Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Drama

The Watsons

  • Trosolwg

    Iau 5 Maw - Mer 11 Maw

  • Manylion

    Matinee: Mer 11 Maw 2pm

  • Lleoliad

    Theatr Richard Burton

  • Prisiau

    £8 - £16

  • Oedran

    14+

Tocynnau: £8 - £16

Gwybodaeth

Mae Emma Watson yn 19 oed ac yn newydd yn y dref. Wedi’i gwrthod gan ei modryb gyfoethog a’i dychwelyd i’r cartref teuluol, rhaid i Emma a’i chwiorydd briodi, a hynny’n gyflym. Yn ffodus, mae digon o gariadon posibl i ddawnsio â nhw, o’r Tom Musgrave fflyrtiog i’r Arglwydd Osborne a’i gastell, sydd yr un mor lletchwith ag ydyw o gyfoethog. Yr un stori gyfarwydd. Ond mae yna un broblem fach, mae’r stori hon yn anghyflawn…

Yn seiliedig ar nofel anorffenedig Jane Austen, mae’r ddrama hynod ffraeth hon yn edrych o dan foned Jane Austen ac yn archwilio esblygiad cymeriadau a’u posibiliadau llenyddol diddiwedd.

Gan Laura Wade


Cyfarwyddwr Emily Ling Williams

Cwmni Richard Burton

Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir