Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn www.rwcmd.ac.uk.

Rheolir y wefan hon gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • Chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  • Addasu uchder llinell a bylchau testun gan ddefnyddio ategion porwr
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Neidio i gynnwys pob tudalen
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin
  • Defnyddio eich porwr a’ch gosodiadau o ran lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • Defnyddio dewisiadau eich dyfais ynghylch lleihau symudiad (er enghraifft: analluogi animeiddio a chwarae fideo yn awtomatig)
  • Cynnig capsiynau caeedig ar ein holl fideos

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Safon hygyrchedd

Mae ein gwefan yn bodloni gofynion hygyrchedd WCAG 2.1 lefel AA. Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch ond rydym yn gweithio i gywiro’r pethau hyn er mwn ei gwneud mor hygyrch â phosibl.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Rydym yn gwneud ymdrechion parhaus i wella hygyrchedd y wefan ac mae eich adborth yn hollbwysig i’n helpu i wella’r wefan ar gyfer pob defnyddiwr. Os byddwch yn dod o hyd i broblem, neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion neu safonau hygyrchedd, anfonwch e-bost atom yn webmaster@rwcmd.ac.uk.

Os ydych angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat arall, megis print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, anfonwch e-bost atom yn webmaster@rwcmd.ac.uk.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS). Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi ymrwymo i wneud ein gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Rhestrir yr achosion o ddiffyg cydymffurfio yr ydym yn ymwybodol ohonynt fel:

Cynnwys Anhygyrch

  • Efallai na fydd cynnwys sy’n cael ei storio mewn dogfennau PDF yn hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin (WCAG 4.1.2).
  • Nid yw rhai eitemau planedig ar gyfer teithiau 360 yn hygyrch gyda bysellfwrdd yn unig (WCAG 2.1.1)
  • Nid oes gan eitemau planedig ein cynlluniau eistedd hygyrchedd bysellfwrdd integredig i alluogi ymwelwyr i ddewis seddi. (WCAG 2.1.1) Mae hyn oherwydd darparwr trydydd parti ein system docynnau (Spectrix) ac rydym yn gweithio gyda nhw i wella hyn.
  • Rydym yn ymwybodol o rai dolenni ar y wefan sy’n defnyddio teitlau generig megis ‘Darganfod mwy’ neu ‘Dysgu mwy’ a byddwn yn newid y rhain i fod yn fwy disgrifiadol. (WCAG A 2.4.4) Bydd hyn yn cael ei gwblhau yn 2023.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Google Maps

Mae ein gwefan yn gyffredinol yn darparu testun amgen ar gyfer pob delwedd (WCAG A 1.1.1) ond nid yw rhyngwyneb Google Maps yn bodloni’r gofyniad hwn.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 7 Gorffennaf 2023. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 7 Gorffennaf 2023

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 13 Mehefin 2023. Cynhaliwyd y prawf gan Direct Access.