Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw conservatoire cenedlaethol Cymru. Gyda’n hyfforddiant arbenigol ar gerddoriaeth a’n llwybrau perfformio amrywiol, gallwch wella eich sgiliau mewn amgylchedd cynhwysol a chroesawgar a fydd yn eich annog i wthio ffiniau eich creadigrwydd.

Pan fyddwch chi’n astudio ein cyrsiau cerddoriaeth conservatoire, mae’r ffocws arnoch chi a’r cerddor rydych chi eisiau bod. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich talent fel unigolyn, fel artist cydweithredol ac fel cerddor a fydd yn cyfrannu at gymdeithas.

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam dewis Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer eich hyfforddiant cerddoriaeth conservatoire?

  • Manteisiwch ar ddosbarthiadau bach gydag addysgu un-i-un, gan roi addysg gerddorol bwrpasol wedi’i theilwra i’ch anghenion.
  • Datblygwch eich rhwydwaith proffesiynol drwy ein partneriaethau cryf â sefydliadau blaenllaw fel Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru - gan gynnig lleoliadau a chysylltiadau yn y diwydiant sy’n hanfodol er mwyn ffynnu yn y diwydiant cerddoriaeth. 
  • Dysgwch gan artistiaid sy’n ymarfer, gyda staff addysgu sy’n artistiaid, yn gydweithredwyr ac yn addysgwyr o fri rhyngwladol ar draws ein rhaglenni cerddoriaeth.
  • Ymunwch â chymuned amlddiwylliannol fyd-eang, gan astudio ochr yn ochr â myfyrwyr o dros 40 o wahanol wledydd.
  • Dangoswch eich cryfderau drwy broses glyweliadau sydd wedi’i chynllunio i’ch dangos ar eich gorau. 
  • Cyfle i fyw ac astudio yng nghanol Caerdydd, prifddinas ffyniannus Cymru, ychydig llai na dwy awr ar y trên o ganol Llundain.
  • Manteisiwch ar fyw’n fforddiadwy i fyfyrwyr, gyda Chaerdydd wedi’i henwi’n ail ddinas fwyaf cost-effeithiol i fyfyrwyr yn ôl Mynegai NatWest am Gostau Byw i Fyfyrwyr.
  • Dewch yn rhan o gampws celfyddydau o'r radd flaenaf sy'n cynnal digwyddiadau mawr fel BBC Canwr y Byd Caerdydd a Dylunio Llwyfan y Byd.
  • Dewch i ymarfer a pherfformio yn unig conservatoire Steinway y byd, lle mae pob piano acwstig yn Steinway. Fel myfyriwr ar ein rhaglenni cerddoriaeth, bydd gennych fynediad at Steinway pan fyddwch yn ymarfer, pan fyddwch yn cael eich arholi a phan fyddwch yn perfformio.
  • Hyfforddwch mewn sefydliad a gydnabyddir yn rhyngwladol - y conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrhau ansawdd ar draws y categorïau Cerddoriaeth a Drama yn adolygiad rhyngwladol diweddar MusiQuE, Music Quality Enhancement. Gwnaeth ein dull o ymdrin â phrofiad unigol y myfyriwr, cydweithredu amlddisgyblaethol ac uchelgais gyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr. Nododd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewropeaidd, gan adlewyrchu ein pobl eithriadol a'n cymuned unigryw.

Cyfleoedd perfformio a chydweithredu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

  • Rydym yn ganolfan gelfyddydau weithredol a’r lleoliad sy’n cynhyrchu mwyaf yng Nghymru, gyda dros 500 o berfformiadau bob blwyddyn. Byddwch yn perfformio mewn digwyddiadau byw ac yn profi artistiaid o’r radd flaenaf ar y llwyfan, yma ar y campws. Mae ein rhaglen digwyddiadau cyhoeddus yn amrywio o gerddoriaeth siambr ac operâu i gigiau jazz a chynyrchiadau theatr gerdd. 
  • Fel rhan o’n cyrsiau BMus, MMus, MA a’n Diplomâu ôl-raddedig, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau cydweithredol creadigol ar draws ein holl adrannau. Gan ddwyn ynghyd staff a myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg, mae’r cydweithrediadau hyn yn cynnig profiad ymarferol i chi o weithio ar draws gwahanol ddisgyblaethau creadigol.
  • Byddwch yn hyfforddi mewn mannau sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi’u cynllunio ar gyfer perfformio a chydweithredu. Mae ein campws yn cynnwys neuadd berfformio cerddoriaeth siambr sy’n rhagorol yn acwstig, theatr iard hyfryd, stiwdios o’r radd flaenaf a gofod cyntedd trawiadol. 
  • Bob tymor, bydd unawdwyr rhyngwladol yn ymweld â’r Coleg fel rhan o’n rhaglen o berfformiadau cyhoeddus. Cewch gyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr, lle byddant yn cynnig cyngor ar fywyd fel cerddor ac yn eich helpu i fynd â’ch sgiliau i’r lefel nesaf.

Ein hadrannau a’n meysydd astudio

'Yr hyn sydd mor ganolog i fywyd yn CBCDC yw bod y gerddoriaeth a wnawn nid yn unig yn golygu’r hyn rydych chi’n ei chwarae, mae’n ymwneud â phwy ydych chi a’r hyn rydych yn ei gyfrannu.'
Elizabeth BonsellMyfyriwr BMus
‘Mae’r Coleg yn teimlo fel lle i ymchwilio i sut fath o beth fydd dyfodol cerddoriaeth, yn ei holl ffurfiau, gan ofyn cwestiynau pwysig ein hoes am gerddoriaeth a drama.'
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC
'Os oes gennych chi’r ddawn, yr ymroddiad, os oes gennych chi’r cymhelliant i fod y cerddor gorau y gallwch fod, mae croeso i chi yma. Rydym yn credu ynoch chi o’r eiliad y byddwch yn cyrraedd.'
Tim Rhys-EvansCyfarwyddwr Cerddoriaeth

Ydych chi’n barod i gychwyn ar eich taith conservatoire?

Ymunwch â chymuned o gerddorion angerddol a thalentog yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. P’un a ydych chi’n paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol neu’n awyddus i lunio dyfodol addysg cerddoriaeth, mae eich llwybr yn dechrau yma.

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

(Gofynnol)

(Gofynnol)

(Gofynnol)

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Pres

Cewch brofiad hyfforddiant dihafal, ynghyd â chyfleoedd perfformio a chydweithio gyda’ch cydfyfyrwyr a rhai o gerddorion pres gorau’r byd.
Rhagor o wybodaeth

Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Datblygwch lais personol hyderus a nodedig drwy hyfforddiant arbenigol sy’n cwmpasu’r ystod lawn o dechnegau a dulliau cyfansoddi, tra’n trochi eich hun mewn cyfleoedd i berfformio, recordio, cael profiad ymarferol o’r diwydiant a chydweithio ar draws y disgyblaethau.
Rhagor o wybodaeth

Arwain

Mae ein rhaglen ôl-radd mewn arwain yn caniatáu i gerddorion arbenigo mewn naill ai arwain cerddorfaol, corawl neu fand pres, i ddatblygu eich arddull, techneg a’ch strategaethau arwain.
Rhagor o wybodaeth

Gitâr

Deffrowch eich creadigrwydd a’ch chwilfrydedd cerddorol i ddod yn gitarydd amryddawn gyda hunaniaeth artistig bwerus a’r sgiliau i ffynnu yn y byd proffesiynol presennol.
Rhagor o wybodaeth

Y Delyn

Gyda hyfforddiant o safon fyd-eang ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, byddwch yn meithrin yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu fel telynor proffesiynol.
Rhagor o wybodaeth

Perfformio hanesyddol

Mae dull hanesyddol wybodus ar gyfer gwahanol arddulliau cerddorol yn hanfodol ar gyfer pob cerddor sy’n ymuno â’r proffesiwn heddiw. Mae myfyrwyr CBCDC yn elwa gan hyfforddiant a mentora sy’n hyrwyddo ac yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o arddulliau perfformio o gyfnod y Dadeni i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg drwy raglen astudio gynhwysfawr o’r radd flaenaf.
Rhagor o wybodaeth

Jazz

Trochwch eich hun mewn hyfforddiant proffesiynol wedi’i deilwra gyda rhai o gerddorion jazz gorau’r DU. Byddwch yn astudio mewn grwpiau bach ac yn cael cyfleoedd dihafal i berfformio a dod yn rhan o sîn jazz ffyniannus.
Rhagor o wybodaeth

Piano

Cloddiwch i gwricwlwm trwyadl sy’n cynnig meistrolaeth ar dechneg yr allweddellau, cyfleoedd i berfformio a chydweithio, yn ogystal â’r sgiliau ymarferol i lwyddo yn y diwydiant cerddoriaeth heddiw.
Rhagor o wybodaeth

Offerynnau taro

Gwthiwch eich ffiniau gyda hyfforddiant dwys a arweinir gan arbenigwyr mewn chwarae unawdol, cerddorfaol ac ensemble sy’n ennyn ysbryd creadigol a chydweithredol.
Rhagor o wybodaeth

Llinynnau

Manteisiwch ar amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, cydweithio ac arbrofi – y cyfan mewn amgylchedd dysgu cefnogol sy’n meithrin eich sgiliau proffesiynol a’ch dychymyg, i’ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth.
Rhagor o wybodaeth

Llais

Cewch weithio gyda pherfformwyr a hyfforddwyr llais blaenllaw yn y diwydiant er mwyn cael bod y canwr gorau y gallwch fod, tra’n dysgu’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y byd proffesiynol.
Rhagor o wybodaeth

Chwythbrennau

Hyfforddwch dan arweiniad cerddorion proffesiynol nodedig o brif gerddorfeydd y DU
Rhagor o wybodaeth

Opera

Mae adrodd straeon trwy gerddoriaeth a drama wrth wraidd yr hyfforddiant personol a dwys yma, sydd wedi’i lunio gan brofiad ymarferol o’r diwydiant a’i arwain gan athrawon, perfformwyr ac ymarferwyr blaenllaw o’r byd opera yn rhyngwladol.
Rhagor o wybodaeth