Neidio i’r prif gynnwys

Canllawiau ar gymeradwyaeth foesegol ar gyfer ymchwil seiliedig ar ymarfer

Cyn i chi lenwi eich ffurflen(ni) cymeradwyaeth foesegol, darllenwch y canllawiau hyn, sy'n trafod cymeradwyaeth foesegol ar gyfer ymchwil nad yw'n seiliedig ar ymarfer, ac sy'n cynnwys cyfranogiad pobl.

Mae disgwyl i bob ymchwilydd mewn sefydliadau addysg uwch lynu at Goncordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil Prifysgolion y DU, a dilyn Cod Ymarfer Ymchwil Swyddfa Uniondeb Ymchwil y Deyrnas Unedig. Mae’r rhai sy’n cael eu hariannu gan gyrff sy’n rhoi grantiau yn y Deyrnas Unedig, fel Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn rhwym i Bolisi a Chanllawiau ar Lywodraethu Ymddygiad Ymchwil Da Cynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig.

Mae prif egwyddorion ymddygiad ymchwil da, a adlewyrchir yn y ffurflen gais ar gyfer cymeradwyaeth ymchwil, fel a ganlyn:

  • gofal ac osgoi niwed
  • gonestrwydd a didwylledd
  • atebolrwydd a dogfennaeth briodol
  • cyfrinachedd
  • cydsyniad gwybodus
  • osgoi gwrthdaro buddiannau
  • cydymffurfio â’r gyfraith a chodau ymddygiad perthnasol
  • cydnabyddiaeth ddyledus i gydweithwyr, hysbyswyr, cyfranogwyr neu gyfranwyr eraill i’r ymchwil.

Ymchwil seiliedig ar ymarfer sy’n cynnwys cyfranogiad pobl – diffiniadau

At ddibenion y canllawiau hyn, mae ymchwil seiliedig ar ymarfer yn cael ei diffinio fel ymchwiliad gwreiddiol sy'n cael ei wneud i gael dealltwriaeth newydd drwy ymarfer a/neu ganlyniad yr ymarfer hwnnw, fel arfer sy'n golygu creu gwaith mewn ystod o barthau artistig. Mae cyfranogiad pobl yn cael ei ddiffinio fel cynnwys pobl mewn ymarfer creadigol, yn bennaf fel cyd-grewyr, perfformwyr a chynulleidfaoedd, ymhlith eraill.

Nodau

Nod y canllawiau hyn yw hwyluso ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer a galluogi ymarferwyr creadigol i fyfyrio ar ei goblygiadau moesegol.

Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn?

Mae'r canllawiau hyn yn cael eu darparu i bawb sy’n cynnal ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer sy’n cynnwys cyfranogiad pobl yn CBCDC, gan gynnwys myfyrwyr ôl-raddedig ar gyrsiau a addysgir (e.e. MMus), aelodau staff amser llawn a rhan amser, a staff sy’n ymweld, ac ymchwilwyr o'r tu allan i CBCDC sy’n cynnal ymchwil gyda chyfranogiad myfyrwyr a/neu staff yn CBCDC. Mae’r rhain yn cynnwys ymarferwyr ym maes cerddoriaeth (e.e. cyfansoddwyr a pherfformwyr), drama (e.e. actorion, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, awduron a’r rhai sy’n gyfrifol am ddyfeisio perfformiadau), cynllunio, rheoli llwyfan, a rheoli’r celfyddydau.

Mae ymchwilwyr sy’n cynnal ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer ac sy’n cynnwys cyfranogiad pobl yn cwympo i ddau gategori eang:

1. Y rhai y mae eu hymarfer creadigol yn cynnwys rhyngweithio gyda phobl eraill fel cyfranogwyr yn yr ymchwil dim ond i’r graddau eu bod yn gyd-grewyr, yn berfformwyr a/neu yn gynulleidfaoedd, e.e. coreograffydd neu gyfarwyddwr sy’n creu gwaith gydag artist neu artistiaid perfformio penodol; actor sy’n cyfweld â ffigwr cyhoeddus i baratoi i chwarae rhan sy’n seiliedig ar eu cymeriad.

  • Mewn achosion o’r fath, nod yr ymchwil yw llywio’r broses greadigol, a’r allbwn yw ei chynnyrch, fel gwaith y gellir ei berfformio neu’r perfformiad ei hun.

2. Y rhai y mae eu hymarfer creadigol yn cynnwys rhyngweithio â phobl eraill fel cyd-grewyr, perfformwyr a/neu gynulleidfaoedd a/neu gyfranogiad fel cyfranogwyr yn eu hymchwil, fel ffynonellau data a gafwyd, fel arfer, o gyfweliadau, holiaduron, arsylwadau, neu arbrofion, e.e. cyfansoddwr-arweinydd sy’n dogfennu ymarferion o’u gwaith ar y gweill a’i dderbyniad yn ei berfformiad cyntaf gan aelodau o’r gynulleidfa, drwy arolwg holiadur.

  • Yn yr achos hwn, y nodau ymchwil yw, a) llywio’r broses greadigol y mae’r gwaith yn un o’i allbynnau, a hefyd, b) canfod sut caiff y gwaith ei dderbyn gan y rhai sy’n bresennol yn ei berfformiad cyntaf. Gallai ail allbwn ymchwil fod yn adroddiad o’r canfyddiadau o ddadansoddi data’r holiadur wedi'i gyhoeddi fel erthygl cyfnodolyn.

Cwblhau a chyflwyno ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth foesegol

Yn ogystal â chwblhau’r ffurflen(ni) cymeradwyaeth foesegol priodol, dylech hefyd baratoi taflenni gwybodaeth i gyfranogwyr a ffurflenni cydsynio i gyfranogwyr yn eich ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer a hefyd yn eich ymchwil nad yw’n seiliedig ar ymarfer, gan ddefnyddio’r templedi a ddarperir ar gyfer y taflenni gwybodaeth i gyfranogwyr a’r ffurflenni cydsyniad ar gyfer ymchwil, oni bai eich bod yn cynnal ymchwil holiadur, lle bydd gofyn i chi gynnwys cydsyniad a gwybodaeth cyfranogwyr fel rhan o’ch holiadur a chyflwyno’r holiadur ei hun.

Mae ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth foesegol yn cynnwys y ffurflen(ni) cymeradwyaeth foesegol, taflen(ni) gwybodaeth i gyfranogwyr, ffurflen(ni) cydsynio, amserlenni cyfweliadau, gwybodaeth ychwanegol os oes angen, a holiaduron fel sy’n briodol.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r cais a’i fod wedi’i wirio gan eich goruchwyliwr ymchwil (os ydych chi’n fyfyriwr), eich rheolwr llinell neu eich pennaeth adran (os ydych chi’n aelod o staff), dylai’r ffurflen cymeradwyaeth foesegol gael ei llofnodi gan y ddau barti a’ch cynrychiolydd sefydliadol ar Bwyllgor Moeseg CUK. Dylai'r ceisiadau cyflawn gael eu cyflwyno’n electronig.

Dylech nodi mai dim ond ar gyfer y prosiect y cafwyd cymeradwyaeth foesegol ar ei gyfer y mae modd defnyddio data. Mae’n rhaid ei storio’n ddiogel am gyfnod penodol o amser, ac yn y cyfnod hwnnw dim ond mewn ymchwil ddilynol gyda chaniatâd penodol cyfranogwyr y gellir ei ailddefnyddio, cyn iddo gael ei ddinistrio.


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf