Neidio i’r prif gynnwys

Rhestr Wirio Ymarfer Moesegol

Gallwch ddefnyddio'r rhestr wirio hon i ystyried pob agwedd ar eich ymarfer moesegol. Mae'n werth nodi nad yw'r rhestr hon yn gyflawn, a bydd i bob prosiect ymchwil ei gwestiynau ei hun.

Crynodeb o’r prosiect

Beth yw diben y prosiect? A yw’n glir bod angen cyfranogiad eraill er mwyn i’r canlyniad fod yn llwyddiannus?

Cyfranogwyr

Sut byddwch chi’n dewis eich cyfranogwyr?  A yw’r dulliau’n deg ac yn gynhwysol?  A yw’r dulliau’n briodol?

Ydych chi wedi rhoi gwybod i’r cyfranogwyr am holl agweddau’r prosiect, ac a ydych chi wedi cael eu cydsyniad?

Ydych chi wedi ystyried y risgiau i’r cyfranogwyr yn y prosiect?  Beth fyddwch chi’n ei wneud i liniaru’r risgiau hyn?

Oes modd i gyfranogwyr dynnu’n ôl o’r prosiect?  Beth yw’r broses ar gyfer tynnu’n ôl?

Ydych chi wedi ystyried pa mor agored i niwed mae’r cyfranogwyr?  Sut byddwch chi’n mynd i’r afael â hyn yn y prosiect?

A yw urddas, hawliau, diogelwch a llesiant cyfranogwyr yn cael eu hystyried?

A fydd arweinydd y prosiect (chi) yn ddiogel? Oes gweithdrefn ar waith ar gyfer risgiau i arweinydd y prosiect?

Ydych chi wedi ystyried effaith y prosiect ar unrhyw gynulleidfa arfaethedig?  Pa gamau fydd yn cael eu cymryd i liniaru unrhyw risgiau?

Data

Os oes angen, pa fesurau sydd wedi’u cymryd i sicrhau anhysbysrwydd, cyfrinachedd a diogelwch gwybodaeth bersonol yn ymwneud â chyfranogwyr yr ymchwil?

Am ba mor hir bydd data’n cael ei gadw? Ydych chi’n bwriadu defnyddio’r data o’r prosiect, neu gyflwyno’r prosiect, yn y dyfodol?

Dogfennau atodol

Oes dogfennau atodol perthnasol wedi’u cynnwys? (amlinelliad/amserlen y prosiect, ffurflenni cydsyniad, cwestiynau cyfweliad, holiaduron ac ati.

A yw’r deunyddiau’n briodol i’r gynulleidfa arfaethedig (i blant, er enghraifft)?


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf