
Newyddion
Artistiaid wedi’u cyhoeddi ar gyfer Gŵyl AmserJazzTime
Dydd Iau 21 – Dydd Sul 24 Mai 2026
Mae’n bleser gan CBCDC groesawu un o’i bianyddion yn ôl fel rhan o’i ŵyl jazz flynyddol eleni. Graddiodd Joe Webb (Gwener 22 Mai 2026, 7.30pm), a aned yng Nghastell-nedd, yn 2012, ac ers hynny mae wedi cael ei ganmol gan y beirniaid, ac wedi perfformio’n fyw a chael cefnogaeth gan gyd-gerddorion megis Wynton Marsalis, Jools Holland a Jamie Cullum.
Mae ei enwebiad Gwobr Mercury yn 2025 am yr albwm ‘Hamstrings & Hurricanes’ wedi selio ei statws fel un o’r pianyddion jazz mwyaf aruthrol i ddod i’r amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf - cerddor â thechneg feiddgar, arddull ddiamheuol a greddf felodig sy’n llawn eglurder, pwrpas a dawn Gymreig nodedig.
Yn dilyn perfformiadau ledled y DU a werthodd pob tocyn, mae’r trwmpedwr blaenllaw Jay Phelps (Sadwrn 23 Mai 2026, 7.30pm) wedi cynnull rhai o gerddorion jazz gorau Prydain i nodi canmlwyddiant artist jazz mwyaf dylanwadol y byd. Ganwyd Miles Davis yn Illinois ar 26 Mai 1926 i fam a oedd yn feiolinydd ac yn athrawes cerddoriaeth. Erbyn ei fod yn 12 oed cerddoriaeth oedd y peth pwysicaf yn ei fywyd, ac ni fyddai byd byrfyfyrio byth yr un fath. Yn yr wythnos sy’n arwain at ddathlu canmlwyddiant Miles Davis, mae Jay Phelps yn dwyn ynghyd y gorau o gerddoriaeth Davis o’r blynyddoedd a gynhyrchodd yr albwm ‘1958 Miles’ a’r albwm jazz sydd wedi gwerthu orau erioed, ‘Kind of Blue’.
Bydd yr ŵyl yn agor gyda Band Mawr poblogaidd CBCDC (Iau 21 Mai 2026, 7.30pm) dan arweiniad Ceri Rees, ynghyd â llu o berfformiadau am ddim dros y penwythnos, gan roi cyfle i gynulleidfaoedd fod y cyntaf i brofi’r genhedlaeth nesaf o gerddorion jazz.
Cynhelir Gŵyl AmserJazzTime rhwng 21 a 24 Mai 2026. I gael tocynnau a rhagor o wybodaeth, ewch i www.rwcmd.ac.uk/whats-on
"A charming young trumpeter originally from Vancouver in Canada; Jay [Phelps] truly brings out the fun in his instrumental jazz"London Jazz News
"[Joe] Webb’s love and knowledge of his source material shines through and the playing is exceptional throughout"The Jazz Man








