Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Er cof am David Jackson OBE

Gyda thristwch mawr rydym yn cyhoeddi marwolaeth ein cyfaill a’n cydweithiwr annwyl, David Jackson.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 17/10/2025

Ymunodd David â chymuned y Coleg fel Is-brifathro y Coleg (Menter a Digwyddiadau) o 2008 i 2010, gan groesawu Quincy Jones i’r Coleg i dderbyn ei gymrodoriaeth yn 2009. Rydym wedi mwynhau ein perthynas waith agos a phersonol ag ef byth ers hynny, yn cefnogi a dathlu ein myfyrwyr, gan rannu ei arbenigedd sylweddol â ni’n rheolaidd fel cyfaill beirniadol a gweithredu fel beirniad ar gyfer llawer o’n prif gystadlaethau. 

Fel Cyfarwyddwr Artistig Canwr y Byd Caerdydd y BBC, un o’r cystadlaethau canu clasurol uchaf eu parch, mae wedi cynrychioli Cymru ledled y byd ac wedi gweithio’n agos gyda Sefydliad Kiri Te Kanawa i gefnogi cantorion ifanc rhagorol. Roedd David bob amser yn sicrhau bod y Coleg yn rhan annatod o’r gwaith hwn - a welodd CBCDC yn cynnal Gwobr y Gân yn ein neuadd gyngerdd - gan ddod â’r myfyrwyr i ddosbarthiadau meistr a dod i gysylltiad â’r byd canu proffesiynol. 

Fel Albanwr balch, mae David wedi bod yn un o hoelion wyth y byd celfyddydau yng Nghymru ers degawdau: Cyn dod i’r Coleg, roedd yn Bennaeth Cerddoriaeth yn BBC Cymru a chomisiynodd waith i’r BBC a’r sector annibynnol, gan ennill nifer o wobrau gan gynnwys Emmy Primetime, BAFTA, gwobrau SONY, y Rose d’Or a llawer mwy. 

Yn ogystal â’i waith proffesiynol, gwasanaethodd David am nifer o flynyddoedd fel Ymddiriedolwr a Chadeirydd Pwyllgor Diwylliannol Canolfan Mileniwm Cymru, roedd yn gyn-ymddiriedolwr Sinfonia Cymru, ac yn gadeirydd Côr Forget-Me-Not. Ers ei sefydlu ym mis Hydref 2017, roedd yn Gadeirydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, y sefydliad sy’n gyfrifol am Ensembles Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. 

‘Mae David wedi bod y cyfaill mwyaf hael a doeth i’r Coleg a’r sector celfyddydau cyfan yng Nghymru, gan greu cyfleoedd creadigol gwych, wastad yn optimistaidd, a bob amser yn credu yn ein myfyrwyr ac yn yr hyn y gallant ei gyflawni. Roedd ei ddychymyg ynghyd ag ymddiriedaeth mewn eraill yn gyfuniad prin, a byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr.’
Helena GauntPrifathro CBCDC

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC, Tim Rhys-Evans, ‘Byddaf i, a phob un ohonom yn CBCDC, yn gweld eisiau David yn fawr iawn. Roedd bob amser mor hapus i siarad pryd bynnag y byddai angen i mi godi’r ffôn a cheisio ei gyngor – roedd ei wybodaeth gerddorol ddofn yn ysbrydoledig, ac roedd ei angerdd dros alluogi cerddorion ifanc yn heintus. Hyd yn oed pan oedd yr amseroedd yn anodd, roedd ei wên a’i synnwyr digrifwch bob amser yn eich gadael chi’n teimlo’n galonogol, yn fwy cadarnhaol ac yn frwdfrydig. Mae ei waddol i’r celfyddydau yng Nghymru yn ddihafal. Mae ein meddyliau gydag Anne a’i blant yn yr amser anodd hwn.’ 

Dyfarnwyd OBE i David am ei wasanaethau i’r celfyddydau a cherddoriaeth yn Anrhydeddau Pen-blwydd Platinwm ym mis Mehefin 2022. 

Negeseuon newyddion eraill