

Newyddion
Y Kanneh-Masons yn cyflwyno perfformiad olaf Cyfres Piano Rhyngwladol Steinway 2025-26 CBCDC
Bydd Sheku, Isata, Braimah a Jeneba, sydd â chysylltiad cryf â Chymru ac yn disgrifio eu hunain yn chwarter Cymry, yn perfformio yng Nghaerdydd mewn rhaglen a fydd yn cynnwys ail driawd piano gwefreiddiol Shostakovich, Sonata yn C fwyaf ar gyfer piano pedair llaw gan Mozart, a Sonata ar gyfer Feiolin a Soddgrwth Ravel.
Yn enillwyr Gwobr yr Artist Clasurol Gorau yng Ngwobrau Global 2021, bydd y Kanneh-Masons yn ychwanegiad arbennig at Gyfres Piano Rhyngwladol Steinway Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fel Conservatoire Steinway yn Unig cyntaf y byd, mae’r Coleg yn denu doniau eithriadol i’r gyfres sydd wedi cynnwys Steven Hough, Angela Hewitt, Yeol Eum Son ac Imogen Cooper.
Bydd y gyfres yn dechrau gyda Clare Hammond (26 Hydref 2025) yn perfformio cerddoriaeth piano Ffrengig ar ei mwyaf chwareus, a Tamara Stefanovich (30 Tachwedd) yn archwilio athrylith Bach. Yn y gwanwyn, bydd Lise de la Salle (8 Chwefror 2026) yn cludo cynulleidfaoedd i Baris yn ei chyngerdd sy’n talu teyrnged i Ddinas y Goleuadau, ac yna gellir clywed dawn Alim Beisembayev (29 Mawrth 2026) mewn datganiad rhamantus dwys wedi’i goroni gan Sonata yn B leiaf enfawr Liszt. Bydd Y Kanneh-Masons yn cwblhau’r gyfres yn haf 2026.
Yn enillydd cystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC yn 2016, denodd dalent Sheku sylw’r byd pan berfformiodd ym mhriodas Dug a Duges Sussex yn 2018. Mae’n teithio i leoliadau cyngerdd blaenllaw’r byd, gan gynnwys Neuadd Carnegie, Proms y BBC yn Neuadd Frenhinol Albert a Konzerthaus Berlin. Bydd yn perfformio’n rheolaidd gyda’i chwaer, Isata, sydd hefyd wedi cael traciau ar frig y siartiau clasurol ac a oedd yn ECHO Rising Star yn nhymor 2021-22, ac yn artist preswyl gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol yn nhymor 2022-23. Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf ym Mhroms y BBC yn 2023 gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Ymddangosodd Jeneba am y tro cyntaf ym Mhroms y BBC gyda Cherddorfa Chineke! yn 2021 mewn cyngerdd yn dathlu cyfansoddwyr o dras Affricanaidd na chlywir eu gwaith yn aml a chafodd ei henwi’n un o ‘Rising Stars’ Classic FM. Mae Braimah yn aelod o Ensemble Academi’r Ŵyl Budapest a Kaleidoscope Collective (yn ogystal â chyn-aelod o’r band pop Clean Bandit) ac mae’n eirioli’n angerddol dros gyfle cyfartal ac amrywiaeth mewn addysg cerddoriaeth.