Neil Crossley
Ymgynghorydd Chwythbrennau Aml-Offeryn
Hyfforddodd Lucy Hall yn y Central School of Art yn Llundain gyda Pamela Howard ac yn NYU Tisch School of the Arts, Efrog Newydd. Derbyniodd Lucy gymrodoriaeth Bunkacho y llywodraeth i artistiaid o dramor, gan ganiatáu iddi dreulio blwyddyn yn Japan yn astudio theatr draddodiadol Japan.
Mae wedi gweithio fel dylunydd set a gwisgoedd i theatrau ym Mhrydain a thramor, gan gynnwys Ambassadors Theatre, Gielgud Theatre ac Arts Theatre in the West End, Royal Court Theatre, Hampstead Theatre, Gate Theatre, National Theatre Studio, Sheffield Crucible, Glasgow Citizens, Stephen Joseph Theatre Scarborough, Salisbury Playhouse, Bath Theatre Royal, English Touring Theatre, English Touring Opera, Prosiectau Theatr Tokyo, Opera Copenhagen, Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd.
Mae gan Lucy gymhwyster TAR a bu’n rhan o amryw brosiectau theatr mewn addysg a gydlynwyd gan y South Bank Centre, Royal Court Theatre ac English Touring Opera a bu’n Artist Preswyl mewn amryw leoliadau addysg. Y tu allan i addysgu dylunio, mae’n cydweithio â staff a myfyrwyr i dynnu sylw at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ymdrechu i ddarparu hyfforddiant cynhwysol sy’n addas i’r dyfodol ac sy’n adlewyrchu’r 21ain ganrif. Mae’n gweithio i roi lle ‘oddi mewn i’r gwaith’ i’r myfyrwyr, yn ogystal ag addysgu’r sgiliau, ac mae’n gynrychiolydd Stage Sight yn CBCDC sy’n brwydro i gynyddu amrywiaeth ymhlith rolau oddi ar y llwyfan.
Yn ddiweddar, graddiodd Lucy â rhagoriaeth o gwrs MA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ac mae’n parhau i ddatblygu ei hymarfer mewn Celfyddyd Gain ynghyd ag addysgu a dylunio. Mae ffocws ar systemau gwerth wedi’u priodoli i lafur menywod yn thema sy’n rhedeg drwy eu hymarfer.
Daeth Lucy yn Uwch Cymrawd yr Academi Addysg Uwch (SFHEA) yn 2023.