

Opera
Mae adrodd straeon trwy gerddoriaeth a drama wrth wraidd yr hyfforddiant personol a dwys yma, sydd wedi’i lunio gan brofiad ymarferol o’r diwydiant a’i arwain gan athrawon, perfformwyr ac ymarferwyr blaenllaw o’r byd opera yn rhyngwladol.
Pam astudio opera yn CBCDC?
- Fel aelod o Ysgol Opera David Seligman, byddwch yn datblygu eich dawn drwy astudio pob agwedd ar hyfforddiant opera. Mae Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cynnig profiad hyfforddi operatig cwbl integredig.
- Bydd profiad operatig helaeth ein hathrawon arbenigol yn eich paratoi ar gyfer gofynion y diwydiant cystadleuol hwn.
- Fel rhan o’ch hyfforddiant operatig cwbl integredig, cewch gyfleoedd i weithio gydag, a dysgu gan, artistiaid gwadd, cantorion, hyfforddwyr a gweithwyr proffesiynol cwmni opera blaenllaw. Mae artistiaid gwadd diweddar yn cynnwys y Maestro Carlo Rizzi, Susan Bullock, Gerald Finley a Syr Antonio Pappano.
- Mae ein partneriaeth glos a chreadigol gydag Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) yn golygu y byddwch yn elwa gan lawer o gyfleoedd i fynychu ymarferion gwisg y cwmni, astudio gyda staff cerddoriaeth preswyl a chymryd rhan yng nghynyrchiadau Opera Ieuenctid WNO.
- Mae gan yr Ysgol Opera hefyd gysylltiadau cryf â chwmnïau opera nodedig sy’n cynnwys Scottish Opera, Opera North a’r Tŷ Opera Brenhinol, gan roi amrywiaeth o brofiadau cysylltiedig â’r diwydiant i fyfyrwyr megis mentora, hyfforddi a phrofiad arsylwi.
- Yn ogystal â rhaglenni astudio arbenigol ar gyfer cantorion, cyfarwyddwyr a répétiteurs, mae’r Ysgol Opera yn creu cydweithrediad trawsadrannol prysur i berfformwyr offerynnol, arweinwyr, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr a chyfansoddwyr gydweithio mewn amgylchedd hyfforddi unigryw o safon fyd-eang.
- Cynhelir Gwobr y Gân BBC Canwr y Byd Caerdydd yn CBCDC bob dwy flynedd, gan roi’r cyfle i chi gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr a gwylio doniau ifanc o’r radd flaenaf.
Ysgol Opera David Seligman
Mewn cydweithrediad â’r WNO, mae’r Ysgol Opera yn darparu cyfleoedd uwch i fyfyrwyr weithio gydag artistiaid ac ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw, a dysgu ganddynt.
Fel un o raglenni hyfforddiant opera uwch blaenllaw y DU caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd dysgu heb ei ail, lle mae’r cysyniad o ‘gwmni’ wrth galon ein hethos.
Ble nesa...?
Mae graddedigion opera CBCDC i'w gweld ar hyn o bryd gydag English National Opera (ENO), Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), Opera North, Glyndebourne, yn ogystal â thai opera ledled Ewrop a Gogledd America. Ar hyn o bryd mae gan CBCDC raddedigion opera mewn rhaglenni Artistiaid Ifanc gan gynnwys y Stiwdio Opera Genedlaethol, Jette Parker yn Tŷ Opera Brenhinol ac Ensemble Opera Hannover.
Mae rhai wedi parhau â’u hastudiaethau yn y Stiwdio Opera Genedlaethol a Rhaglen Artistiaid Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol.
Dan arweiniad yr arweinydd, y pianydd a'r hyfforddwr James Southall
Mae James wedi arwain gyda chwmnïau opera a cherddorfeydd blaenllaw gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, English Touring Opera, Sinfonia Cymru, L’orchestra Haydn di Bolzano e Trento, Camerata Nordica ac Opéra de Baugé.
Ochr yn ochr â’i waith gyda’r WNO, mae James wedi bod yn hyfforddwr yn CBCDC ers 2013, gan arwain y Gala Opera gyda Cherddorfa’r WNO yn 2018.
Yn y WNO mae wedi bod yn arweinydd cynorthwyol i Carlo Rizzi, Arweinydd Llawryfog WNO, Lothar Koenigs a Tomáš Hanus.
Ac yntau wedi ennill gwobrau fel pianydd, mae wedi perfformio datganiadau yn Neuadd Wigmore a Neuadd Cadogan ac ar BBC Radio 3. Mae hefyd wedi cydweithio â Syr Bryn Terfel CBE, Rebecca Evans, Elizabeth Watts ac Ailish Tynan.
Roedd James yn Ysgolor yr Organ yng Ngholeg y Frenhines Caergrawnt ac mae’n gyn-fyfyriwr y Coleg Cerdd Brenhinol.
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy