Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Ymholiadau'r cyfryngau

Rydym bob amser yn barod i ymateb i ymholiadau gan y cyfryngau ynglŷn â materion sy’n ymwneud â’r Coleg, ein rhaglen o berfformiadau a’n cyfleusterau cynhadledd.

Er mwyn cysylltu â Swyddfa’r Wasg anfonwch e-bost at press@rwcmd.ac.uk neu ffoniwch.

Ffilm a ffotograffiaeth

Caniateir tynnu lluniau yn y gofodau cyhoeddus ar gyfer defnydd personol, ond ni ellir eu defnyddio at ddibenion masnachol, yn cynnwys llyfrgelloedd lluniau, heb ganiatâd ymlaen llaw.

Gwaherddir tynnu lluniau yn y gofodau perfformio oni bai eich bod wedi trefnu ymlaen llaw, ond gellir darparu lluniau o rai perfformiadau ar gais. Cysylltwch â Swyddfa’r Wasg am ragor o fanylion.

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn fodlon ystyried ceisiadau i ffilmio (yn cynnwys darllediadau byw) o’r Coleg drwy drafod ymlaen llaw yn unig. Rhaid i unrhyw gostau a fydd i’r Coleg gael eu talu gan y cwmni ffilmio.

Os hoffech wneud ymholiadau ynglŷn â llogi’r adeilad ar gyfer lleoliad ffilmio cysylltwch â’r Rheolwr Lleoliadau, Janet Smith 

Cais am gyfweliad

Gallwn gynnig staff arbenigol ar gyfer cyfweliadau ac i siarad ar ddarllediadau teledu neu radio ar ystod o bynciau perthnasol. Cysylltwch â Swyddfa’r Wasg gymaint â phosibl ymlaen llaw.

Tocynnau’r wasg / adolygiadau

Gellir gofyn am docynnau i’r wasg ymlaen llaw drwy Swyddfa’r Wasg, gan nodi’r dyddiad a’r cynhyrchiad yr ydych yn dymuno ei weld, ac yn lle y bydd yr adolygiad yn ymddangos.

Logos a delweddau

Gallwn ddarparu ystod eang o ddelweddau eglur iawn o’r adeilad, gweithgareddau’r Coleg a rhai perfformiadau drwy e-bost ar gais. Os ydych yn chwilio am ddelwedd benodol cysylltwch â Swyddfa’r Wasg.

Gallwn hefyd, ar gais, ddarparu copïau o hunaniaeth brand y Coleg ar gyfer defnydd wedi ei gytuno arno. Nodwch enw eich sefydliad, y rheswm dros y cais ac ym mha gyfrwng y caiff y logo ei ddefnyddio.

Canllaw cyfryngau ar gyfer llogwyr allanol

Os ydych yn dymuno gwahodd y cyfryngau i’ch digwyddiad, gwnewch yn siŵr fod gennych aelod o’ch tîm i’w hebrwng. Rhaid i unrhyw drefniadau gael eu cytuno ymlaen llaw, a rhaid i unrhyw ddolenni darlledu byw gael eu clirio ymlaen llaw, gyda’n tîm technegol.

Newyddion diweddaraf