Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MFA mewn Ysgrifennu Drama

  • Dyfarniad:

    MFA mewn Ysgrifennu Drama

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    20 Medi 2026

  • Hyd:

    Dwy flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

Cyflwyniad


Gyda’n cwrs MFA dwy flynedd, byddwch yn trochi eich hun yng ngwybodaeth a chrefft ysgrifennu ar gyfer drama, gan ddatblygu gwaith ar gyfer y theatr, y sgrin, sain a’r cyfryngau digidol.

Gan hyfforddi mewn amgylchedd proffesiynol yng nghonservatoire cenedlaethol Cymru, byddwch yn archwilio arferion o ystod eang o ddiwylliannau, gweld eich gwaith yn dod yn fyw ac yn lansio eich gyrfa fel storïwr a dramodydd beiddgar a dychmygus. 

Pam dewis y cwrs MFA mewn Ysgrifennu Drama yn CBCDC?

Hyfforddi yn un o brif gonservatoires y DU 
Ystyrir CBCDC yn un o’r lleoedd gorau i astudio drama yn y DU. Gyda’n MFA mewn Ysgrifennu Drama, byddwch yn dysgu am yr offer deallusol, ymarferol a chydweithredol sydd eu hangen i greu drama fodern yn ogystal â’r sgiliau i lywio drwy’r proffesiwn ysgrifennu ar ôl i chi raddio.

Nid oes unrhyw ysgol ddrama arall yn eich paratoi ar gyfer y diwydiant trwy eich helpu i ddatblygu casgliad o weithiau posibl ynghyd â sgript hir, hyd llawn.

Hyfforddiant o’r radd flaenaf gan arweinwyr y diwydiant
Byddwch yn elwa gan addysgu rheolaidd gan arbenigwyr sy’n gweithio ar frig eu meysydd a dosbarthiadau meistr unigryw dan arweiniad artistiaid creadigol gwadd sydd â gwaith trawiadol i’w henwau. Mae awduron sydd wedi ymweld neu wedi gweithio â CBCDC yn cynnwys Roy Williams, Penelope Skinner, David S Goyer, Phillip Ridley, Isley Lynn, Inua Elams, Hugo Blick, Aaron Posner, Dennis Kelly a Simon Stephens

Dosbarthiadau bach a mentora personol
Byddwch yn un o 10 myfyriwr yn eich grŵp, felly fe gewch lefel uchel o gysylltiad a chefnogaeth gan eich tiwtoriaid trwy gydol y cwrs. 

Cydweithio â phobl greadigol eraill ar draws y Coleg
Byddwch hefyd yn gweithio’n rheolaidd gyda’n myfyrwyr MFA mewn Cyfarwyddo, MFA mewn Hyfforddi Llais, Lleferydd a Thestun, ac MFA mewn Cyfarwyddo Symud, yn ogystal â chymuned drama a cherddoriaeth ehangach y Coleg.

Cysylltiadau diwydiant gyda sefydliadau cyfryngau a chelfyddydau blaenllaw
Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, mae gennym bartneriaethau â rhai o’r sefydliadau celfyddydau a chyfryngau mwyaf nodedig yn y DU - megisTheatr y Sherman, Theatr y Royal Court, Bad Wolf, Fiction Factory, Paines Plough, Young Vic a BBC Radio Drama Wales. Mae rhai yn cynnig lleoliadau gwaith (er enghraifft, fel dramodydd mewnol neu awdur cyffredinol amlinelliadau drama) sydd ar gael i’n myfyrwyr MFA.

Profiad proffesiynol i ddatblygu eich gyrfa
Mae lleoliadau mewn diwydiant, a’r rheini a gynigir gan y Coleg ei hun, yn caniatáu i chi roi ar waith yr hyn y byddwch yn ei ddysgu o dan fentoriaeth gweithwyr neu dimau proffesiynol profiadol, adeiladu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant ac o bosibl agor cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth.

Byw ym mhrifddinas Cymru
Byddwch yn hyfforddi yng nghanol Caerdydd - prifddinas ddeinamig a chanolfan creadigrwydd yng Nghymru, gwlad sy’n enwog am ei harfordir, ei chefn gwlad a’i barddoniaeth. O gysylltu ag awduron eraill i rwydweithio â nifer o gwmnïau cynhyrchu lleol, neu arddangos eich gwaith mewn digwyddiadau byw, mae’r ddinas yn cynnig digon o gyfleoedd i dyfu fel awdur a chreu argraff.

Astudio mewn amgylchedd canolfan gelfyddydau fywiog
Bob blwyddyn mae artistiaid a grwpiau byd-enwog yn ymweld â’n campws fel rhan o’n rhaglen perfformiadau cyhoeddus rhyngwladol gydnabyddedig ym meysydd opera, theatr gerddorol, cyngherddau cerddorfaol a dramâu gwobrwyedig. Rydym yn eich annog i fynychu cymaint o’r digwyddiadau hyn â phosibl, gyda phob un ar gael i chi am gyfradd myfyrwyr. 

Archwilio arddulliau, dulliau a fformatau amrywiol
Byddwch yn hyfforddi ar gwrs a gynlluniwyd i gynnwys arddulliau drama a dulliau ysgrifennu o bob rhan o’r byd - y rhai sy’n edrych y tu hwnt i ddrama prif ffrwd draddodiadol i fformatau newydd megis gemau cyfrifiadurol a ffurf fer.

