Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Cystadleuaeth gyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel: Hyrwyddo creadigrwydd, dathlu Cymru a chefnogi perfformwyr sy’n dod i’r amlwg

Gan ddathlu byd amrywiol adrodd straeon drwy gân, mae Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn hyrwyddo lleisiau talentog newydd, ac yn arddangos potensial mynegiant pwerus drwy wahanol ieithoedd.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC, Cerddoriaeth, Opera, Llais

Dyddiad cyhoeddi

Published on 21/10/2025

Cyngerdd cyhoeddus rownd derfynol y wobr, dydd Sadwrn 8 Tachwedd, Neuadd Dora Stoutzker, CBCDC

Gan ddathlu byd amrywiol adrodd straeon drwy gân, mae Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn hyrwyddo lleisiau talentog newydd, ac yn arddangos potensial mynegiant pwerus drwy wahanol ieithoedd. 

Gan gystadlu am wobr o £15,000, bydd cantorion israddedig sydd wedi’u henwebu o brif ysgolion cerdd y DU yn perfformio rhaglen o dri darn, cân gelf o’u dewis, cân sy’n dathlu eu hiaith a’u diwylliant eu hunain, a chân osod Gymraeg, Pan Ddaw’r Nos gan Meirion Williams. 

Ac yntau’n dod o wlad y gân, mae Bryn yn angerddol am ei dreftadaeth ddiwylliannol, ac yn enwedig Caneuon Cymraeg. Ar ôl ennill Gwobr y Gân cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC ym 1989, ac yna ei yrfa glodwiw fel canwr opera, mae’n arbennig o bwysig bod y wobr hon yn ei enw yn canolbwyntio ar y gelfyddyd sydd ei angen ar gân. 

Yn ymuno â Bryn, y Prif Feirniad, mae panel rhyngwladol nodedig o arbenigwyr canu ac opera sef y cynhyrchydd cerddoriaeth glasurol o’r Almaen Ute Fesquet, a arferai fod yn Deutsche Grammophon, John Fisher, cyn Gyfarwyddwr Gweinyddu Cerddoriaeth yn Metropolitan Opera a chyn Gyfarwyddwr Artistig WNO, y mezzo-soprano o Awstria Angelika Kirchschlager, a’r arweinydd opera rhyngwladol ac Arweinydd Llawryfog Opera Cenedlaethol Cymru Carlo Rizzi. 

Cynhelir dosbarthiadau meistr hefyd gyda’r soprano Rebecca Evans CBE a Richard Hetherington, Pennaeth Cerddoriaeth yn y Tŷ Opera Brenhinol, a sesiwn Holi ac Ateb gyda’r soprano April Koyejo-Audiger a’r tenor ifanc o Gymru Ryan Vaughan Davies, a gynrychiolodd ei wlad yn ddiweddar yng nghyngerdd gala Canwr y Byd Caerdydd. 

Mae’r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, y cyhoeddir eu henwau’n fuan, yn gantorion ifanc o brif ysgolion cerdd y DU sy’n cwblhau eu hastudiaethau israddedig ac yn symud i hyfforddiant gradd meistr pwysig a fydd yn eu rhoi ar y llwybrau i yrfaoedd proffesiynol. 

‘Rwy’n llawn cyffro i gael y wobr y gân anhygoel hon yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel rhan o’n cronfa newydd, Cronfa Syr Bryn Terfel. Pan newidiodd fy nghanu o fod yn ddiddordeb er pleser yn rhywbeth mwy difrifol, newidiodd fy holl safbwynt mewn amrantiad. Fe wnes i ymroi i ddysgu mwy a mwy am draddodiad y gân Gymraeg, a daeth perfformio a recordio’r caneuon hyn yn rhywbeth angerddol i mi.

Yna, agorodd yr angerdd hwn y drysau i’r Lied Almaeneg, y Chanson Ffrangeg, a’r gân Saesneg, gan arwain at y gystadleuaeth wych honno yng Nghanwr y Byd Caerdydd ym 1989 lle’r oeddwn i’n ddigon ffodus i ennill Gwobr y Gân.

Bydd un gân Gymraeg ysbrydoledig ar gyfer yr holl gystadleuwyr yn rhan annatod o’r gystadleuaeth newydd hon - a phwy a ŵyr, efallai mai dyma fydd y catalydd i fyfyrwyr ddarganfod angerdd dros y caneuon hyn, a dros ganu mewn iaith arall, sef y Gymraeg - elfen gofiadwy arall yn eu taith artistig.

Rydw i wrth fy modd fy mod, o’r diwedd, yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl. Gwaith caled, ymroddiad a rhagoriaeth fydd nod terfynol y myfyrwyr, ond bydd un ohonynt yn ennill y wobr ystyrlon hon a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu breuddwydion a’u dyheadau ymhellach fyth mewn cyfnod o ansicrwydd ofnadwy yn y celfyddydau.

