Neidio i’r prif gynnwys

Cryfhau Cerddoriaeth mewn Cymdeithas

Ni fu erioed amser pwysicach i gydnabod gwerth creu cerddoriaeth ar gyfer lles ac iechyd diwylliannol, ac arwyddocâd diwydiant cerddoriaeth y DU fel ased cenedlaethol. 

Mae Prifathro CBCDC, yr Athro Helena Gaunt, wedi bod yn llais blaenllaw yn y drafodaeth hon gan arwain at y prosiect ymchwil cydweithredol pedair blynedd Strengthening Music in Society.

Y ffordd ymlaen i Conservatoires y DU


Y Prifathro Helena Gaunt oedd y prif siaradwr yn Strengthening Music in Society: The way forward for UK Conservatoires – cynhadledd a oedd yn dwyn ynghyd leisiau a safbwyntiau allweddol o bob rhan o’r sector cerddoriaeth glasurol. 

Mae’r ffilm (Saesneg) hon yn esbonio’r syniadau mawr sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar:

Crynodeb o sgwrs Helena yn y gynhadledd Strengthening Music and Society.

Mae’r Athro Helena Gaunt a’r Athro John Sloboda, Athro Ymchwil yn y Guildhall School of Music & Drama, hefyd yn adrodd ar y gynhadledd mewn erthygl ddiweddar yn Arts Professional.

Musicians as 'Makers in Society': A Conceptual Foundation for Contemporary Professional Higher Music Education.


Archwilio’r adran