Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Simon Reeves

Rôl y swydd: Pennaeth Dysgu ac Addysgu

Adran: Actio

Anrhydeddau: MA mewn Astudiaethau Llais

Bywgraffiad Byr

Yn wreiddiol, gwnaeth Simon Reeves hyfforddi a gweithio fel actor proffesiynol cyn dychwelyd i’r Central School of Speech and Drama i ddilyn cwrs MA mewn Astudiaethau Llais. Gweithiodd am dros 15 mlynedd fel hyfforddwr actio, llais, testun a thafodiaith mewn llawer o brifysgolion ac ysgolion drama yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi gweithio’n helaeth gyda thestunau Shakespeare. Mae’n rheolaidd yn mentora hyfforddwyr llais ar gyfer y rhaglen MA yn Central ac mae wedi cyfarwyddo cynyrchiadau proffesiynol yn Llundain, Caeredin a Chaerdydd, yn ogystal ag ar gyfer CBCDC.

Arbenigedd

Fel hyfforddwr theatr proffesiynol, mae wedi gweithio gyda National Theatre Wales, Bristol Old Vic Theatre, Salisbury Playhouse, The Young Vic (Llundain), Sheffield Crucible a Theatr Sherman (Caerdydd) ynghyd â sawl cwmni cynhyrchu gan gynnwys y BBC a HBO.

Mae gwaith ymchwil Simon yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â chreu iaith theatrig hygyrch i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar wahân i’r rhai sy’n mynd i’r theatr yn draddodiadol er mwyn gwneud y theatr yn ddiwydiant mwy cynhwysol.

Proffiliau staff eraill