
CBCDC yn penodi Dr. Fiona McAndrew yn Bennaeth Llais newydd.
Darllen mwy
Ar hyn o bryd Ali yw Cyfarwyddwr Drama Ysgol Theatr Old Vic Bryste, ar ôl gweithio am flynyddoedd lawer yng Nghonservatoire Brenhinol yr Alban, lle bu’n allweddol mewn llawer o ddatblygiadau newydd gan gynnwys actio ar gyfer y sgrin, cydweithio â cherddoriaeth, a dad-wladychu’r cwricwlwm.
‘Mae Ali wedi ymrwymo’n ddwfn i werthoedd y Coleg o hyfforddiant trylwyr, gan alluogi myfyrwyr i fod y gorau y gallant a llwyddo yn y proffesiwn. Gyda’i brofiad eang mewn hyfforddiant actio a theatr gerddorol, llunio rhaglenni artistig, a chysylltu â diwydiant, mae Ali yn gyfarwydd iawn â gweithio gyda diwydiant sy’n newid yn gyflym a newid cymdeithasol, gan gynnwys pwysau ariannol, a dull blaengar.’
Rydw i hefyd eisiau diolch i Jonathan Munby, sy’n ein gadael ni fel Pennaeth Perfformio Drama, a chydnabod faint y mae wedi’i gyfrannu i CBCDC dros y pum mlynedd diwethaf, a sut rydw i wedi gwerthfawrogi’n fawr ei waith artistig, a sut y mae ffocws yr hyfforddiant wedi datblygu a ffynnu.
Mae’r llwybrau gwych y mae ein graddedigion yn eu troedio yn dweud y cyfan. Gwyddom ei fod yn parhau i fod yn hyrwyddwr cadarn i’r Coleg, ac edrychwn ymlaen at ei groesawu’n ôl i weithio ar brosiectau gyda ni.’Helena GauntPrifathro
‘Rwyf wrth fy modd, yn llawn cyffro ac yn ei theimlo’n fraint i fod yn ymuno â CBCDC. Rwy’n gobeithio y gallaf gyfrannu at enw da gwych y Coleg yma yng Nghymru, yn genedlaethol ac ar lwyfan y byd, gan adeiladu ar y llwyddiannau trawiadol y mae Jonathan a’i dîm wedi’u cyflawni dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a chryfhau’r berthynas rhwng cerddoriaeth a drama.’Ali de SouzaPennaeth Perfformio Drama newydd