Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Patricia Logue

Rôl y swydd: Uwch Ddarlithydd mewn Actio

Adran: Actio

Anrhydeddau: MFA Actio - Brooklyn College, City University of New York, MA Astudiaethau Llais – Central School of Speech & Drama, BA Anrh Astudiaethau Theatr – University of Ulster

Bywgraffiad Byr

Yn CBCDC mae Patricia Logue yn Uwch Ddarlithydd mewn Actio ac yn gyfarwyddwr Cwmni Richard Burton. Mae’n gweithio’n broffesiynol fel hyfforddwr actio, cyfarwyddwr a chyswllt testun ar gyfer theatr, teledu a ffilm.

Arbenigedd

Cyn ymuno â’r adran actio yn CBCDC, roedd Patricia yn actor proffesiynol, hyfforddwr actio ac arbenigydd ar destun ac acen. Mae’n parhau i weithio’n helaeth yn y rolau hyn ym maes ffilm a theledu yn y Deyrnas Unedig ac yn Iwerddon. Mae’r prosiectau’n cynnwys hyfforddwr tafodiaith ar Derry Girls, Channel 4; The Pact, BBC Wales; Ballywalter, Bankside Films; Sadie, BBC NI; Iphigenia in Splott, Theatr Sherman; Killology, Theatr Sherman; Stones in his Pockets, West End; a chynhyrchiad sydd ar y gweill gan National Theatre o Romeo & Julie. Mae ei phrosiectau diweddaraf fel Cyswllt Testun yn cynnwys The Windsors, Prince of Wales Theatre West End; The Palace of Varieties, Derby Theatre a The Importance of Being Earnest, Vaudeville Theatre, West End. Yn ddiweddar, cyfarwyddodd Lose Yourself yn Theatr Sherman, Caerdydd.

Mae prosiectau Patricia yn dangos awydd dwfn i ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol drwy archwilio materion cymdeithasol cyfoes. Mae ei dramäwriaeth yn ddibynnol ar ymchwil helaeth i gyd-destunau sy’n aml yn ymwneud â chyflyrau bod eithafol, fel yn Not I (2016) a Lose Yourself (2019). Mae’n angerddol ynglŷn ag addysgu crefft actio a hyfforddi actorion ifanc i safon ragorol, ac mae ganddi ddiddordeb gwirioneddol mewn tyfu, datblygu a chryfhau cyrsiau actio CBCDC. Mae’n eirioli dros amrywiaeth, cynhwysiant ac ehangu mynediad ym maes hyfforddiant actorion ac yn y diwydiant proffesiynol yn ehangach.

Cyflawniadau Nodedig

Bu Patricia Logue yn Artist Cyswllt yn Theatr Sherman ers 2016.

Proffiliau staff eraill