Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Karen Pimbley

Rôl y swydd: Pennaeth Rhaglen Rheolaeth yn y Celfyddydau

Adran: Rheolaeth yn y Celfyddydau

Anrhydeddau: MA, SFHEA, PGDip, PGCE (AB), BA (Anrh), MILM

Bywgraffiad Byr

Mae Karen wedi bod yn Bennaeth hyfforddiant Rheolaeth yn y Celfyddydau yn CBCDC ers 2012. Dechreuodd ei gyrfa fel Swyddog Marchnata yn Theatr Torch, Aberdaugleddau, ac yna bu’n gweithio gyda Diversions, Cwmni Dawns Cymru. Yng nghanol y 1990au, hi oedd Pennaeth Digwyddiadau cyntaf yr Arena Rhyngwladol oedd newydd agor yng Nghaerdydd. Symudodd i faes hyrwyddo cerddoriaeth gyda Kennedy Street Productions ym Manceinion a Raymond Gubbay a Harvey Goldsmith yn Llundain, gan deithio ledled y DU ac Ewrop gyda nifer o artistiaid pop a roc rhyngwladol. Yn ddiweddarach dychwelodd Karen i weithio yng Nghymru, gan ymgymryd â rôl uwch arweinydd a helpodd i sefydlu Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Arbenigedd

Daw Karen â’i chefndir mewn arweinyddiaeth strategol, llywodraethu, ymchwil ac ymgynghoriaeth i’w gwaith yn CBCDC ochr yn ochr â’i phrofiad rheolaeth yn y celfyddydau llawrydd parhaus, sy’n amrywio o gynhyrchu ar raddfa fach ym meysydd theatr a dawns i ysgrifennu/cyflwyno hyfforddiant pecyn cymorth rheolaeth yn y celfyddydau ar gyfer sefydliadau addysg a’r sector creadigol. 

Roedd ei Doethuriaeth yn archwilio datblygiad dawns gyfoes yng Nghymru, ac mae hefyd wedi gweithio gyda Chynghrair Diwylliannol Cymru ar ddatblygiad Contract Diwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru a gweithio i hybu cyfleoedd ar gyfer democratiaeth ddiwylliannol yn y celfyddydau ledled Cymru. 

Mae Karen wedi ymrwymo i ehangu mynediad at hyfforddiant celfyddydol waeth beth fo cefndir yr unigolyn ac i weithio mewn partneriaeth â diwydiant i ddatblygu graddedigion sy’n barod am waith.

Llwyddiannau Nodedig

Bu Karen yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, yn cynnal adolygiad cyflawn o faes dawns ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru. Treuliodd bedair blynedd fel Cyfarwyddwr UK Theatre (2017-21) lle, trwy’r pandemig, bu’n allweddol mewn datblygu canllawiau diogelwch Covid-19 ar gyfer y theatr.

Bu’n Arholwr Allanol ar gyfer cyrsiau Rheolaeth yn y Celfyddydau ac Ymarfer Cydweithredol, ac mae’n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn aelod o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Mae Karen hefyd Gadeirydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac yn Gydymaith Rhyngwladol yn Ysgol Fusnes Prifysgol Harvard. Bu’n Gynghorydd Cenedlaethol i Gyngor Celfyddydau Cymru am nifer o flynyddoedd ac mae wedi bod yn aelod bwrdd gydag amrywiaeth o sefydliadau celfyddydol yn ystod ei gyrfa.

Proffiliau staff eraill