

Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol Uwch (Opera)
Dyfarniad:
Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol Uwch
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC a'r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
19 Medi 2027
Hyd:
12 mis dwys
Cod y cwrs:
625F - UCAS Conservatoires
Cyflwyniad
Yn y rhaglen uwch 12 mis hon, wedi’i chreu ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru, byddwch yn cael cyfuniad trylwyr o hyfforddiant unigol, dosbarthiadau arbenigol a nifer o gyfleoedd perfformio mewn amrywiaeth o leoliadau.
Trosolwg o’r cwrs
Wrth ymuno ag Ysgol Opera David Seligman, perfformio operatig fydd sylfaen eich profiad. Bydd y rhan fwyaf o’ch astudiaethau yn canolbwyntio ar berfformiad cyhoeddus mewn opera wedi’i llwyfannu’n llawn, sy’n cynnwys cyfnodau o baratoi ac ymarfer dwys.
Drwy ein cysylltiadau cryf â’r diwydiant, byddwch yn cael eich trochi mewn amgylchedd cwmni operatig proffesiynol yn gynnar yn eich cwrs. Gan weithio fel rhan o Ysgol Opera David Seligman, byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i arsylwi a chysgodi gweithgareddau dethol Opera Cenedlaethol Cymru.
Drwy amrywiaeth o ddulliau addysgu mewn lleoliad conservatoire ysbrydoledig, byddwch yn meistroli’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant opera heddiw.
Mae’r rhestr o operâu a berfformiwyd yn ddiweddar wedi bod yn amrywiol ac yn heriol:
- Handel, Alcina, wedi’i chanu mewn Eidaleg, wedi’i pherfformio gyda’r gerddorfa; arweinydd/continuo James Southall, cyfarwyddwr Sophie Gilpin.
- Offenbach, Orpheus in the Underworld, canu a deialog yn Saesneg, wedi’i pherfformio gyda’r gerddorfa yn nhrefniant Tony Burke; arweinydd David Jones, cyfarwyddwr Matthew Eberhardt.
- Rhaglen ddwbl Salieri, Prima la musica, poi le parole (yn Saesneg), a Menotti, The Medium. Wedi’u perfformio gydag ensemble siambr chwythbrennau/piano maint canolig; arweinydd/piano James Southall, cyfarwyddwr Hannah Noone.
- Mozart, Don Giovanni K.527, wedi’i chanu mewn Eidaleg, wedi’i pherfformio gyda’r gerddorfa; arweinydd/harpsicord James Southall, cyfarwyddwr Isabelle Kettle.
- Britten, A Midsummer Night’s Dream, fersiwn arbennig wedi’i pherfformio ar gyfer y piano a dau offerynnwr taro; piano/arweinydd James Southall, cyfarwyddwr Matthew Eberhardt.
- Rhaglen ddwbl Puccini, Gianni Schicchi, a Respighi, La bella dormente nel bosco, wedi’u canu mewn Eidaleg, wedi’u perfformio gyda’r gerddorfa; arweinydd Carlo Rizzi, cyfarwyddwr Caroline Clegg.
- Humperdinck, Hänsel und Gretel, wedi’i chanu mewn Almaeneg, wedi’i pherfformio yn nhrefniant David Seaman ar gyfer pum offeryn; piano/arweinydd James Southall, cyfarwyddwr Deborah Cohen.
- Poulenc, The Dialogues of the Carmelites, wedi’i chanu mewn Saesneg, wedi’i pherfformio gyda’r gerddorfa; arweinydd James Southall, cyfarwyddwr Rachael Hewer.
Pam astudio Opera yn y Coleg Brenhinol?
- Mae’r hyfforddiant 12 mis yn cynnwys cyfuniad o ddulliau addysgu sy’n cyfoethogi eich sgiliau arbenigol, gan eich gwneud yn fwy cyflogadwy hefyd – hyfforddiant un i un, gwaith grŵp, tiwtorialau, darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol a gweithdai ochr yn ochr â chyfnodau sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu.
- Ni fydd eich rhaglen astudio yn glynu wrth unrhyw un fethodoleg neu athroniaeth – yn hytrach, mae’n dod â llawer o ddylanwadau a dulliau at eich gwaith er mwyn i chi allu magu hyder wrth nodi a deall eich gweledigaeth artistig eich hun.
- Byddwch yn dysgu arferion gweithio operatig proffesiynol gyda chyfarwyddwyr proffesiynol, gan roi cipolwg i chi ar sut mae’r diwydiant yn gweithio a’ch helpu i gael ymwybyddiaeth o’r amgylchedd operatig.
