Neidio i’r prif gynnwys

Blaise Malaba

Graddiodd y gantores opera, Blaise Malaba o CBCDC yn 2018 gyda MA mewn Perfformiad Opera.

Mae Blaise, a raddiodd gyda gradd MA mewn Perfformio Opera, wedi bod yn gweithio ers graddio yn 2018, gan ddod yn Artist Ifanc Opera Holland Park ac yna’n Artist Ifanc Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol tan 2022.

Cafodd ei enwi'n seren y dyfodol yn BBC Music Magazine yn 2020, ond nid canu opera oedd dewis cyntaf Blaise o ran gyrfa. Yn wreiddiol o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo, roedd yn astudio Cysylltiadau Rhyngwladol yn yr Wcráin pan ddechreuodd gael hyfforddiant llais yn 2012, ac aeth ymlaen i gyrraedd rownd derfynol Canwr y Byd Caerdydd y BBC 2015, pan ddaeth i CBCDC gyntaf.

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys ymddangosiad cyntaf clodwiw fel Zuniga yn ‘Carmen’ y Tŷ Opera Brenhinol, ei ymddangosiad cyntaf fel Colline yn ‘La Boheme’ gyda Chwmni Opera Canada, ac fel Abimélech yn ‘Samson et Dalila’ yn y Tŷ Opera Brenhinol o dan faton Syr Antonio Pappano.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Dwi’n credu’n gryf bod talent heb addysg yn werth fawr ddim. Beth bynnag dwi’n ei wneud nawr, fe wnes i ddysgu 95% ohono yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Doeddwn i erioed wedi astudio cerddoriaeth cyn cyrraedd y Coleg. Roeddwn i’n canu mewn corau ond doeddwn i erioed wedi cael unrhyw hyfforddiant ffurfiol, felly roeddwn i’n chwilfrydig iawn ac yn agored i ddysgu gan bawb.

Dysgais bopeth yma, o’r gwersi iaith, symud, dosbarthiadau drama, gwersi canu... ac o fewn dwy flynedd, roedd gen i’r holl offer oedd eu hangen arna i i’m paratoi ar gyfer y diwydiant. '
Blaise Malaba

Adran archwilio