Hyfforddiant trylwyr sy’n herio ac yn ysbrydoli 
Mae’r cwrs hwn yn ddwys ac yn ymarferol iawn, gyda thua 21 awr o addysgu yn yr ystafell ddosbarth neu’r stiwdio bob wythnos. Mae llawer o hynny’n canolbwyntio ar grefft ysgrifennu gyda phrosiectau proffesiynol i’w rhoi ar waith - ochr yn ochr â dealltwriaeth ehangach o sut rydym yn creu drama gyfoes er mwyn rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o’r sector a dod o hyd i’ch lle a’ch llais ynddo.

Arddangos lleisiau newydd beiddgar 
Mae gennym draddodiad o hyrwyddo ysgrifennu newydd, ac yn aml rydym yn comisiynu ein graddedigion i ysgrifennu deunydd ar gyfer ein digwyddiadau a’n cynyrchiadau. Ni oedd yr ysgol ddrama gyntaf i gyflwyno tymor o waith wedi’i gyd-gomisiynu yn Llundain gyda chwmnïau megis Royal Court, New Vic, Paines Plough a Theatr y Sherman. Mae dros 40 o ddramâu wedi’u cynhyrchu, ochr yn ochr â chomisiynau ffilmiau byr blynyddol, ar gyfer ein prosiectau actio.

Yr hyn y byddwch yn ei astudio – strwythur y cwrs

Mae’r cwrs dwy flynedd hwn, yr unig un o’i fath yng Nghymru, yn gymysgedd o ddosbarthiadau ymarferol a gwaith prosiect ochr yn ochr â seminarau a dosbarthiadau meistr gydag arbenigwyr yn y diwydiant. Mae’n canolbwyntio’n llwyr ar roi’r offer a’r profiad i chi ddilyn gyrfa lwyddiannus yn ysgrifennu dramâu ar gyfer y diwydiannau theatr, sgrin, digidol a sain heddiw ac yn y dyfodol.

Byddwch yn datblygu’r wybodaeth a’r offer – trwy eich gwaith yn CBCDC ac mewn cydweithrediad â gweithwyr proffesiynol y tu allan i’r Coleg – i adeiladu eich set sgiliau creadigol nodedig eich hun a chreu cynnwys sy’n barod i’w gyflwyno i gynhyrchwyr ac artistiaid.

Cyfleoedd perfformio a chydweithio

Mae cydweithio yn digwydd drwy gydol y cwrs MFA hwn, gan ei wneud yn wahanol i gyrsiau eraill o’i fath. Byddwch yn dysgu trwy weithio ag eraill, megis actorion, cynllunwyr, cyfarwyddwyr, technegwyr theatr, cyfansoddwyr a cherddorion, gan esblygu i fod yn artist ensemble – sy’n hanfodol yn y diwydiant heddiw – yn ogystal â bod yn awdur. 

Mae’n debyg y byddwch yn gweld eich ysgrifennu’n dod yn fyw drwy gydweithio â myfyrwyr ar ein cyrsiau cyfarwyddo ac actio – er enghraifft, drwy ysgrifennu golygfeydd ar gyfer ffilmiau byrion neu brosiectau. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i chi brofi sut mae eich gwaith yn rhyngweithio â phroses greadigol, megis rihyrsal gydag actorion a chyfarwyddwyr neu gynllunio cynhyrchiad.

Byddwch ar eich traed cymaint ag y byddwch y tu ôl i sgrin gyfrifiadur neu mewn neuadd ddarlithio yn archwilio technegau ymarferol a deallusol i greu deunydd a deall eich lle yn y broses creu drama.

Cewch y cyfle i gydweithio ar brosiectau o fewn CBCDC neu gyda chwmni proffesiynol sy’n creu cynnyrch go iawn – megis cyflwyno syniadau creadigol, cynhyrchu deunydd, prawfddarllen a dadansoddi sgriptiau, ysgrifennu neu olygu dramâu.

Ein hadrannau a’n meysydd astudio

Cwestiynau Cyffredin

Ydych chi angen cyngor cyn gwneud cais?

Mae ein tîm derbyniadau yn hapus i helpu gydag unrhyw gwestiynau am ofynion mynediad, cyfweliadau neu fywyd yn CBCDC. Anfonwch e-bost at admissions@rwcmd.ac.uk i ddechrau arni.

Llwyddiant graddedigion a llwybrau gyrfa

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn mynd ymlaen i yrfaoedd disglair ym meysydd ffilm, teledu, theatr ac opera – yn amrywio o hyfforddi llais mewn lleoliadau celfyddydau blaenllaw yn y DU i sefydlu eu cwmnïau theatr eu hunain.

Maent yn gweithio gyda sefydliadau nodedig gan gynnwys Shakespeare’s Globe, National Theatre a’r Royal Shakespeare Company.

Ydych chi’n barod i ddechrau eich taith conservatoire?

Ymunwch â chymuned o artistiaid angerddol a thalentog yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. P’un a ydych chi’n paratoi ar gyfer gyrfa fel ysgrifennwr llawrydd ar gyfer y sgrin neu am ymuno ag un o brif gwmnïau theatr y DU, mae eich llwybr yn dechrau yma.

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf