Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Kevin Price

Rôl y swydd: Dirprwy Gyfarwyddwr Cerddoriaeth

Adran: Pres

Anrhydeddau: ARAM, FHEA, BMus, LRSM, LTCL

Bywgraffiad Byr

Ganwyd Kevin Price yn Wellington, Seland Newydd, ac astudiodd ym Mhrifysgol Otago a Phrifysgol Auckland tra’n gweithio fel is-brif drombonydd gyda’r Auckland Philharmonia ac fel chwaraewr llawrydd gyda’r New Zealand Symphony Orchestra. Symudodd i Lundain ym 1989 ar ôl ennill ysgoloriaeth yr Associated Board of the Royal Schools of Music (ABRSM) ar gwrs ôl-raddedig yn y Coleg Cerdd Brenhinol a’r Academi Gerdd Frenhinol, gan arwain at waith llawrydd gyda sawl cerddorfa yn Llundain. Wedi hynny, penodwyd Kevin yn Brif Drombonydd gyda’r Royal Liverpool Philharmonic Orchestra a bu’n addysgu’r trombôn ar gyfer Chetham’s School of Music a’r Royal Northern College of Music.

Arbenigedd

Yn 2005, penodwyd Kevin yn Bennaeth Astudiaethau Pres ac Offerynnau Taro yn CBCDC, gan alluogi iddo adeiladu ar draddodiad cyfoethog o berfformio ar lefel uchel a goruchwylio datblygiad gweithgarwch galwedigaethol ym maes cerddoriaeth siambr pres, perfformio hanesyddol, allgymorth addysgol, dulliau addysgu pres ac arferion iach.

Mae Kevin yn arholwr mewn ysgolion cerdd arbenigol a conservatoires yn y Deyrnas Unedig ac mae’n gweithio fel adolygydd a beirniad mewn cystadlaethau a gwyliau cerdd. Mae’n arholwr Diploma ar gyfer yr Associated Board of the Royal Schools of Music a chafodd ei wneud yn Aelod Cyswllt o’r Academi Gerdd Frenhinol (ARAM) yn 2012. Mae’n aelod o’r Court of Assistants ar gyfer Cymdeithas Frenhinol y Cerddorion ac mae’n cynorthwyo gwaith Musicians’ Benevolent Fund a’r British Association for Performing Arts Medicine (BAPAM), gan helpu cerddorion sy’n perfformio i ddilyn gyrfaoedd prysur ac iach.

Ers 2016, gweithiodd Kevin fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Dros Dros CBCDC, gan arwain at ei benodiad yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yn 2019. Yn ei rôl, mae gofyn iddo gydbwyso a phlethu hyfforddiant proffesiynol y myfyrwyr a rhaglen fywiog ac amrywiol y celfyddydau yn CBCDC, gan sicrhau bod pob artist o safon fyd-eang sy’n ymweld â CBCDC yn cynnig budd sylweddol i brofiad hyfforddi’r myfyrwyr. Tra’n datblygu a hwyluso cyfleoedd perfformio trawsddisgyblaethol a gwelliannau parhaus i’r myfyrwyr, mae hefyd yn helpu i ddatblygu proffil y Coleg fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, a’i rôl mewn addysg cerddoriaeth yng Nghymru ac yn rhwydweithiau rhyngwladol y diwydiant cerddoriaeth.

Cyflawniadau Nodedig

Mae Kevin yn arholwr Diploma ABRSM (Arwain, Addysgu ac Offerynnol), ac mae hefyd yn Gynghorydd Maes Llafur y Diploma (2013-). Gwasanaethodd fel arholwr allanol i Ysgol Gerdd Chetham ac ef yw’r Aseswr Pres ar gyfer Ysgol Purcell. Bu’n arholwr pres allanol yn y Birmingham Conservatoire (2017) a’r Royal Northern College of Music (2016). Y mae hefyd ar Bwyllgorau Cynghori Band Pres Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (2012-), a Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru (2009-).

Mae Kevin yn cadeirio paneli clyweliadau ar gyfer Cerddor Ifanc y Flwyddyn BBC ac mae’n feirniad ac arholwr rheolaidd ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’n ymddiriedolwr y Mavron String Quartet ac yn aelod o’r Pwyllgor Cynghori ar gyfer Sefydliad Benedetti. Cyflwynodd ‘Berthnasedd Sefydliadol’ yng Nghyngres Flynyddol a Chynulliad Cyffredinol yr AEC, Graz (2018).

Mae Kevin wedi cydweithio â Dr Alan Watson (Darllenydd mewn Anatomeg a Niwrowyddoniaeth, Prifysgol Caerdydd) mewn sawl astudiaeth ar ffisioleg perfformio pres. Mae’r rhain yn cwmpasu osgo, anadlu a swyddogaeth y genau. Bu myfyrwyr CBCDC ac Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd, yn ymwneud â’r rhain, ynghyd â chwaraewyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â CBCDC. Cefnogwyd y gwaith gan gyllid Dyfarniad y Bobl Wellcome Trust (2007-2009) a grant ‘Effaith Cerddoriaeth’ yr AHRC ar draws sawl conservatoire (2013-2017).

Proffiliau staff eraill