- Mae ein partneriaethau â’r diwydiant yn cynnig cyfleoedd i chi gydweithio’n uniongyrchol ag Opera Cenedlaethol Cymru. Uchafbwynt y cydweithio hwn yw Gala Opera Opera Cenedlaethol Cymru/Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle bydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn ymuno â chantorion Ysgol Opera David Seligman ar y llwyfan yn Neuadd drawiadol Dora Stoutzker. Mae’r gala’n cael ei pherfformio ddwywaith (ar nosweithiau olynol) ac mae gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn bresennol.
- Mae ein partneriaethau â’r diwydiant yn cynnig cyfleoedd i chi gydweithio’n uniongyrchol ag Opera Cenedlaethol Cymru. Uchafbwynt y cydweithio hwn yw Gala Opera Opera Cenedlaethol Cymru/Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle bydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn ymuno â chantorion Ysgol Opera David Seligman ar y llwyfan yn Neuadd drawiadol Dora Stoutzker. Mae’r gala’n cael ei pherfformio ddwywaith (ar nosweithiau olynol) ac mae gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn bresennol.
- Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys unawdwyr lleisiol adnabyddus a hyfforddwyr nodedig. Maent yn eich mentora ac yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i chi, yn ogystal ag addysg o’r radd flaenaf.
- Byddwch yn cydbwyso eich hyfforddiant unigol â dosbarthiadau cwbl integredig mewn crefftau llwyfan, sy’n cynnwys symud a dawnsio, a hyfforddiant mewn sgiliau dramatig a dehongli.
- Yn nhymor yr hydref, byddwch yn cael dosbarthiadau yn y prif ieithoedd operatig – Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg. Mae perfformio yn rhan annatod o’ch hyfforddiant ar y Cwrs Opera yma yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Eich perfformiad cyhoeddus cyntaf fydd dau berfformiad ar nosweithiau olynol o set lawn o Olygfeydd Opera gyda phiano. Fel carfan, byddwch wedyn yn dechrau paratoi’n syth ar gyfer Gala Opera Opera Cenedlaethol Cymru/Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru – eto’n perfformio ddwywaith ar nosweithiau olynol yn Neuadd drawiadol Dora Stoutzker yn y Coleg. Mae hon yn noson wych o gerddoriaeth lle bydd Cerddorfa wych Opera Cenedlaethol Cymru yn ymuno â chantorion o Ysgol Opera David Seligman ar y llwyfan.
- Mae tymhorau’r gwanwyn a’r haf yn canolbwyntio ar gynyrchiadau wedi’u llwyfannu’n llawn o operâu hyd llawn gyda cherddorfa, ac mae’r dull yn union fel y byddech yn ei weld yn y diwydiant gyda galwadau cerddoriaeth penodol cyn cyfnod cynhyrchu mis o hyd yn y stiwdio. Yr wythnosau olaf – Sitzprobe, Llwyfan/Pianos a Llwyfan/Cerddorfeydd, mae’r ymarferion gwisgoedd eto yn union fel y byddech yn ei weld yn y diwydiant, gan roi profiad uniongyrchol i chi o’r stamina a’r cyflymder sy’n ofynnol.
- Mae ein holl gynyrchiadau’n cael eu cyfarwyddo a’u cynnal gan weithwyr proffesiynol sy’n arbenigwyr yn eu maes, felly rydych chi’n profi’n gyson sut beth yw gweithio ar y lefel uchaf.
- Ar ben hynny, mae amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn bresennol yn ein holl berfformiadau, gan eich helpu i gael eich gweld a’ch clywed gan y rhai sy’n gweithio yn y proffesiwn castio.
- Daw eich blwyddyn o astudio a pherfformio dwys i ben gyda modiwl dwy ran sy’n cynnwys cyflwyniad o rôl operatig gyflawn a chyflwyniad o becyn clyweliad. Caiff y rhain eu hasesu gan banel nodedig iawn o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, sy’n cynnwys hyfforddwr blaenllaw o gwmni opera cenedlaethol, pennaeth castio mewn cwmni opera yn y DU ac asiant o un o’r asiantaethau clasurol gorau yn y DU.
Gwybodaeth arall am y cwrs
Gwybod mwy am astudio cerddoriaeth yn CBCDC

Opera

Pobl

Storïau
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy











