Neidio i’r prif gynnwys

Moeseg ymchwil

Yma yn y Coleg rydym yn disgwyl i’r holl staff a myfyrwyr gadw at y safonau moesegol a phroffesiynol uchaf yn eu hymchwil.

Mae'r cod ymddygiad wedi'i ategu gan ffynonellau perthnasol o arfer gorau yn y sector, gan gynnwys y Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil, yn ogystal â pholisïau ar ymddygiad ymchwil da sy'n cael eu darparu gan Conservatoires UK a Swyddfa Uniondeb Ymchwil y DU. Mae gennym gyfrifoldeb i weithredu yn unol â Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Pwyllgor Nolan:

  • Anhunanoldeb
  • Uniondeb
  • Gwrthrychedd
  • Atebolrwydd
  • Bod yn agored
  • Gonestrwydd
  • Arweinyddiaeth

Mae’r rheini sy’n ymwneud ag ymchwil yn meithrin arfer da ac uniondeb deallusol ym mhob sefyllfa broffesiynol. Dyma'r egwyddorion sy'n cael eu pwysleisio gan ymchwilwyr ar bob lefel:

  • Gofal ac osgoi niwed
  • Gonestrwydd a bod yn agored
  • Atebolrwydd a dogfennaeth briodol
  • Cyfrinachedd
  • Caniatâd gwybodus
  • Osgoi gwrthdaro buddiannau
  • Cydymffurfio â’r gyfraith a chodau ymddygiad perthnasol
  • Cydnabyddiaeth ddyladwy i gydweithwyr, hysbyswyr, cyfranogwyr neu gyfranwyr eraill

Rhaid i bob ymchwil sy’n cynnwys cyfranogwyr dynol yn CBCDC gael cymeradwyaeth foesegol. Mae angen cymeradwyaeth foesegol hefyd ar gyfer prosiectau nad ydynt efallai’n cynnwys cyfranogwyr dynol ond sy’n codi materion moesegol eraill o fewn goblygiadau cymdeithasol neu amgylcheddol posibl yr astudiaeth. Cyflwynir pob prosiect i’r Is-bwyllgor Moeseg Ymchwil i’w gymeradwyo. Gall Pwyllgor Moeseg Ymchwil Conservatoires UK graffu ar brosiectau risg uwch, yn ogystal â’r rheini sy’n ymwneud â sefydliadau heblaw CBCDC. Mae Dr James Lea, Cadeirydd yr Is-bwyllgor Moeseg Ymchwil, yn gweithredu fel yr aelod staff sy’n goruchwylio uniondeb ymchwil a’r pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un sydd am gael rhagor o wybodaeth am faterion uniondeb ymchwil.

Mae staff yn cael eu diweddaru’n rheolaidd ar arfer ymchwil dda.

Gweithdrefnau ymgeisio

Ar gyfer myfyrwyr sy’n gwneud ymchwil, dechreuwch gyda thrafodaeth â’r goruchwyliwr neu arweinydd y modiwl. Bydd cais wedyn yn cael ei gyflwyno i arweinydd y modiwl. Mae ceisiadau am gymeradwyaeth foesegol yn cynnwys y ffurflen cymeradwyaeth foesegol, taflenni gwybodaeth cyfranogwyr, ffurflenni caniatâd cyfranogwyr, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall, megis holiaduron.

Bydd arweinydd y modiwl yn anfon y cais at Ysgrifennydd y Pwyllgor (keiron.burrows@rwcmd.ac.uk) gyda’r testun: ‘Cais i Bwyllgor Moeseg CBCDC’. Ar gyfer staff sy’n gwneud gwaith ymchwil, bydd y cais fel arfer yn cael ei anfon at Bennaeth yr Adran cyn ei anfon at Ysgrifennydd y Pwyllgor.

Rhagor o wybodaeth


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf