Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Dathlu arweinwyr creadigol, hyrwyddo cynhwysiant ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf: CBCDC yn Cyhoeddi Cymrodyr Anrhydeddus 2025

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn falch o gyhoeddi ei Gymrodyr Anrhydeddus 2025 - saith arweinydd diwylliannol, artist ac addysgwr arloesol sy’n diffinio cred y Coleg yng ngrym y celfyddydau i newid bywydau, dod â phobl ynghyd a thrawsnewid cymdeithas.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 26/06/2025

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn falch o gyhoeddi ei Gymrodyr Anrhydeddus 2025 - saith arweinydd diwylliannol, artist ac addysgwr arloesol sy’n diffinio cred y Coleg yng ngrym y celfyddydau i newid bywydau, dod â phobl ynghyd a thrawsnewid cymdeithas. Mae gan bob un ohonynt gysylltiad ystyrlon â’r Coleg, gan gefnogi ei hyfforddiant a’i fentora o’r genhedlaeth nesaf o artistiaid ac arweinwyr.

Bydd y Cymrodyr yn cael eu hanrhydeddu yn seremonïau graddio’r Coleg a gynhelir yn Neuadd Dora Stoutzker ar ddydd Iau 10 a dydd Gwener 11 Gorffennaf 2025.

Eleni mae’r Coleg yn croesawu’r canlynol yn Gymrodyr Anrhydeddus:

Cymrodyr Anrhydeddus 2025 CBCDC

  • Liam Evans-Ford - Cyfarwyddwr Gweithredol a Phrif Swyddog Gweithredol Theatr Clwyd
  • Barry Farrimond-Chuong MBE – Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Open Up Music, elusen sy’n trawsnewid mynediad at gerddoriaeth i bobl ifanc anabl
  • Max Humphries - Graddedig y cwrs Cynllunio ar gyfer Perfformio a chynllunydd pypedau gwobrwyedig
  • Mari Pritchard – Cydlynydd Cenedlaethol Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru
  • Rhian Samuel – Un o gyfansoddwyr presennol pwysicaf Cymru
  • Huw Stephens – cyflwynydd BBC Cymru a BBC Radio 6 a hyrwyddwr talent newydd o Gymru
  • Anjana Vasan – actor sydd wedi ennill Gwobr Olivier ac a raddiodd o CBCDC
‘Mae ein Cymrodyr Anrhydeddus 2025 yn ein hysbrydoli nid yn unig trwy eu cyflawniadau ond trwy eu cred yng ngrym y celfyddydau i gysylltu, grymuso a newid bywydau.'

‘Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn falch o fod yn rhan o ecosystem greadigol sy’n meithrin talent, yn ysgogi arloesedd ac yn helpu i lunio dyfodol gwell yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r unigolion hyn yn adlewyrchu’r gorau o’r genhadaeth honno, ac mae’n anrhydedd i ni eu croesawu i gymuned y Coleg.’
Helena GauntPrifathro

Theses Fellows join RWCMD’s prestigious list of Fellows, awarded each year to honour artists who have achieved distinction in the creative and performing arts industries, building inspiring relationships with the College and its work.



Cymrodyr Anrhydeddus 2025 CBCDC

  • Liam Evans-Ford – Cyfarwyddwr Gweithredol a Phrif Swyddog Gweithredol Theatr Clwyd, un o theatrau cynhyrchu mwyaf cymdeithasol-ymgysylltiedig ac artistig uchelgeisiol y DU. Yn hyrwyddwr talent o Gymru ac yn gynghrair allweddol y diwydiant i’r Coleg, mae Liam yn cefnogi datblygiad myfyrwyr trwy leoliadau, cyflogaeth a mentora.
  • Barry Farrimond-Chuong MBE – Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Open Up Music, elusen sy’n trawsnewid mynediad at gerddoriaeth i bobl ifanc anabl. Mae’n eiriolwr brwd dros waith CBCDC mewn addysg gynhwysol, gan nodi ei bartneriaeth â BBC NOW a Cherddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol fel model cenedlaethol o hyfforddiant uchelgeisiol a hygyrch.
  • Max Humphries – Graddedig ar y cwrs Cynllunio o CBCDC a chynllunydd pypedau o fri rhyngwladol, mae Max wedi creu gwaith i Cirque du Soleil, y National Theatre, a’r Tŷ Opera Brenhinol. Mae ei adrodd straeon arloesol a’i gelfyddyd fecanyddol wedi helpu i ailddiffinio pypedwaith ar gyfer cynulleidfaoedd cyfoes, ac mae’n parhau i fod yn fentor ac yn gyflogwr i raddedigion y Coleg.
  • Mari Pritchard – Cydlynydd Cenedlaethol Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, cyfarwyddwr corawl, a chysylltydd hollbwysig ar draws maes celfyddydau Cymru. Mae ei gwaith yn galluogi pobl ifanc i gael mynediad at gyfleoedd creadigol waeth beth fo’u cefndir, ac mae hi’n bartner allweddol mewn adeiladu rhwydwaith creadigol cydgysylltiedig, Cymru gyfan sy’n cynnwys partneriaethau â CBCDC.
  • Rhian Samuel – Un o gyfansoddwyr presennol pwysicaf Cymru, mae Rhian wedi ysgrifennu dros 140 o weithiau cyhoeddedig ac mae ganddi berthynas agos â’r Coleg, gan gefnogi myfyrwyr a hyrwyddo cerddoriaeth newydd. Mae ei hymrwymiad i ddiwylliant Cymru a’i heiriolaeth dros fenywod ym maes cyfansoddi wedi gadael etifeddiaeth barhaol.
  • Huw Stephens - Cyflwynydd y BBC a churadur diwylliannol, mae Huw yn gefnogwr angerddol cerddoriaeth Gymreig ac artistiaid sy’n dod i’r amlwg. Yn enillydd pedair Gwobr BAFTA Cymru trwy ei ddarlledu, digwyddiadau byw ac eiriolaeth, mae’n parhau i amlygu talent o Gymru ac yn cyfrannu at sîn gerddoriaeth genedlaethol ffyniannus.
  • Anjana Vasan - Actor sydd wedi ennill gwobr Olivier ac a raddiodd o CBCDC, mae Anjana yn adnabyddus am ei gwaith rhagorol ar y llwyfan a’r sgrin, gan gynnwys ‘A Streetcar Named Desire’ yr enillodd ei gwobr Olivier amdano ymhlith gwobrau eraill, ac a ail-berfformiwyd yn ddiweddar yn Efrog Newydd, ‘We Are Lady Parts’, sydd wedi ennill sawl gwobr ar Channel 4, a ‘Black Mirror’. Mae hi’n llais dylanwadol yn y diwydiant ac yn fodel rôl i artistiaid uchelgeisiol, yn enwedig rhai o gefndiroedd mwyafrifol byd-eang.

Negeseuon newyddion eraill