

Drama
The Last Days of Judas Iscariot
Trosolwg
Gwe 6 Maw - Mer 11 Maw
Lleoliad
Prisiau
£8 - £16
Oedran
14+
Tocynnau: £8 - £16
Gwybodaeth
Yr achos: Teyrnas y Nefoedd a’r Ddaear yn erbyn Judas Iscariot.
Yn y ddrama llys hynod ddoniol a rhyfeddol hon, mae brad mwyaf drwg-enwog hanes yn cael ei ddadansoddi gan rymoedd da a drwg. Mae ffigurau megis Pontius Peilat, y Fam Theresa a Sigmund Freud yn cael eu galw i roi tystiolaeth mewn llys sydd â chymaint o ddyled i’r ghetto ag i’r Efengylau.
Mae Stephen Adly Guirgis yn defnyddio egni treisgar, anhrefnus Dinas Efrog Newydd i archwilio cwestiynau oesol ewyllys rydd a chyfrifoldeb.
Gan Stephen Adly Guirgis
Cyfarwyddwr Chris Sonnex
Cwmni Richard Burton
Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.









