Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Rorie Brophy

Rôl y swydd: Darlithydd Cynhyrchu a Dylunio (Y Celfyddydau Technegol)

Adran: Cynllunio

Anrhydeddau: Astudiodd Rorie Ddylunio Cerameg yn Donegal, Iwerddon. Tystysgrif Addysg i Raddedigion, Limerick, Iwerddon

Bywgraffiad Byr

Dechreuodd gyrfa Rorie fel artist cerameg a cherflunydd, cyn mynd ymlaen i weithio fel gwneuthurwr propiau i gynyrchiadau ffilm a theledu. Gyda diddordeb brwd mewn hanes, bu hefyd yn gweithio ac yn ymddangos mewn nifer o raglenni dogfen i’r History Channel fel arbenigydd adlunio.

Mae hefyd yn gweithio gydag amgueddfeydd, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac awdurdodau lleol i greu atgynyrchiadau hanesyddol.

Mae rhai o’i gerfluniau awyr agored i’w gweld yn gyhoeddus yng Nghymru ac Iwerddon.

Arbenigedd

Mae Rorie yn cyfuno gwaith llawrydd fel gwneuthurwr propiau a cherflunydd a’i waith addysgu. Mae ei sgiliau penodol yn ymwneud â chastio’r corff, creu mowldiau a phrostheteg (po fwyaf gwaedlyd, y gorau!). Mae ei amser yn y Coleg wedi’i ymroi i addysgu crefft creu propiau a chelfyddyd dywyll torwyr laser, argraffu 3D, latecs, plaster a pholystyren.

Mae gwaith Rorie yn dangos meistrolaeth o dechnegau cerflunio a chreu traddodiadol, ond hefyd diddordeb mewn mabwysiadu technoleg ddigidol a CNC newydd i ategu a gwella’r broses o greu propiau.

Yn ei waith ac wrth addysgu, mae hefyd yn ceisio mynd ati i wneud yn siŵr bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn ystyriaeth greiddiol wrth ddylunio a chreu propiau.

Cyflawniadau Nodedig

Yn 2021, cwblhaodd Rorie ddarn mawr o gerflun awyr agored a osodwyd mewn parc coedwig yng Nghaerffili. Crewyd y darn o goncrit a gwydr, a’i enw yw ‘Bran's treasure’.

Proffiliau staff eraill