Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

James Southall

Rôl y swydd: Cyfarwyddwr Cerddoriaeth ar gyfer Ysgol Opera David Seligman, Tiwtor Piano Cydweithredol a Hyfforddwr Llais, Tiwtor Opera

Adran: Opera

Anrhydeddau: MA (Cantab.) MMus, ARCO

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad Byr

Mae James Southall yn arweinydd, pianydd a hyfforddwr. Mae wedi arwain sawl cwmni opera blaenllaw gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, English Touring Opera, Sinfonia Cymru, L'orchestra Haydn di Bolzano e Trento, Camerata Nordica ac Opéra de Baugé.

Arbenigedd

Gydag Opera Cenedlaethol Cymru, mae James wedi arwain Madam Butterfly, La Traviata, Roberto Devereux, Carmen, Don Giovanni, The Magic Flute, Così fan tutte, Die Fledermaus, The Barber of Seville, Sweeney Todd a Le Vin Herbé gan Frank Martin, ymysg eraill.

Mae wedi arwain llawer o’r Cyngherddau i Deuluoedd ac Ysgolion yn Opera Cenedlaethol Cymru, a lluniodd sawl rhaglen gyda’r cyflwynydd Tom Redmond.

Yn ogystal â’i waith yn Opera Cenedlaethol Cymru, bu James yn hyfforddwr yn CBCDC ers 2013. Yn 2018 roedd yn arweinydd ar gyfer y Gala Opera gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.

Yn Opera Cenedlaethol Cymru, bu’n Arweinydd Cynorthwyol ar sawl achlysur i Carlo Rizzi (Arweinydd Llawryfol Opera Cenedlaethol Cymru), Lothar Koenigs a Tomáš Hanus.

Roedd James hefyd yn gynorthwyydd i Koenig ar gyfer Moses und Aron yn Teatro Real, Madrid. Yn La Monnaie roedd yn Gyfarwyddwr Cerddorol ar weithdy Mozart/da Ponte.

Roedd James yn Ysgolor yr Organ yng Ngholeg y Breninesau, Caergrawnt ac mae’n gyn-fyfyriwr y Coleg Cerdd Brenhinol.

Cyflawniadau Nodedig

Mae James yn bianydd medrus sydd wedi rhoi datganiadau yn Wigmore Hall a Cadogan Hall. Mae’n gyn-enillydd Gwobr y Cyfeilydd yng Ngwobrau Kathleen Ferrier a Chystadleuaeth Maggie Teyte. Roedd James yn sielydd yn yr NYO a pherfformiodd gyda’r arweinyddion Yan Pascal Tortelier, Jiri Belohlavek, Syr Mark Elder a Syr Roger Norrington.

Proffiliau staff eraill