Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Helena Gaunt

Rôl y swydd: Prifathro Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Mae Helena Gaunt yn gerddor, yn awdur ac yn arweinydd meddwl ar addysg cerddoriaeth ac ymarfer proffesiynol, a hithau wedi bod yn chwarae’r obo yn broffesiynol am flynyddoedd lawer, ac yn aelod sylfaenol o’r Britten Sinfonia. Helena yw Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (RWCMD) ac mae’n Athro yma. Mae hi’n aelod o Gyngor y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol, ac wedi cyflawni rôl arweiniol yn ddiweddar ar gyfer prosiect mawr Cymdeithas Conservatoire Ewrop, Cryfhau Cerddoriaeth mewn Cymdeithas.

Ymunodd Helena â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2018 ar ôl bod yn dysgu ac yn arwain yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall yn Llundain am dros 25 mlynedd. Yno, roedd hi’n gyfrifol am gychwyn ac am gyfarwyddo’r Gynhadledd ryngwladol ar gyfer y Conservatoire Myfyriol. Bu hefyd yn cadeirio’r bartneriaeth Conservatoire Arloesol (ICON), a sefydlodd gynllun Entrepreneuriaid Creadigol y Guildhall, gan feithrin dros 40 o fusnesau newydd yn y celfyddydau perfformio.

Mae ei phrif gyhoeddiadau’n cynnwys ‘Musicians as “Makers in Society”: A Conceptual Foundation for Contemporary Professional Higher Music Education’ (2021);  Expanding Professionalism in Music and Higher Music Education: A Changing Game (2021) a gyd-olygwyd gyda’r Athro Heidi Westerlund; Musicians in the Making: Pathways to Creative Performance (2017) a gyd-olygwyd gyda’r Athro John Rink a’r Athro Aaron Williamon, a Collaborative Learning in Higher Music Education (2013). Mae Helena yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol (2009) ac yn Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd ac mae ganddi bump o blant, gan gynnwys dwy set o efeilliaid.

Proffiliau staff eraill