

Newyddion
‘Mae’r celfyddydau creadigol yn newid pethau': Croeso i Is-lywydd newydd y Coleg, Dr Rowan Williams
Croeso i Is-lywydd newydd y Coleg, Dr Rowan Williams
Rydym yn falch iawn bod Dr Rowan Williams, y Gwir Barchedig a'r Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Williams o Ystumllwynarth yn ymuno â ni fel Is-lywydd. Mae'n gefnogwr hirdymor i'r Coleg, yn mynychu digwyddiadau ac yn siarad yn ein seremoni raddio.
Mae ei angerdd dros feithrin talent greadigol, a'i ymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant, yn ogystal â'i gysylltiad cryf, fel siaradwr Cymraeg, â hunaniaeth a diwylliant Cymreig, yn cyd-fynd ag ymrwymiad y Coleg ei hun i'r gwerthoedd hyn.
Rhoddodd Rowan Williams y neges hon i’n myfyrwyr:
‘Mae’r celfyddydau creadigol yn newid pethau, fel y cewch eich atgoffa’n gyson, trwy eich cyfnod yn y sefydliad rhyfeddol hwn. Maent yn newid ffiniau ein byd, maent yn newid ein gallu i fod yn agored i brofiad ein gilydd, maent yn newid egni ein hymgysylltiad â byd sydd wir angen trawsnewidiad.
Fe fyddwch chi’n gyfryngau newid. Chi fydd yn agor llinell dealltwriaeth i brofiad eraill. Chi fydd yn synnu cymdeithas gyda phosibiliadau nad ydynt wedi cael eu hystyried. Chi fydd y rhai a fydd yn creu egni newydd ar gyfer trawsnewidiad, ar gyfer derbyn a chymod ac ymgysylltiad cadarnhaol â’ch gilydd yn y gymdeithas ranedig hon.
Chi fydd y rhain i gyd.’Dr Rowan Williams
Mae'r Arglwydd Williams yn ymuno â chyd-Is-lywyddion sy'n cynnwys Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Hil Cymru Uzo Iwobi, Cymrodyr Michael Sheen a Syr Bryn Terfel, a'r Cymrawd a'r graddedig Syr Anthony Hopkins.
Esgob Anglicanaidd, diwinydd a bardd o Gymro yw Dr Williams, a wasanaethodd fel Archesgob rhif 104 Caergaint rhwng 2002 a 2012. Cyn hynny bu’n Esgob Mynwy ac Archesgob Cymru ac ef oedd yr Archesgob Caergaint cyntaf yn y cyfnod modern i beidio â chael ei benodi o Eglwys Loegr.
Mae barddoniaeth Dr Williams yn cynnwys comisiynau ar gyfer cofio 60 mlynedd ers trychineb Aberfan, a chydweithrediad â’r bardd Michael Symmons Roberts, yr artist Sophie Hacker a thiwtor piano CBCDC, Cordelia Williams, ar y gyfres flwyddyn o ddigwyddiadau a pherfformiadau yn archwilio cerddoriaeth, cyd-destun a diwinyddiaeth 'Vingt Regards sur l’Enfant-Jésus' gan Messiaen.