

Newyddion
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Prifysgol De Cymru (PDC) a yn ennill gwobr efydd y Siarter Cydraddoldeb Hiliol
Nod Siarter Cydraddoldeb Hiliol (SCH) Advance HE yw helpu prifysgolion gyda’u gwaith yn gwella cynrychiolaeth, cynnydd a llwyddiant staff a myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn addysg uwch. Mae'r wobr efydd yn cydnabod ein hymrwymiad a’n hymdrechion i nodi rhwystrau ac yn darparu fframwaith i helpu sefydliadau addysg uwch i fynd i'r afael â nhw.
Gwrando, myfyrio, a gweithredu
Over the past few years, the University and the College, have been working to better understand the needs of staff, students and communities that they work with and to put in place appropriate guidance and positive actions.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Brifysgol a'r Coleg wedi bod yn gweithio i wella eu dealltwriaeth o anghenion staff, myfyrwyr a chymunedau maen nhw’n gweithio gyda nhw ac i roi arweiniad priodol a chamau gweithredu cadarnhaol ar waith.
Ymhlith y camau gweithredu sydd wedi’u cyflawni mae gwrando ar brofiadau staff a myfyrwyr, cyflwyno hyfforddiant gwrth-hiliol i staff, newid prosesau recriwtio, annog trafodaethau ac addysg trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau, a darparu llwyfannau hygyrch ar gyfer adrodd am unrhyw fath o aflonyddu neu wahaniaethu ar sail hunaniaeth.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi bod yn gweithio'n weithredol gyda chymunedau amrywiol ledled De Cymru fel rhan o'i chenhadaeth ddinesig, yn enwedig yn ardal Casnewydd.
Rhoi cydraddoldeb wrth galon pethau
Dywedodd Richie Turner, cadeirydd Tîm Hunanasesu’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol (TH SCH) yn PDC a CBCDC: 'Mae'n gam enfawr i ni bod Advance HE wedi cydnabod ein gwaith gyda'r wobr efydd hon. Mae’r tîm TH SCH, sydd wedi cynnwys staff a myfyrwyr o bob rhan o'r Brifysgol a'r Coleg, wedi bod yn gweithio'n galed i roi cydraddoldeb hiliol wrth galon y ffordd rydyn ni’n meddwl'
'Mae blwyddyn, bron, ers i'r Terfysgoedd Hil ysgytwol ddigwydd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac er na fu i’r terfysgoedd ledu i Gymru, mae llawer i'w wneud o hyd, fel sefydliad ac fel gwlad, i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. Fodd bynnag, mae cyhoeddi'r wobr yn lansio'r cam nesaf yn ein gwaith ac yn cydnabod y llwyddiannau rydyn ni wedi'u sicrhau hyd yn hyn. Ein ffocws dros y pum mlynedd nesaf fydd gweithredu'r newidiadau a'r gwelliannau pellach rydyn ni wedi'u blaenoriaethu yn ein cynlluniau gweithredu.'
'Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn adlewyrchu ac yn cefnogi ein cymunedau amrywiol ledled De Cymru yn gywir, gan gydnabod bod eu hanghenion yn wahanol, a rhoi camau cadarnhaol ar waith fydd yn ein helpu i gyflawni cydraddoldeb hiliol.'Richie TurnerCadeirydd Tîm Hunanasesu’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol (TH SCH)
'Rwy'n hynod falch o’n cydweithwyr, ac yn ddiolchgar iawn iddyn nhw, yn enwedig i Dîm Hunanasesu’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol, am eu hymrwymiad diflino i'r gwaith hwn. Mae'r cyfraniadau gan ein staff a'n myfyrwyr wedi ein helpu i fyfyrio, i ddysgu, ac yn bwysicach wedi ein harwain i ddatblygu cynlluniau gweithredu rydyn ni’n gobeithio fydd yn arwain at newid cadarnhaol pellach.'
'Mae gennym lawer o waith i'w wneud o hyd a bydd y camau gweithredu sydd wedi'u nodi yn mynd â ni ymhellach ar hyd ein llwybr i fod yn sefydliad gwrth-hiliol, ac i sicrhau bod gennym gefnogaeth briodol i'n staff a’n myfyrwyr a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu'Dr Ben CalvertDirprwy Is-Ganghellor PDC
'Rydyn ni’n falch o fod wedi derbyn dyfarniad y Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Mae hyn wir yn gydnabyddiaeth o'n hymrwymiad ar y cyd at gydraddoldeb, perthyn a newid ystyrlon. '
'Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymdrechion ein staff, myfyrwyr a phartneriaid cymunedol ar y cyd, ac yn pwysleisio ein gweledigaeth i wneud cerddoriaeth a drama yn fwy cynhwysol, hygyrch a chynrychioliadol o'r gymdeithas rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni’n gwybod bod mwy i'w wneud, ac rydyn ni’n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ymgorffori gwrth-hiliaeth ac ymarfer cynhwysol ym mhob rhan o fywyd y Coleg'Professor Helena GauntAthro, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru