Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sut i ymgeisio - MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Popeth sydd angen i chi wybod am wneud cais i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Sut i ymgeisio - MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

  1. I gael mynediad i’r cwrs, rhaid i chi wneud cais drwy Acceptd. Nid oes angen cais ar wahân drwy UCAS.
  2. I gyflwyno’ch cais, crewch gyfrif am ddim yn gyntaf ar www.getacceptd.com
  3. Yna, mewngofnodwch i’ch cyfrif Acceptd ac ewch i dudalen lanio RWCMD
  4. Ac yna dewiswch: 
    1. Application type: Postgraduate
    2. Department: Drama
    3. Course: MA Arts Management
    4. Programme: select chosen pathway (General Arts Management/ Creative Producing/Orchestral Management)
  5. Cliciwch y botwm gwyrdd i ddechrau’r cais.


Argymhellwn eich bod yn rhoi sylw arbennig i’r wybodaeth a ddarperir gennych yn eich datganiad personol ar y ffurflen gais er mwyn rhoi darlun gyflawn â phosibl i ni o’ch profiad perthnasol a rhesymau dros wneud cais.

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael cyfweliad. Dyma eich cyfle i roi rhagor o wybodaeth i gefnogi eich cais. Bydd y tiwtoriaid yn gofyn i chi drafod diddordebau penodol, profiad ymarferol a dyheadau gyrfa. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau penodol sy’n ymwneud â’r rhaglen.

Dyddiadau ar gyfer gwneud cais

Cwrs

MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Ceisiadau’n agor

2 Hydref 2026

Ceisiadau’n cau

25/03/27 (Efallai y byddwn yn gallu ystyried ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn os oes lleoedd gwag yn parhau).