Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Preifatrwydd

Mae’r Coleg yn ystyried diogelu holl wybodaeth bersonol (data) yn ddifrifol ac mae’n gwbl ymrwymedig i warchod hawliau a rhyddidau pob unigolyn mewn perthynas â phrosesu eu data personol. Bydd prosesu holl wybodaeth bersonol yn unol â chyfreithiau diogelu data.

Pwy ydym ni

Enw’r Sefydliad

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyf.

Cyfeiriad y Sefydliad

Maes y Castell, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3ER

Rhif Cofrestru Tŷ’r Cwmnïau

6013744

Rhif Cofrestru SCG

Z9702162

Swyddog Diogelu Data Dynodedig

Rheolwr TG, Ffôn: 029 2039 1382, E-bost: DPO@rwcmd.ac.uk

Natur y Sefydliad

Lleoliad Addysg Uwch a’r Celfyddydau

Awdurdod cyhoeddus yw Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Ynglŷn â’r hysbysiad hwn

Mae’r Coleg yn ystyried diogelu holl wybodaeth bersonol (data) yn ddifrifol ac mae’n gwbl ymrwymedig i warchod hawliau a rhyddidau pob unigolyn mewn perthynas â phrosesu eu data personol. Bydd prosesu holl wybodaeth bersonol yn unol â chyfreithiau diogelu data. Mae hyn yn cael ei wneud yn unol â:

  • Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
  • Deddfwriaeth gysylltiedig
  • Cyfraith achosion ac ysbryd y Rheoliad
  • Mae hysbysiad y Coleg fel rheolydd data gyda Chomisiynydd Gwybodaeth y DU (Rhif Cyfeirnod: Z9702162) sy’n amlinellu’r dibenion ar gyfer yr hyn y mae’r Coleg yn dal ac yn prosesu data personol ynglŷn â gweithwyr, myfyrwyr, graddedigion ac eraill.

Pwrpas y rhybudd hwn yw rhoi trosolwg cyffredinol i chi ynglŷn â sut yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu gennych chi yn uniongyrchol ac oddi wrth drydydd parti.

Eich gwybodaeth bersonol

Eich hawliau

Os ydych chi ar unrhyw adeg yn credu bod y wybodaeth yr ydym yn ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, mae gennych chi hawl i ofyn am gael gweld y wybodaeth hon a chywiro neu ddileu’r wybodaeth. Yn ogystal, mae gennych chi hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, cywiro, dileu, cyfyngu a throsglwyddo eich gwybodaeth bersonol.

Os ydych chi’n dymuno gwneud cwyn ynglŷn â sut yr ydym wedi ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol, gallwch chi gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i’r mater. Os nad ydych chi’n fodlon â’n hymateb neu’n credu nad ydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r gyfraith, gallwch chi gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG). Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
ico.org.uk

Sail gyfreithiol

Iechyd a chymorth

Gall y Coleg gasglu gwybodaeth bersonol am iechyd a chymorth at y dibenion canlynol:

  • Gweinyddu cyllid (e.e. ffioedd, ysgoloriaethau a bwrsariaethau)
  • Darparu gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr/gweithwyr
  • Diogelu a hyrwyddo lles myfyrwyr/gweithwyr
  • Gweinyddu gwaith achos myfyrwyr/gweithwyr

Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu?

Wrth brosesu data at y dibenion a restrir uchod mae’r Coleg yn dibynnu ar y sail gyfreithiol ganlynol fel y bo’n briodol:

  • Mae angen prosesu er mwyn cyflawni contract gyda’r unigolyn.
  • Mae angen prosesu er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd.
  • Efallai y bydd angen prosesu hefyd i ddiogelu buddiannau hanfodol yr unigolyn neu berson arall.

Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data personol categori arbennig?

  • Am resymau budd cyhoeddus sylweddol, ar sail cyfraith yr Undeb neu Aelod-wladwriaethau (Erthygl 6(1)(e)).
  • At ddibenion meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, diagnosis meddygol, darpariaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol ar sail cyfraith yr Undeb neu Aelod-wladwriaeth (Erthygl 9(2)(h)) neu yn unol â chontract gyda gweithiwr iechyd proffesiynol ac yn ddarostyngedig i amodau a mesurau diogelu
  • Gyda chydsyniad penodol yr unigolyn

Pwy yw’r derbynwyr neu beth yw’r categorïau derbynwyr?

Lle bo angen, bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu’n fewnol o fewn yr adrannau perthnasol ar draws y Coleg. Bydd rhannu o’r fath yn ddarostyngedig i brotocolau cyfrinachedd a chyfyngiadau mynediad (e.e. dim ond staff yn y gwasanaethau hynny fydd yn gallu gweld nodiadau achos iechyd, cwnsela ac iechyd meddwl).

Mae’r Coleg yn gweithio gyda Gwasanaeth Cyswllt Prifysgolion Iechyd Meddwl (MHULS) y GIG a, lle bo angen, gellir atgyfeirio myfyrwyr at eu timau. Bydd unrhyw atgyfeiriad yn cael ei drafod gyda’r myfyriwr yn y lle cyntaf a dim ond gyda’i gytundeb y gwneir hynny.

Lle cafwyd cydsyniad (a lle bo’n briodol, cydsyniad penodol) gellir rhannu data personol â’r unigolion hynny a nodir mewn unrhyw gytundeb.

Mewn rhai amgylchiadau gellir datgelu gwybodaeth bersonol heb gydsyniad dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Os oes gan y Coleg reswm da dros gredu y gallai rhywun fod mewn perygl difrifol o niwed. Oni bai bod y sefyllfa’n argyfwng, neu’n cael ei hystyried yn amhriodol am reswm arall, gwneir ymdrech bob amser i drafod y mater gyda’r unigolyn ymlaen llaw.
  2. Gall y Coleg fod yn gyfreithiol rwymol i ddatgelu gwybodaeth bersonol ar rai achlysuron e.e. dan Orchymyn Llys, fel rhan o gyfrifoldebau diogelu ac atal terfysgaeth.

Trydydd parti

Ceir rhai amgylchiadau lle gallwn ni ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti:

I’n darparwyr gwasanaeth ein hunain sy’n prosesu data ar ein rhan a chyda ein cyfarwyddiadau (er enghraifft, ein darparwr meddalwedd system docynnu). Yn yr achosion hyn, rydym ni angen i’r trydydd parti gydymffurfio yn gaeth â’n cyfarwyddiadau a chyda cyfreithiau diogelu data, er enghraifft, ynghylch diogelwch data personol.

Pan ydym o dan ddyletswydd i ddatgelu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol (er enghraifft, i gyrff y llywodraeth neu asiantaethau gorfodi’r gyfraith).

I gwmnïau penodol a enwyd sy’n ymweld yr ydych chi wedi mynychu eu perfformiadau. Yn yr achosion hyn, byddwn bob amser yn gofyn i chi am eich caniatâd penodol cyn gwneud hynny.

Cwcis

Ffeil fechan ar eich cyfrifiadur pan ydych chi’n ymweld â gwefan yw cwci. Maen nhw’n cael eu defnyddio i wneud llawer o bethau, fel storio eich hoffterau neu fod yn ymwybodol eich bod wedi ymweld â safle o’r blaen.

Rydym ni’n defnyddio gwasanaeth o’r enw Google Analytics a bydd ein gwefan yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur er mwyn gweithredu’r gwasanaeth. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth yn ddienw, gan ganiatáu Google Analytics lunio adroddiadau ynglŷn â sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, fel nifer yr ymwelwyr a’r tudalennau y maen nhw wedi ymweld â nhw.

Os ydych chi’n prynu tocynnau o’n gwefan, rydym yn defnyddio cwcis i gadw golwg ar eich basged siopa.

Ambell waith, rydym yn ymwreiddio cynnwys o wefannau trydydd parti, fel YouTube a Twitter. Pan ydych chi’n ymweld â thudalen ar ein gwefan gyda chynnwys o’r fath, gall y gwefannau trydydd parti hyn osod cwcis ar eich cyfrifiadur hefyd.

Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi reoli pa gwcis sy’n cael eu defnyddio a darparu offer i chi er mwyn eu rheoli a’u dileu. Er mwyn darganfod mwy o wybodaeth ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.