Neidio i’r prif gynnwys

Actio

Hyfforddwch gyda rhai o’r hyfforddwyr actio, arbenigwyr llais a symudiad, cyfarwyddwyr ac awduron gorau sy’n gweithio heddiw.

Cyflwyniad

Trochwch eich hun mewn hyfforddiant trylwyr o’r radd flaenaf, archwiliwch eich syniadau creadigol a datblygwch waith cymhellol a gwreiddiol fel rhan o gwricwlwm cynhwysol; un sy’n dathlu lleisiau amrywiol, gwaith newydd, a repertoire hollbwysig.

Rydym yn adnabyddus am ddatblygu actorion o’r radd flaenaf ac mae ein graddedigion i’w gweld ym myd theatr, ffilm a theledu yn fyd-eang. Ymysg y graddedigion mae Rakie Ayola, Syr Anthony Hopkins, Ruth Jones, Callum Scott Howells, Tom Rhys-Harries, Thalissa Teixeira, Eve Myles, Rob Brydon, Dougray Scott, Anthony Boyle, Ed Bluemel, Clare Dunne, Anjana Vasan, Eric Kofi Abrefa, Sophie Melville, Ayomide Adegun, Lauren Morais, Kasper Hilton-Hille a Hannah Saxby.

Mae ein cyrsiau actio yn cael eu darparu mewn cysylltiad agos â rhaglenni dylunio a rheoli llwyfan y Coleg, sy’n golygu bod gennym ddull cydweithredol o addysgu Conservatoire y DU. Gyda’ch gilydd byddwch yn ffurfio cwmni cynhyrchu mewnol y Coleg, Cwmni Richard Burton. Mae’r cwmni’n gwneud sawl cynhyrchiad bob blwyddyn, yn ddramâu clasurol a chyfoes.

Pam astudio actio yn CBCDC?

  • Rydych chi’n gweithio gydag artistiaid gwadd o fri sy’n cyfarwyddo ein cynyrchiadau ac yn arwain amrywiaeth o ddosbarthiadau sy’n darparu hyfforddiant actio clasurol a chyfoes.
  • Mae ein hyfforddiant yn gynhwysol ac yn croesawu amrywiaeth, gan weithio gyda’r lleisiau pwysig yn theatr y DU, sy’n rhoi sylw uniongyrchol i bryderon mwyaf rhagweledol ac arwyddocaol ein hoes.
  • Fel rhan o’ch hyfforddiant, byddwch hefyd yn cael dosbarthiadau meistr gyda rhai o awduron, actorion a chyfarwyddwyr mwyaf cyffrous y wlad, lle gallwch gael cyngor arbenigol ar bopeth yn amrywio o dechneg clyweliad i ddod o hyd i asiant.
  • Rydych chi’n cymryd rhan mewn arddangosfeydd blynyddol yng Nghaerdydd a Llundain o flaen asiantiaid a chyfarwyddwyr castioYn ein gŵyl ysgrifennu newydd flynyddol, NEWYDD, sy’n cael canmoliaeth fawr, byddwch yn gweithio’n agos gydag awduron a chyfarwyddwyr blaenllaw ar ddramâu wedi’u comisiynu gennym ni mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman. Mae cynyrchiadau’n cael eu dangos am y tro cyntaf yma yn y Coleg cyn symud i Lundain.
Un o’r cyrsiau hyfforddi actorion mwyaf trylwyr a threiddgar yn Ewrop
Simon StephensDramodydd

Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf