

Newyddion
‘Cadw iaith yn fyw trwy gân:’ y Tenor David Karapetian yn ennill cystadleuaeth gyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel gwerth £15,000
Llongyfarchiadau mawr i enillydd cystadleuaeth gyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, David Karapetian.
Yn cael ei chynnal bob dwy flynedd yng Ngwlad y Gân mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel yn hyrwyddo lleisiau newydd talentog, ac yn arddangos mynegiant pwerus trwy wahanol ieithoedd, gan gynnwys Caneuon Cymraeg. Cynhaliwyd preswyliad tri diwrnod yn y Coleg cyn y gystadleuaeth derfynol a oedd yn cynnwys dosbarthiadau meistr, mentora arbenigol, a hyfforddiant iaith.
Gan ddathlu amrywiaeth y byd adrodd straeon trwy gân, perfformiodd y cystadleuwyr, israddedigion o bob un o naw prif ysgol gerdd y DU, raglen o dri darn yr un. Roedd y rhain yn cynnwys cân yn dathlu eu hiaith a’u diwylliant eu hunain, a chân osod Gymraeg, ‘Pan ddaw’r nos’ gan Meirion Williams.
‘Rwy’n teimlo’n falch dros ben o gystadleuaeth gyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel ac mae’n anrhydedd bod wedi byw pob eiliad o’r pedwar diwrnod. Diolch i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am ein partneriaeth ac i bawb a oedd yn rhan o greu profiad mor wych.
Gweithiodd y rheini a gyrhaeddodd y gystadleuaeth derfynol mor ddiwyd ar eu repertoire dewisol a pharatoi fy nghân ddewisol ‘Pan ddaw’r nos’ i safon mor uchel. Rhaid i mi ychwanegu hefyd fod y myfyrwyr wedi bod yn glod i’w conservatoires.
Llongyfarchiadau calonog i’n henillydd talentog, David Karapetian.’Sir Bryn TerfelPrif Feirniad ac Is-lywydd CBCDC
Ymunwyd â’r Prif Feirniad, Syr Bryn Terfel gan banel rhyngwladol nodedig o arbenigwyr ym maes canu ac opera: y cynhyrchydd cerddoriaeth glasurol o’r Almaen Ute Fesquet, gynt yn Deutsche Grammophon, John Fisher, cyn Gyfarwyddwr Gweinyddu Cerddoriaeth y Metropolitan Opera a chyn Gyfarwyddwr Artistig WNO, y mezzo-soprano o Awstria Angelika Kirchschlager, a’r arweinydd opera rhyngwladol ac Arweinydd Llawryfog Opera Cenedlaethol Cymru Carlo Rizzi.
Roedd enillydd Gwobr Syr Bryn Terfel 2025, y tenor David Karapetian, yn cynrychioli’r Royal Academy of Music, a dewisodd ganu’r gân Armenaidd, Կռունկ, (Y Crëyr) gan Komitas:
‘Roedd bod yn rhan o’r preswyliad a’r gystadleuaeth yn gwneud i mi deimlo fel canwr a pherfformiwr go iawn. Agorodd fy llygaid i’r hyn fydd ei angen i symud ymlaen yn fy ngyrfa, o’r adegau rhyfeddol a dreuliais yn gweithio gyda’r pianyddion cydweithredol i’r dosbarthiadau meistr ysbrydoledig.
Mae ennill cystadleuaeth gyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel yn fy ngwneud yn hynod ddiolchgar am y cyfle i rannu fy angerdd dros ganu. Roedd gweithio gyda Syr Bryn yn gwireddu breuddwyd i mi; roedd profi ei ddoethineb a’i haelioni fel perfformiwr yn wirioneddol swreal, ac rydw i mor hapus i fod wedi bod yn rhan o rywbeth mor arbennig. Hoffwn ddiolch o waelod calon i Syr Bryn a phawb oedd yn rhan o greu’r wobr hon a’i gwneud yn bosibl.
Roedd hefyd yn hynod arbennig canu yn fy iaith fy hun. Mae cân Armenaidd yn rhan o fy niwylliant nas clywir yn aml yn y byd perfformio ehangach, felly roedd cael y cyfle i’w rhannu gyda chynulleidfaoedd newydd yn rhywbeth arwyddocaol iawn. Roeddwn i’n teimlo’n wirioneddol falch o gynrychioli rhan o fy nhreftadaeth trwy gerddoriaeth ac roedd gwybod bod pobl sy’n gysylltiedig â’r geiriau a’r alawon a drosglwyddwyd i lawr trwy genedlaethau yn gwneud y profiad hyd yn oed yn fwy gwerth chweil.
A minnau’n dod o wlad fach gyda hanes mor gyfoethog, mae’n golygu llawer i helpu i gadw ein diwylliant a’n hiaith yn fyw trwy gân.’David KarapetianEnillydd cystadleuaeth gyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel
Wrth gyflwyno cystadleuwyr y rownd derfynol, dywedodd Tim Rhys-Evans, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC, ‘Syniad ein Is-lywydd, Syr Bryn Terfel yw Gwobr y Gân. Rydw i mor falch o’r cantorion a gyrhaeddodd y gystadleuaeth derfynol, yn enwedig am eu hunanfeddiant a’u natur cydweithredol, mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw.’
Caradog Williams ac Iwan Teifion Davies oedd y pianyddion cydweithredol, yn tywys, ac yn perfformio gyda’r cantorion ifanc wrth iddynt ddod â’u caneuon yn fyw.Crëwyd y tlws gan Rorie Brophy o adran Cynllunio ar gyfer Perfformio y Coleg, wedi’i wneud o ddeunyddiau cynaliadwy o Gymru, gan gynnwys pren wedi cwympo o ardd gefn rhestredig Gradd II y Coleg, Parc Bute, a llechen o Gymru.
Nodiadau i Olygyddion
Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y gystadleuaeth derfynol, Lana Ben Halim, Guildhall School of Music & Drama, Oluwatimilehin Bimbo-Adeola o’r Royal Conservatoire of Scotland, Kasia Bryl o’r Royal College of Music, Charlotte Elizabeth Crane o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Hannah Devereux o’r Royal Birmingham Conservatoire, Emily Jackson o’r Leeds Conservatoire, Clementine Thompson o’r Royal Northern College of Music, Gwennan Wright o’r Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance.
Cyn y gystadleuaeth derfynol ar ddydd Sadwrn 8 Tachwedd cynhaliwyd preswyliad tri diwrnod wedi’i ariannu’n llawn yn y Coleg, a oedd yn cynnwys darlith gan yr Archdderwydd, y bardd a’r ieithydd, Mererid Hopwood, hyfforddiant ar y Gymraeg gyda Syr Bryn ei hun, amser unigol gyda mentoriaid, a dosbarthiadau meistr gyda Rebecca Evans a Richard Hetherington.
Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel
Cynhelir cystadleuaeth newydd Gwobr y Gân bob dwy flynedd, gyda gwobr o £15,000.
Ac yntau’n dod o wlad y gân, mae Bryn yn angerddol am ei dreftadaeth ddiwylliannol, ac yn enwedig Caneuon Cymraeg. Ar ôl ennill Gwobr y Gân cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC ym 1989, a’i yrfa glodwiw ddilynol fel canwr opera, mae’n arbennig o bwysig bod y wobr hon yn ei enw yn canolbwyntio ar yr artistiaeth sydd ei angen ar gelfyddyd y gân.
Ar gyfer y flwyddyn lansio hon gofynnwyd i gonservatoires yn y DU ddewis myfyriwr i gystadlu. Yn y blynyddoedd i ddod bwriedir agor y cyfle i gymryd rhan ar ffurf clyweliadau ehangach a bydd yn cynnwys cantorion ifanc o sefydliadau rhyngwladol.
Y Beirniaid
Ute Fesquet, Rheolwr Cerddoriaeth gwobrwyedig, cynhyrchydd cerddoriaeth glasurol o’r Almaen, a arferai weithio i Deutsche Grammophon. Mae hi’n fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda John Williams: The Berlin Concerto a Live in Vienna, ac Anne-Sophine Mutter a Mendelssohn.
Mae John Fisher yn arweinydd, rheolwr opera, hyfforddwr llais a chynhyrchydd recordiau. Yn flaenorol roedd yn Weinyddwr Artistig La Scala ym Milan, Cyfarwyddwr Gweinyddu Cerddoriaeth y Metropolitan Opera, Cyfarwyddwr Artistig WNO, yn ogystal â Chyfarwyddwr Artistig Ysgol Opera David Seligman CBCDC.
Angelika Kirchschlager, mezzo-soprano fyd-enwog o Awstria, a gafodd glod fel un o ddehonglwyr mwyaf blaenllaw operâu Richard Strauss a Mozart. Mae ei gwobrau niferus yn cynnwys Grammy, ac yn 2007 fe’i gwnaed yn Kammersängerin yn Opera Gwladol Fienna gan Lywodraeth Awstria.
Carlo Rizzi, arweinydd opera rhyngwladol ac Arweinydd Llawryfog Opera Cenedlaethol Cymru. Ef yw Cyfarwyddwr Artistig Opera Rara ac mae hefyd yn Gadeirydd Rhyngwladol Arwain y Coleg.
Cronfa Syr Bryn Terfel
Gan rannu penderfyniad i bwysleisio pwysigrwydd y celfyddydau yn ein cymdeithas ac i hyrwyddo iaith, Cymru, a chenedlaethau’r dyfodol o grewyr a pherfformwyr, lansiodd CBCDC a’i Is-lywydd Syr Bryn Gronfa Syr Bryn Terfel. Gyda Gwobr y Gân ddwyflynyddol yn greiddiol iddi, uchelgais y Gronfa yw adeiladu ar lwyddiannau dyngarwch cynnar, gan adeiladu ffynhonnell gymorth newydd arwyddocaol i artistiaid ifanc talentog sy’n hyfforddi yn y Coleg.









