Neidio i’r prif gynnwys

Tair arddangosfa cynllunio rhyngwladol yn arddangos y celfyddydau cynhyrchu yng Nghymru

Mae Sean Crowley, Cyfarwyddwr Drama CBCDC, wedi chwarae rôl flaenllaw mewn tair arddangosfa ryngwladol a oedd yn arddangos agweddau ar y celfyddydau cynhyrchu yng Nghymru. Drwy eu cynlluniau gwirfoddoli a interniaeth arloesol, mae’r arddangosfeydd hyn wedi cael effaith fawr ar yrfaoedd myfyrwyr ac ymarferwyr ifanc.

Curadodd a threfnodd Sean Crowley World Stage Design 2013, a gynhaliwyd yn CBCDC. Mynychodd dros 10,000 o gynadleddwyr rhyngwladol yr arddangosfa ac roedd yn cynnwys rhaglen wirfoddoli a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygiad artistiaid yng nghamau cynnar eu gyrfa.

Yn 2018 cynhaliodd CBCDC OISTAT50, dathliad 50 mlynedd arddangosfa Sefydliad Rhyngwladol Senograffwyr, Penseiri a Thechnegwyr Theatr, y gwnaeth Sean unwaith eto ei churadu a’i threfnu ac un y cyfrannodd ef arddangosyn personol ar ei chyfer, sef cynnwys stiwdio gynllunio y diweddar Paul Brown. 

Ganwyd Paul Brown ym Morgannwg a hyfforddodd yng Nghymru cyn dod yn un o gynllunwyr mwyaf nodedig y byd ym meysydd opera, theatr a ffilm. Gadawodd ei stiwdio i CBCDC, lle adeiladodd Sean ‘stiwdio ffrwydredig’ a oedd yn caniatáu i’r gwylwyr brofi’r teimlad o fod yng nghwmni’r artist wrth ei waith. Mae cynnwys y stiwdio yn dal i fod yn CBCDC, lle bydd myfyrwyr yn aml yn ei defnyddio ar gyfer ysbrydoliaeth wrth iddynt weithio ar eu gweledigaethau eu hunain.

Yn dilyn llwyddiant OISTAT50, gwahoddwyd Sean Crowley i arddangos rhan o stiwdio Paul Brown yn arddangosfa Prague Quadrennial Fragments ym mis Mehefin 2019. Mae arddangoswyr blaenorol yn y Prague Quadrennial of Performance Design and Space wedi cynnwys Salvador Dalí, Josef Svoboda, Oscar Niemeyer, Tadeusz Kantor a Renzo Piano. Yn arwyddocaol, yn 2019 am y tro cyntaf gwahoddwyd Cymru i arddangos yn ei hawl ei hun ac nid fel rhan o’r DU. 

Yn PQ2019, gofynnwyd i Sean arwain rhaglen interniaeth arloesol, gan adeiladu ar waith y rhaglenni gwirfoddoli yn WSD2013 ac OISTAT50. Mae’r rhaglenni interniaeth hyn wedi chwarae rhan hollbwysig mewn cefnogi datblygiad cynnar gyrfaoedd mewn diwydiant byd-eang ac erbyn hyn maent yn nodwedd sydd wedi’u gwreiddio yn nigwyddiadau arloesol y diwydiant.


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf