

Newyddion
Cyfarwyddwr Cynllunio ar gyfer Perfformio CBCDC yn ennill Gwobr Pin Aur Rhyngwladol am gyflawniad oes ym maes Cynllunio Llwyfan
Mae Sean Crowley, Cyfarwyddwr Drama a Phennaeth Cynllunio ar gyfer Perfformio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, wedi derbyn Gwobr Pin Aur nodedig am gyflawniad oes ym maes Cynllunio Llwyfan gan OISTAT (Sefydliad Rhyngwladol Senograffwyr, Penseiri a Thechnegwyr Theatr) yn arddangosfa World Stage Design 2025, a gynhaliwyd eleni yn Sharjah.
Mae Sean, a ddathlodd 25 mlynedd yn ei swydd yn CBCDC y llynedd, yn arweinydd ym maes cynllunio theatr ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.
Yn ystod y cyfnod hwn mae ei ffocws ar ‘hyfforddiant ysgol gelf’ mewn lleoliad conservatoire, a’i angerdd dros wneud cwrs Cynllunio y Coleg mor hygyrch â phosibl, gan annog pobl na fyddent fel arfer yn meddwl am astudio mewn conservatoire i wneud cais, wedi arwain at hanes eithriadol yn y Wobr Linbury nodedig am Gynllunio Llwyfan.
Yr unig wobr genedlaethol ar gyfer talentau cynllunio sy’n dod i’r amlwg yn y DU, mae bron i hanner y rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn saith mlynedd diwethaf Gwobr Linbury wedi astudio yn CBCDC.
‘Rydw i wrth fy modd yn derbyn y wobr hon.’ Mae’n gydnabyddiaeth ystyrlon o fy ymrwymiad hirsefydledig i OISTAT, dros bron i ugain mlynedd, i greu cyfleoedd i ymarferwyr a myfyrwyr ddod at ei gilydd, rhannu profiadau, a dathlu’r gwaith rydyn ni’n ei gynhyrchu.
Rydw i bob amser wedi cael ysbrydoliaeth o allu cynnig cyfle i’m myfyrwyr gymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngwladol. Mae’r profiadau hyn nid yn unig yn cyfoethogi eu dysgu ond hefyd yn ein helpu i godi proffil yr adran gynllunio a’r Coleg, gan ehangu ein cymuned ryngwladol.
Mae’n anrhydedd fawr i mi gael fy enwebu gan gynllunwyr mor wych.’Sean CrowleyCyfarwyddwr Cynllunio ar gyfer Perfformio, CBCDC
Mae Sean wedi ymrwymo i feithrin cydweithio rhyngwladol, cyfnewid artistig, a datblygiad addysgol, fel y dangosir yn ei waith gydag OISTAT dros nifer o flynyddoedd, yn enwedig trwy ei ymgysylltiad parhaus yn y Comisiwn Addysg a’r Pwyllgor Gweithredol.
Yn 2013 roedd yn Gyfarwyddwr World Stage Design pan ddaeth y digwyddiad i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. O dan ei arweiniad daeth WSD 2013 nid yn unig yn arddangosfa ragorol, ond hefyd yn fan cyfarfod hollbwysig ar gyfer deialog, arloesedd, a chyfnewid rhyngddisgyblaethol ymhlith gweithwyr proffesiynol theatr, addysgwyr, a myfyrwyr.
Yn fwy diweddar, mae ei waith gydag OISTAT wedi cynnwys cydlynu rhaglen Gwirfoddolwyr Rhyngwladol WSD 2025, gan gyfuno arweinyddiaeth, effaith addysgol, a rheoli prosiectau rhyngwladol.
‘Mae Sean yn ffigur allweddol i fyfyrwyr a chynllunwyr ifanc ledled y byd. Trwy ei haelioni, ei wybodaeth ddofn, a’i ysbryd cydweithredol, mae’n ysbrydoli ac yn symud gweithwyr proffesiynol ac addysgwyr ar draws ffiniau, gan helpu ymarferwyr sy’n dod i’r amlwg i ddilyn cyfleoedd astudio a gyrfa pellach.
Mae llawer ohonynt yn parhau i ddilyn a chefnogi ei waith trwy wirfoddoli yn y digwyddiadau y mae’n eu harwain. Mae ymroddiad a dylanwad rhyfeddol Sean Crowley yn ei wneud yn enillydd gwirioneddol haeddiannol.’Gwobr OISTAT
Nodiadau i Olygyddion
World Stage Design (WSD) yw’r arddangosfa gyntaf, a’r unig un, sy’n canolbwyntio ar gynllunwyr i arddangos a dathlu cynllunio ar gyfer perfformio gan gynllunwyr unigol. Wedi’i chynnal bob pedair blynedd, mae WSD bellach wedi teithio i bum dinas: Toronto, Seoul, Caerdydd, Taipei, a Calgary. Cynhaliwyd chweched arddangosfa WSD yn Sharjah, Emiradau Arabaidd Unedig.
Gwobr Linbury
Dyfernir Gwobr Linbury fawreddog, unig wobr genedlaethol y DU ar gyfer talent cynllunio sy’n dod i’r amlwg, bob dwy flynedd ac mae’n cefnogi cynllunwyr i ddatblygu gyrfa gynaliadwy yn y diwydiant creadigol.
Mae cynllunwyr CBCDC sy’n enillwyr Gwobr Linbury yn ymgorffori ysbryd hyfforddiant ar draws y Coleg, gan gofleidio cydweithio, a dull di-ofn o fynd â’u celf i fannau newydd, gan archwilio’r lle a’i berthynas â chynulleidfa er mwyn herio ac ymgysylltu.











