Neidio i’r prif gynnwys

Ymchwil ac arloesi

Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae gennym ddiwylliant ymchwil bywiog sy’n cwmpasu cerddoriaeth, drama, dylunio ar gyfer perfformio, a rheoli llwyfan.

Ymchwil arloesol gyda chreadigrwydd wrth ei galon

Mae ein hymchwilwyr yn ymgymryd â gwaith arloesol mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan ddefnyddio methodolegau sy’n seiliedig ar ymarfer yn ogystal â dulliau mwy damcaniaethol.  

Mae llawer o’n gweithgarwch ymchwil wedi’i gysylltu’n agos â’n rhaglen greadigol gyhoeddus sy’n cynnwys dros 500 o ddigwyddiadau bob blwyddyn ac sy’n cael eu cynnal ar draws mannau perfformio ac ymarfer y Coleg, sydd o safon y diwydiant. 

Ein hymchwil ddiweddaraf

Mae prosiectau ymchwil presennol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cynnwys gwaith newydd ar y canlynol:

  • cyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth
  • cerddoriaeth Gymreig
  • symudiad ac ymgorfforiad mewn perfformio
  • mynediad a chynwysoldeb wrth ddylunio ar gyfer perfformiad
  • hanes perfformio Shakespeare
  • drama fodern gynnar
  • creu lleoedd
  • arfer addysgeg

Mae allbynnau ymchwil yn cynnwys llyfrau, perfformiadau byw, dehongliadau, cyfansoddiadau, argraffiadau beirniadol, recordiadau ac adnoddau addysgol.

Prosiectau cydweithredol sy’n rhoi hwb i’r economi greadigol

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn rhan o gonsortiwm Dyfarniad Ffocws Doethurol y Cilgant Celtaidd. Mae’r fenter hon, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn cefnogi ymchwil arloesol i rôl cymunedau dwyieithog, gwledig ac ôl-ddiwydiannol yn yr economi greadigol. 

Rhagor o wybodaeth am ymchwil yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Ella Hawkins, Uwch-ddarlithydd mewn Ymchwil ac Arloesi (Drama), neu Dr James Lea, Uwch-ddarlithydd mewn Ymchwil ac Arloesi (Cerddoriaeth).

Darllen ein straeon am effaith ymchwil

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

(Gofynnol)

(Gofynnol)

(Gofynnol)

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Adran archwilio

Newyddion diweddaraf