Neidio i’r prif gynnwys

Cyfansoddi amser real i gefnogi diwydiant ffilm a theledu Cymru

Mae cerddoriaeth Pennaeth Cyfansoddi CBCDC John Hardy wedi chwarae rôl annatod mewn nifer o gynyrchiadau ffilm a theledu sydd wedi helpu i roi Cymru ar y map sinematig.

Cafodd grŵp John Hardy, John Hardy Music (JHM), sy’n cynnig cyfleoedd disgyblaethol i staff a myfyrwyr CBCDC, ei gomisiynu i ysgrifennu, perfformio a recordio’r trac sain ar gyfer dwy gyfres deledu ddwyieithog: Y Gwyll (Hinterland – a ddarlledwyd gyntaf yn Gymraeg ar S4C ym mis Hydref 2013; yn Saesneg ar BBC Wales a BBC Four yn 2014) a Craith (Hidden – S4C 2018; yn Saesneg, BBC Wales a BBC Four hefyd yn 2018). Cynhyrchwyd Y Gwyll gan Fiction Factory gyda’r prif gyllid gan BBC Cymru Wales ac S4C, a dosbarthiad byd-eang gan All3Media. Cynhyrchwyd Craith gan Severn Screen gyda chymorth ariannol ac ymglymiad cyd-gynhyrchu gan BBC Cymru Wales, S4C, BBC 4 ac All3Media. Cyfranodd ddull byrfyfyriol ac arloesol JHM ar gyfer cyfansoddi yn sylweddol i lwyddiant byd-eang y ddwy gyfres, a rhyngddynt enillwyd 9 gwobr BAFTA Cymru.

Mae Y Gwyll wedi’i lleoli yng Ngorllewin Cymru – cefnwlad sy’n gyforiog o hanes a chwedl. Mae’r gerddoriaeth yn tanategu triniaeth chwedlonol o dirwedd Cymru – oesol, niwolog, oer a llwyd – ac ar yr un pryd yn cyfleu blaengarwch dulliau trefniadol cyfoes yr heddlu. Mae gwead ei hun i bob pennod gydag iaith gerddorol unol i’r cyfanwaith.

Gweithiodd Hardy gyda dau a raddiodd yn ddiweddar o CBCDC, Victoria (‘Tic’) Ashfield a Benjamin Talbott. Dull Hardy oedd cael gwared ar y sgôr ysgrifenedig gonfensiynol ac ailgysylltu ar delerau’r unfed ganrif ar hugain gyda dwy dechneg a ddefnyddiwyd o driniaethau cynharach o ddrama cerddoriaeth: gwaith byrfyfyr amser real, sy’n nodweddiadol o’r ffilmiau mud; a’r leitmotif, wedi ei ymestyn yma i gynnwys lleoliad, sefyllfa a hwyliau yn ogystal â chymeriad. Drwy ddefnyddio’r dull oedd â’i wreiddiau mewn hanes o fyrfyfyrio ar gyfer y ddelwedd symudol, ac annog pob aelod o’r tîm i gyfrannu at bob rhan o’r broses, canfu Hardy gynllun a oedd yn caniatáu nid yn unig at waith artistig bywiogus, ond hefyd cyflymder ac effeithlonrwydd. Ar ôl cwblhau Y Gwyll, comisiynwyd JHM gan BBC Wales ac S4C i ddarparu trac sain ar gyfer Craith, cyfres a oedd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru.

Mae adolygiadau o gerddoriaeth Y Gwyll yn cynnwys: 'trac sain atgofus' (The Guardian), ac 'yn sicr un o’r traciau sain hyfrytaf i gyd-fynd â drama drosedd' (Radio Times). Disgrifiwyd y gerddoriaeth ar gyfer Craith fel 'trac sain bygythiol sy’n creu pinnau bach wedi’i ddefnyddio’n grefftus i ddwysáu’r teimlad o arswyd' (The Guardian).


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf