

Gyrfaoedd a swyddi
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lle i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob math o gefndiroedd a phrofiadau. Os hoffech chi ymuno ag un o weithleoedd mwyaf creadigol Cymru - gyda hyblygrwydd a buddion rhagorol, tarwch olwg ar ein cyfleoedd gyrfa presennol.
Rheolwr y Rhaglen (CBCDC Agored) - Y dyddiad cau yw 19/10/26
Pennaeth Cyllid - Y dyddiad cau yw 19/10/26
Pennaeth Datblygu Busnes - Y dyddiad cau yw 19/10/26
Rheolwr Cynhyrchu (Amser llawn) - Y dyddiad cau yw 26/10/26
Rheolwr Cynhyrchu (Cyflog fesul awr, contract cyfnod penodol)
Gradd F: £23.61 yr awr
Rydyn ni’n chwilio am nifer o Reolwyr Cynhyrchu deinamig a phrofiadol i ymuno â ni i ddarparu gweithgareddau cynhyrchu yn y coleg am 6 wythnos, yn ddelfrydol rhwng 2 Tachwedd a 11 Rhagfyr.
Rydyn ni’n chwilio am unigolion proffesiynol sydd â phrofiad ym maes rheoli cynyrchiadau yn y theatr, perfformiadau byw neu ddiwydiannau creadigol cysylltiedig. Rhaid iddynt fod yn frwdfrydig dros ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr celfyddydau cynhyrchu.
Rheolwr Cynhyrchu - Prif Gyfrifoldebau
Fel Rheolwr Cynhyrchu sy’n cael ei dalu fesul awr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch chi’n gwneud y canlynol:
- Cyflawni cynyrchiadau cwmni Richard Burton yn ddiogel, yn effeithlon ac yn broffesiynol.
- Cydlynu amserlenni, lleoliadau, materion staffio, adnoddau a chyllidebau o’r gwaith cynllunio hyd at y perfformiad.
- Gweithio’n agos â thimau creadigol, staff technegol, myfyrwyr, a gweithwyr proffesiynol a chyflenwyr gwadd.
- Cefnogi myfyrwyr i ennill profiad ymarferol a phroffesiynol yn ystod cynyrchiadau.
- Rheoli cyllidebau, materion prynu ac adnoddau.
- Sicrhau bod gofynion iechyd a diogelwch, asesiadau risg ac arferion gweithio diogel yn cael eu dilyn.
- Cyfrannu tuag at waith cynllunio adrannol a dull cydweithredol ac arloesol y Coleg sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr.
I fynegi diddordeb yn y rôl, anfonwch e-bost a datganiad o ddiddordeb (hyd at 500 gair) at lorna.hooper@rwcmd.ac.uk erbyn 12 Hydref 2026

Cymorth i ymgeiswyr

Gweithio i'r Coleg

Manteision gweithio gyda ni

Ein campws

Amrywiaeth, Tegwch, Cynhwysiant a Pherthyn











