

Newyddion
Stevie Wonder yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mewn cyngerdd yng Nghaerdydd
Mae Cymrodoriaeth er Anrhydedd wedi'i dyfarnu i Stevie Wonder, un o wir fawrion y byd cerdd, gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru neithiwr.
'Ar ran Cymru, a Choleg Brenhinol Cymru, ei conservatoire cenedlaethol, rwy'n falch iawn bod Stevie Wonder wedi derbyn y dyfarniad hwn i anrhydeddu ei gyfraniad enfawr i fyd cerddoriaeth.
Mae ei dalent a'i effaith anhygoel wedi bod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth i lawer, ac rydym wrth ein bodd yn ei groesawu i Gaerdydd. Mae’r ffaith ei fod yn derbyn yr anrhydedd yn ysbrydoliaeth aruthrol i'n myfyrwyr a'r gymuned ehangach.'Y Fonesig Shirley BasseyLlywydd, CBCDC
Dyfarnwyd y Gymrodoriaeth i'r canwr-gyfansoddwr a cherddor anfarwol gan Brifathro Coleg Brenhinol Cymru, Helena Gaunt, a Chyfarwyddwr Cerdd, Tim Rhys-Evans. Derbyniodd Stevie y wobr Anrhydeddus ar y llwyfan yn ystod ei gyngerdd ar gaeau Gored Ddu yng Nghaerdydd, fel rhan o gyfres newydd o gerddoriaeth fyw awyr agored.
'Cymru yw gwlad y gân,' meddai Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC,
'A Stevie, mae eich caneuon wedi newid y byd. Mae mor hyfryd eich cael chi yma ym mhrifddinas ein gwlad, diolch yn fawr – diolch am ddod. Anrhydedd o’r mwyaf i ni yw cael cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd Coleg Brenhinol Cymru i chi.'Tim Rhys-EvansRWCMD Director of Music
'Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni'n gwybod y bydd yn ysbrydoli ein holl fyfyrwyr a phob person ifanc yng Nghymru i barhau i wneud cerddoriaeth, i barhau i freuddwydio, ac i newid y byd er gwell'Helena GauntPrifathro’r Coleg
Ar ôl derbyn yr anrhydedd dywedodd Stevie wrth y dorf, 'y gwir yw, yn fuan ar ôl fy ngeni fe wnes i fynd yn ddall. Roedd hynny'n fendith oherwydd fe wnaeth ganiatáu i mi weld y byd drwy wirionedd a golwg, gweld pobl drwy eu hysbryd, nid sut maen nhw'n edrych, nid pa liw ydyn nhw, ond eu hysbryd.'
Gwnaeth Stevie hefyd gwrdd â'r pianydd a raddiodd o CBCDC, Rachel Starritt, sydd fel Stevie Wonder yn ddall, a'r fyfyrwraig jazz bresennol, Isla Croll, gefn llwyfan ar ôl y cyngerdd.
Ynghyd â Chymrodyr er Anrhydedd eraill 2025, mae Stevie yn ymuno â rhestr fawreddog CBCDC o Gymrodorion, sy’n cael eu dyfarnu bob blwyddyn i anrhydeddu artistiaid sydd wedi cyflawni rhagoriaeth yn niwydiannau’r celfyddydau creadigol a pherfformio, gan adeiladu perthynas llawn ysbrydoliaeth â'r Coleg a'i waith.
Diolch i RNIB am ddarparu sgrôl y Gymrodoriaeth er Anrhydedd mewn braille ar gyfer Stevie Wonder.