

Newyddion
CBCDC yn penodi Dr. Fiona McAndrew yn Bennaeth Llais newydd.
‘Creu cysylltiadau a hyrwyddo celfyddyd hynafol a modern y llais ledled y byd'
Yn berfformwraig, academydd, cwnselydd clinigol ac athrawes a hyfforddwr llais o safon uchel sydd â phrofiad rhyngwladol, bydd Fiona yn cymryd yr awenau gan Mary King a fydd, wrth gamu i lawr o’r rôl hon, yn parhau i weithio gyda’r Coleg ar brosiectau penodol.
Mae Fiona wedi dal rolau academaidd ac addysgu uwch mewn prifysgolion blaenllaw ac yn fwyaf diweddar roedd yn Ddirprwy Bennaeth Opera ac yn Ddarlithydd Theatr Gerddorol yn Academi Celfyddydau Perfformio Gorllewin Awstralia yn ninas Perth.
‘Rwy’n falch iawn o groesawu Fiona McAndrew i gymryd yr awenau gan Mary King yn yr adran Llais. Mae Fiona yn berfformwraig hynod fedrus sydd eisoes wedi dal swyddi uwch yn y sector conservatoire ac, ar ôl treulio ei gyrfa yn gweithio’n rhyngwladol, mae hi’n dod â safbwynt sy’n edrych tuag allan gan ei gwneud yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer y rôl heriol hon.
Ochr yn ochr â hyn, mae ei hyfforddiant ym maes seicoleg yn golygu y bydd lles y myfyrwyr wrth wraidd ei hymarfer, sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd craidd yn CBCDC o fod yn arbenigol ac yn gynhwysol.
Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i Mary King am ei stiwardiaeth wych o’r adran Llais dros y tair blynedd diwethaf. Fodd bynnag, nid dyma ddiwedd y daith i Mary a CBCDC ac rwy’n edrych ymlaen at ei chroesawu’n ôl yn y blynyddoedd i ddod.’Tim Rhys-EvansCyfarwyddwr Cerddoriaeth
Ar ôl graddio o’r Cwrs Opera yn y Guildhall School of Music and Drama, dilynodd Fiona yrfa fel cantores, gan berfformio prif rolau i gwmnïau a gwyliau, ar deledu a radio ledled y byd, gan gynnwys Semperoper Dresden, Teatro Comunale Bologna, Gŵyl Opera Rossini Pesaro, Opera Seland Newydd, Gŵyl Covent Garden, Gŵyl Dresden, Gŵyl Perth, ac mewn datganiadau ar BBC, RTE ac ABC Radio.
Ymhlith ei chymwysterau mae gan Fiona ddoethuriaeth mewn Seicoleg Cerddoriaeth, gradd Meistr gyda Rhagoriaeth mewn Cwnsela, a gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Seicoleg.
Mae hi wedi dal rolau academaidd ac addysgu uwch mewn prifysgolion blaenllaw ac roedd yn Ddirprwy Bennaeth Opera ac yn Ddarlithydd Theatr Gerddorol yn Academi Celfyddydau Perfformio Gorllewin Awstralia yn Perth.
‘Rydw i wrth fy modd i fod yn ymuno â chymuned ymarfer mor dalentog a chyfeillgar yn CBCDC. Rwy’n edrych ymlaen at wynebu’r her o gyfuno’r profiad addysgol artistig o’r ansawdd uchaf â diddordeb gwirioneddol mewn lles myfyrwyr ac uchelgais am eu ffyniant yn y dyfodol.
Ar ôl blynyddoedd lawer o weithio’n rhyngwladol ym myd y celfyddydau perfformio a cherddoriaeth - o berfformio mewn tai opera a mannau wedi’u hail-ddychmygu, i addysgu mewn conservatoires ac yn fwy diweddar ym maes gofal seicotherapiwtig artistiaid creadigol, rwy’n mwynhau’r cyfle i feithrin meddyliau creadigol ifanc.
Fel cyd Gelt, mae ‘hiraeth’ wedi dod â’r profiadau hyn ynghyd yng Nghymru, Gwlad y Gân. Mae’n anrhydedd i mi hyrwyddo celfyddyd hynafol a modern y llais ledled y byd, gan greu cysylltiadau â llawer o’r lleoedd yr wyf wedi byw ynddynt, sydd eu hunain â’u teimlad o hiraeth ac adrodd straeon.'Fiona McAndrewincoming Head of Voice