

Drama
Adverse Camber: Stars and their Consolations
Trosolwg
Iau 2 Ebr 7.30pm
Lleoliad
Prisiau
£9 - £18
Oedran
14+ oed
Tocynnau: £9 - £18
Gwybodaeth
Straeon am y sêr wedi'u hadrodd i drac sain electro-acwstig.
Ail-ddychmygu mawreddog, personol a hypnotig o chwedlau Groegaidd sy'n cyfuno straeon hynafol, tafluniadau cosmig a seinwedd electro-acwstig iasol.
Teithiwch i awyr y nos gyda straeon sydd wedi goleuo'r tywyllwch ers miloedd o flynyddoedd. Daw chwedlau Groegaidd o gytserau yn fyw gan ddau o fawrion adrodd straeon y DU, Hugh Lupton a Daniel Morden. Dewch i brofi straeon pwerus, hynafol gyda seinwedd electro-acwstig gyffrous gan y cyfansoddwr Sarah Liane Lewis a thafluniad cosmig. Plymiwch i antur gyfareddol a gwirioneddol hudolus. Gwyliwch y duwiau’n chwarae'n ddidrugaredd gyda marwolion gyda straeon o chwant, balchder ac angerdd. Bydd y cyfan yn eich gadael ar bigau’r draen eisiau darganfod mwy...
Daw awyr y nos epig â phersbectif cosmig, tragwyddol i drafferthion dynol, gan gynnig cysur sy’n fawr ei angen yn y dydd sydd ohoni.
Cynhyrchiad gan Adverse Camber.
Creuwyd gan Daniel Morden, Hugh Lupton a Sarah Lianne Lewis.
Gyda chefnogaeth Theatrau Sir Gâr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Colwinston, Ymddiriedolaeth Darkley, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Prosiect Nos a People Speak Up. Comisiynwyd Stars and their Consolations yn wreiddiol ar gyfer Beyond the Border 2021 a chefnogwyd y cyfnod ymchwil a datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Thŷ Cerdd gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr.
Rhagflas BSL
Allow Youtube content?
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.








