

Newyddion
Diweddariad ar gyllid Llywodraeth Cymru
Mae’r cyllid yn cefnogi’r ddarpariaeth graidd o addysg cerddoriaeth a drama seiliedig ar berfformio o’r radd flaenaf a ffocws gwell ar weithio mewn partneriaeth ledled Cymru i ymestyn ein cyrhaeddiad, dyfnhau ymgysylltiad ac ehangu mynediad at hyfforddiant lefel conservatoire a chyfleoedd creadigol.
Yn bwysig, mae hefyd yn gam ystyrlon tuag at fynd i’r afael â’r bwlch cyllido sydd wedi bodoli ers tro rhwng CBCDC a chonservatoires yn Lloegr, gan helpu i wneud y sefyllfa’n decach a chryfhau cynaliadwyedd addysg celfyddydau arbenigol yng Nghymru. Er ei fod yn amodol ar y prosesau llywodraethu perthnasol, mae’r buddsoddiad hwn yn atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i feithrin llinell doniau creadigol Cymru a sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r celfyddydau a diwylliant.








