafia, ac Athro Cadair Rhyngwladol y Soddgrwth CBCDC, ynghyd â’r soddgrythwyr Johannes Gray a Finn Anderson-Hendra yn perfformio gydag Unawdwyr Llinynnol CBCDC.
  • Dominic Ingham yn ymuno â myfyrwyr jazz y Coleg ar gyfer perfformiad AmserJazzTime am ddim.
  • Roberts Balanas, y seren cyfryngau cymdeithasol ar y feiolin, yn perfformio ei drefniant arbennig o Bohemian Rhapsody i ddathlu pen-blwydd y trac eiconig yn 50 oed, a gweithdy am ddim ar gyfer chwaraewyr Gradd 3+
  • Pedwarawd Carducci, yn dod â cherddoriaeth a’r gair llafar ynghyd ar daith gerddorol wedi’i hysbrydoli gan y gwerin sy’n dathlu diwylliannau amrywiol.
  • Gweithdai cynhwysol gyda’r artistiaid blaenllaw Mary Condliffe, Prif Fiola y WNO Dunia Ershova, Dominic Ingham, a Roberts Balanas.
  • Cyngor ar gyfer clyweliadau, a chyflwyniad i astudio yn CBCDC
  • Perfformiad Mawr – digwyddiad cyfranogiad torfol lle gall unrhyw un gydio mewn offeryn llinynnol a chreu cerddoriaeth gyda cherddorion BBC NOW.

Nodiadau i Olygyddion

Mae preswyliad pedwarawd llinynnol beiddgar a thrawsnewidiol dwy flynedd o hyd y Coleg (a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth Albert ac Eugenie Frost, gyda chyllid ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston) yn rhaglen arloesol sy’n rhoi ymarfer pedwarawd llinynnol o’r radd flaenaf wrth wraidd cymuned fywiog y Coleg, gyda’r nod o ddylanwadu ar ddyfodol chwarae llinynnau ledled Cymru a thu hwnt.

Negeseuon newyddion eraill