Pob hwyl i’r holl gystadleuwyr a llongyfarchiadau i’r Gronfa sy’n datblygu’n barhaus. Gadewch i ni wneud hon yn llwyddiant mawr, nawr ac i’r dyfodol.’
Syr Bryn Terfel

Cyn y rownd derfynol ar ddydd Sadwrn 8 Tachwedd, cynhelir preswyliad tri diwrnod wedi’i ariannu’n llawn yn y Coleg, a fydd yn cynnwys darlith gan yr Archdderwydd, y bardd a’r ieithydd, Mererid Hopwood, gweithdai symud, hyfforddiant o ran y Gymraeg gyda Bryn ei hun, amser unigol gyda mentoriaid, a dosbarthiadau meistr.

‘Nid yw dewis bywyd yn y celfyddydau byth y llwybr hawsaf, felly mae’n hollbwysig ein bod yn annog cenedlaethau’r dyfodol o artistiaid ifanc talentog i ymuno â ni - i arloesi, i greu gwaith eithriadol, ac i helpu i siapio diwydiant sy’n parhau i gael effaith gadarnhaol.

Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn angerddol am sicrhau bod pobl ifanc o bob rhan o Gymru, y DU a ledled y byd, yn darganfod y cyfoeth diwylliannol sydd gan y wlad hon a’r Coleg hwn i’w gynnig. Ochr yn ochr â Bryn, mae dathlu, hyrwyddo a rhannu’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ganolog i’r genhadaeth honno.’

Rydym wrth ein bodd ac wedi ein hysbrydoli i gydweithio ag ef, gan gefnogi prosiectau fel Gwobr y Gân, i ddod â’i weledigaeth yn fyw, a gyda’n gilydd drwy Sefydliad Cronfa i roi rhywbeth yn ôl i Gymru.’
TIm Rhys-EvansCyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC

Caradog Williams ac Iwan Teifion Jones fydd y pianyddion, a fydd yn arwain ac yn perfformio gyda’r cantorion ifanc wrth iddynt ddod â’r caneuon hyn yn fyw.

Nodiadau i Olygyddion

Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel   

Cynigir Gwobr y Gân newydd bob dwy flynedd gyda gwobr o £15,000.

Mae’r preswyliad tri diwrnod a’r wobr yn agored i gantorion ifanc sy’n cwblhau eu hastudiaethau israddedig ac yn symud i hyfforddiant gradd meistr pwysig a fydd yn eu rhoi ar y llwybrau i yrfaoedd proffesiynol.

Ar gyfer y flwyddyn lansio hon bydd conservatoires yn y DU yn dewis myfyriwr i gystadlu. Yn y blynyddoedd i ddod bwriedir agor y cyfle i gymryd rhan ar ffurf clyweliadau ehangach a bydd yn cynnwys cantorion ifanc o sefydliadau rhyngwladol.

Cronfa Syr Bryn Terfel

Gan rannu penderfyniad i bwysleisio pwysigrwydd y celfyddydau yn ein cymdeithas ac i hyrwyddo cenedlaethau’r dyfodol o grewyr a pherfformwyr, lansiodd CBCDC a’i Is-lywydd Syr Bryn Gronfa Syr Bryn Terfel i adeiladu ffynhonnell gymorth newydd sylweddol ar gyfer artistiaid ifanc talentog sy’n hyfforddi yn y Coleg.

Mae Cronfa Syr Bryn Terfel, a ddatblygwyd gyda CBCDC, yn darparu cyfleoedd gyda ffocws ar ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr na fyddent fel arall efallai’n gallu elwa o hyfforddiant uwch oherwydd rhwystrau ariannol.

Bydd hefyd yn ariannu prosiectau sy’n dathlu treftadaeth gerddorol Bryn ac yn adlewyrchu ei angerdd dros y Gymraeg a diwylliant Cymru, gan gynnwys ei Wobr y Gân newydd.

Y beirniaid

Ute Fesquet, Rheolwr Cerddoriaeth gwobrwyedig, cynhyrchydd cerddoriaeth glasurol Almaenig, a arferai fod yn Deutsche Grammophon. Mae hi’n fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda John Williams: The Berlin Concerto a Live in Vienna, ac Anne-Sophine Mutter a Mendelssohn.

Mae John Fisher yn arweinydd, rheolwr opera, hyfforddwr llais a chynhyrchydd recordiau. Yn flaenorol roedd yn Weinyddwr Artistig La Scala ym Milan, Cyfarwyddwr Gweinyddu Cerddoriaeth yn Metropolitan Opera, Cyfarwyddwr Artistig WNO, yn ogystal â Chyfarwyddwr Artistig Ysgol Opera David Seligman CBCDC.

Angelika Kirchschlager, mezzo-soprano fyd-enwog o Awstria, a gafodd glod fel un o ddehonglwyr mwyaf blaenllaw operâu Richard Strauss a Mozart. Mae ei gwobrau niferus yn cynnwys Grammy, ac yn 2007 fe’i gwnaed yn Kammersängerin yn Opera Gwladol Fienna gan Lywodraeth Awstria.

Carlo Rizzi, arweinydd opera rhyngwladol ac Arweinydd Llawryfog Opera Cenedlaethol Cymru. Ef yw Cyfarwyddwr Artistig Opera Rara ac mae hefyd Athro Cadair Rhyngwladol y Coleg mewn Arwain.

Negeseuon newyddion eraill