Neidio i’r prif gynnwys

Canllawiau ar gymeradwyaeth foesegol ar gyfer ymchwil nad yw’n seiliedig ar ymarfer

Darllenwch y canllawiau hyn cyn llenwi eich ffurflen(ni) cymeradwyaeth foesegol.

Mae disgwyl i bob ymchwilydd mewn sefydliadau addysg uwch lynu at y Concordat Uniondeb Ymchwil (2019). Mae’r rhai sy’n cael eu hariannu gan gyrff sy’n rhoi grantiau yn y Deyrnas Unedig, fel Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn rhwym i Bolisi a Chanllawiau ar Lywodraethu Ymddygiad Ymchwil Da Cynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig.

Mae’n rhaid i ymchwilwyr yn CBCDC sy’n cyflawni ymchwil mewn meysydd y gellir eu diffinio’n fras fel addysg gerddoriaeth lynu hefyd at ganllawiau moesegol Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain. Mae’r rhai sy’n cynnal ymchwil mewn meysydd y gellir eu diffinio’n fras fel seicoleg cerddoriaeth yn rhwym, yn ogystal, i God Moeseg Ymchwil Dynol Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS).

Mae prif egwyddorion ymddygiad ymchwil da, a adlewyrchir yn y ffurflen gais ar gyfer cymeradwyaeth ymchwil, fel a ganlyn:

    • gofal ac osgoi niwed
    • gonestrwydd a didwylledd
    • atebolrwydd a dogfennaeth briodol
    • cyfrinachedd
    • cydsyniad gwybodus
    • osgoi gwrthdaro buddiannau
    • cydymffurfio â’r gyfraith a chodau ymddygiad perthnasol
    • cydnabyddiaeth ddyledus i gydweithwyr, hysbyswyr, cyfranogwyr neu gyfranwyr eraill i’r ymchwil.

Ymchwil sy’n cynnwys cyfranogiad pobl – diffiniadau

At ddibenion y canllawiau hyn, mae ymchwil yn cael ei ddiffinio fel ymchwiliad gwreiddiol sy'n cael ei gyflawni i gael dealltwriaeth newydd. Caiff cyfranogiad pobl ei ddiffinio fel pan fydd pobl yn cymryd rhan yn ymchwiliadau ymchwilwyr mewn ffordd oddefol (e.e. fel cyfweleion, ymatebwyr i holiaduron ac arolygon, cyfranogwyr mewn arbrofion), yn oddefol (e.e. cael eu harsylwi neu ddarparu data i’w ddadansoddi), a/neu ar ran eraill fel grwpiau sy’n ‘agored i niwed’.

Mae grwpiau sy’n agored i niwed yn cynnwys babanod a phlant o dan 18 oed; pobl â namau ffisiolegol a/neu seicolegol a/neu anhwylderau dysgu; pobl sy’n ddibynnol ar eraill i'w hamddiffyn neu sydd o dan reolaeth eraill (e.e. pobl mewn gofal, troseddwyr ifanc, carcharorion); rhieni plant sy’n sâl; pobl sydd â dealltwriaeth gyfyngedig o Saesneg; pobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon (fel cymryd cyffuriau).

Nodau

Nod y canllawiau hyn yw hwyluso ymchwil a galluogi ymchwilwyr i fyfyrio ar ei goblygiadau moesegol.

Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn?

Mae'r canllawiau'n cael eu darparu i bawb sy’n cynnal ymchwil sy’n cynnwys cyfranogiad pobl yn CBCDC, gan gynnwys myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, aelodau staff amser llawn a rhan amser, a staff sy’n ymweld, ac ymchwilwyr o'r tu allan i CBCDC sy’n cynnal ymchwil gyda chyfranogiad myfyrwyr a/neu staff yn CBCDC.

Cwblhau a chyflwyno ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth foesegol

Yn ogystal â llenwi’r ffurflen(ni) cymeradwyaeth foesegol priodol, dylech hefyd baratoi taflenni gwybodaeth i gyfranogwyr a ffurflenni cydsynio i gyfranogwyr (darperir templedi), oni bai eich bod yn cynnal ymchwil holiadur, ac os felly mae gofyn i chi gynnwys cydsyniad a gwybodaeth i gyfranogwyr fel rhan o’ch holiadur a chyflwyno’r holiadur ei hun.

Mae ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth foesegol yn cynnwys y ffurflen(ni) cymeradwyaeth foesegol, taflen(ni) gwybodaeth i gyfranogwyr, ffurflen(ni) cydsynio, amserlenni cyfweliadau, gwybodaeth ychwanegol os oes angen, a holiaduron fel sy’n briodol.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r cais a’i fod wedi’i wirio gan eich goruchwyliwr ymchwil (os ydych chi’n fyfyriwr), eich rheolwr llinell neu eich pennaeth adran (os ydych chi’n aelod o staff), dylai’r ffurflen cymeradwyaeth foesegol gael ei llofnodi gan y ddau barti. Dylai ceisiadau cyflawn gael eu cyflwyno’n electronig.

Dylech nodi mai dim ond ar gyfer y prosiect y cafwyd cymeradwyaeth foesegol ar ei gyfer y mae modd defnyddio data. Mae’n rhaid ei storio’n ddiogel am gyfnod penodol o amser, ac yn y cyfnod hwnnw dim ond mewn ymchwil ddilynol gyda chaniatâd penodol cyfranogwyr y gellir ei ailddefnyddio, cyn iddo gael ei ddinistrio.


Archwilio’r adran