Neidio i’r prif gynnwys

Theatr Gerddorol

Mae ein hyfforddiant dwys a throchol wedi’i wreiddio’n gadarn yn y diwydiant Theatr Gerddorol presennol ac yn eich arfogi i ddod yn weithiwr proffesiynol cyflawn a medrus yn holl agweddau integredig Theatr Gerddorol. 

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Mae amserlen heriol ‘wythnos wyth sioe’ llawer o swyddi ym maes Theatr Gerddorol, sy'n cael ei chynnal yn aml dros gyfnodau hir, yn gofyn am berfformiwr amryddawn sy’n ffit yn lleisiol ac yn gorfforol, ac sy'n hynod gymwys ym mhob disgyblaeth. Rhaid iddynt allu cyflwyno ystod eang o rinweddau ac arddulliau lleisiol yn ddiogel a hyderus, ynghyd â sgiliau symud, dawnsio ac actio da.

Rydym yn gosod ein myfyrwyr yng nghanol ein cymuned greadigol ac yn gweithio mewn cydweithrediad agos â’r adrannau actio, cerddoriaeth, cynhyrchu a chynllunio ac yn creu cyfleoedd i ddatblygu portffolio proffesiynol.

Pam astudio Theatr Gerddorol yn CBCDC?

  • Mae ein dosbarthiadau yn fach ac yn cynnwys carfannau a ddewiswyd â llaw i gyflwyno hyfforddiant dwys a throchol. Byddwch yn elwa o gael sylw unigol ac yn mwynhau perthynas waith agos â’ch cyfoedion. Mae hyn hefyd yn golygu bod amrywiaeth o gyfleoedd castio ar draws y rhaglen.
  • Cymryd rhan mewn gwersi dawns bob dydd gan gynnwys Jazz, Tap, Bale yn ogystal â dosbarthiadau mewn symudiadau a ffurfiau dawns gyfoes i adlewyrchu gofynion y proffesiwn.
  • Rydym yn cynnig gwersi canu technegol un-i-un rheolaidd a hyfforddiant llais yn ogystal â gwersi grŵp i ddatblygu eich techneg lleisiol a’ch repertoire.
  • Mae gofalu am eich llais yn bwysig ac rydym yn rhoi’r offer i chi wneud hynny. Byddwch yn cymryd rhan mewn hyfforddiant llais Estill wythnosol gan unig Fentor a Hyfforddwr Cwrs Estill Cymru, Tim Richards. System sy’n canolbwyntio ar ddatblygu ymwybyddiaeth weithredol o sut mae’r llais yn gweithio yw Hyfforddiant Llais Estill, gan wneud cysylltiadau rhwng defnydd y cyhyrau a’r llais.
  • Mae cyflogadwyedd yn y diwydiant theatr gerddorol cyfoes wrth wraidd yr hyn a gynigir gennym. Mae ein cyrsiau wedi’u modelu ar safonau’r diwydiant proffesiynol ac wedi’u llunio’n ofalus i’ch paratoi ar gyfer gwaith a gofynion newidiol y diwydiant theatr gerddorol sy’n ehangu’n gyflym ac yn gynyddol ryngwladol.
  • Mae ein hadran wedi sefydlu cysylltiadau cryf gyda chyflogwyr blaenllaw, gweithwyr creadigol, asiantau a chyfarwyddwyr castio o’r diwydiant ac mae ein graddedigion diweddar wedi ymddangos mewn cynyrchiadau yn y West End gan gynnwys Hamilton, Love Never Dies, The King&I, The Band’s Visit, Heathers, Jersey Boys, The Secret Garden, Choir of Man, Phantom of the Opera, Bat out of Hell, Les Misérables, a hefyd nifer o gynyrchiadau teithiol ar raddfa lai gan gynnwys Hairspray, Sunset Boulevard, Kinky Boots, Blood Brothers, a Spring Awakening yn y DU a thramor.
  • Mae adrodd storïau mewn modd dilys a chysylltiedig drwy integreiddio cerddoriaeth, actio a dawns yn allweddol, a byddwch yn cael eich arwain gan athrawon, perfformwyr ac ymarferwyr blaenllaw o fyd rhyngwladol Theatr Gerddorol. 
  • Mae cyfleoedd i berfformio yn flaenoriaeth; lle mae myfyrwyr yn dysgu drwy brofiad ymarferol mewn amrywiaeth o gyd-destunau gan gynnwys ein perfformiadau Cabaret rheolaidd poblogaidd yn y cyntedd yn ogystal â chynyrchiadau cyhoeddus ar raddfa lawn fel rhan o’n cwmni cynhyrchu mewnol, Cwmni Richard Burton.
  • Byddwch yn hyfforddi yn ein cyfleusterau rhyfeddol, sy’n cynnwys bod yn goleg Steinway cyfan, stiwdios â lloriau sbring a drychau pwrpasol a nifer o fannau perfformio proffesiynol gan gynnwys ein neuadd gyngerdd o’r radd flaenaf a Theatr Richard Burton.
  • Rydym yn ymgorffori cyfleoedd unigryw i chi archwilio eich cyfraniad unigol i’r broses greadigol drwy gyfres o brosiectau pwrpasol sy’n seiliedig ar berfformiad. Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau Agweddau at Actio, Cân a Dawns, Ysgrifennu Newydd, ac Arddangosfa Asiant a rîl arddangos.
  • Mae CBCDC wedi datblygu enw arbennig fel hyrwyddwr ysgrifennu newydd, ar ôl comisiynu a pherfformio dros 30 o ddramâu newydd. Mewn cydweithrediad â Musical Theatre Network, rydym wedi cynnal diwrnodau cyflwyno i ysbrydoli ac arddangos ysgrifennu newydd. Mae myfyrwyr wedi bod yn ymwneud ag ymchwil a datblygiad nifer o sioeau cerdd newydd gan gynnwys The Wicker Husband, a ddangoswyd am y tro cyntaf yn Theatr y Watermill y llynedd, Hail Cremation a Toy Mic Trev.

Dan arweiniad gweithiwr proffesiynol o’r diwydiant

Mae gyrfa berfformio’r Pennaeth Theatr Gerddorol Vivien Care yn cynnwys theatr gerddorol y West End, teithio yn y DU ac yn rhyngwladol, recordiadau stiwdio, ymddangosiadau ar deledu, cyngherddau, a gwaith radio. 

Mae hi wedi bod yn gysylltiedig mewn nifer o brosiectau ymchwil a datblygu ar gyfer gwaith gwreiddiol gan gynnwys Marguérite ar gyfer Boublil a Schönberg, gan arwain at ddiddordeb arbennig mewn ysgrifennu newydd ar gyfer theatr gerddorol. 

Mae uchafbwyntiau o ran perfformio yn cynnwys The Sound of Music Cwmni Opera D’Oyly Carte yn The London Palladium, a sawl tymor sefydlog yn Theatr Awyr Agored Regent’s Park gan gynnwys HMS Pinafore, The Boyfriend a High Society. Mae ymddangosiadau yn Les Misérables yn cynnwys yn Theatr y Palas a Theatr y Frenhines, y cynhyrchiad Sgandinafaidd Rhyngwladol, Cyngerdd Pen-blwydd Les Misérables yn 25 yn arena O2, a pherfformiad preifat yng Nghastell Windsor ar wahoddiad Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Yn 2020, dyfarnwyd swydd gyswllt yr Academi Gerdd Frenhinol (ARAM) i Vivien. 

Cabaret

Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf