Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Cymynrodd gwerth miliynau o bunnoedd yn cefnogi datblygiad talent ym myd opera a cherddoriaeth yng Nghymru

Bydd cymynrodd gwerth miliynau o bunnoedd, a rennir rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) ac Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), yn darparu cefnogaeth barhaus i hyfforddiant cantorion a cherddorion a hefyd yn creu cyfleoedd yn y dyfodol i artistiaid ifanc berfformio yn broffesiynol.

Rhannu neges

Categorïau

Opera

Dyddiad cyhoeddi

Published on 04/05/2023

Etifeddiaeth barhaol


Roedd y diweddar Philippa a David Seligman yn gefnogwyr brwd i’r celfyddydau. Mae David wedi gadael cymynroddion gwerth dros £3 miliwn i CBCDC a WNO a bydd y rhoddion hael hyn yn sicrhau parhad a datblygiad pellach prosiectau a olygodd lawer iawn iddynt yn ystod eu bywydau.

Mae Ysgol Opera David Seligman CBCDC yn cynnig profiad hyfforddiant operatig cwbl integredig gydag adrodd straeon drwy gyfrwng cerddoriaeth a drama wrth galon ei hyfforddiant dwys a phersonol. Bydd rhan o’r gymynrodd yn cael ei fuddsoddi’n uniongyrchol yn y cynyrchiadau, y profiad ymarferol o’r diwydiant a’r arweiniad y mae athrawon, perfformwyr ac ymarferwyr adnabyddus o fyd rhyngwladol opera yn eu cynnig i fyfyrwyr yr Ysgol. Bydd ysgoloriaethau newydd hollbwysig hefyd yn cael eu creu yn enw Seligman ar gyfer opera a disgyblaethau cerddoriaeth eraill.

‘Cefais y pleser mawr o adnabod David a Philippa am flynyddoedd lawer a gwelais drosof fy hun eu cred mewn pobl ifanc a grym canu i gyfoethogi bywydau ifanc. Roedd opera yn arbennig yn rhywbeth a oedd yn agos iawn at eu calonnau, ac roedd yr angen i’r ffurf hon ar gelfyddyd fod yn hygyrch ac yn berthnasol i bobl ifanc o bob cefndir yn ysgogiad mawr y tu ôl i’w dyngarwch.

Roedd David yn gwybod yr effaith y gall cymynroddion o unrhyw faint ei chael, a nawr bydd ei rodd eithriadol yn sicrhau y bydd cenedlaethau o artistiaid yn y dyfodol yn parhau i gael eu cefnogi am flynyddoedd lawer. Diolch yn fawr. Byddwn yn ddiolchgar am byth.’
Tim Rhys-EvansDywedodd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC

Opera Ieuenctid WNO

Sefydlwyd Opera Ieuenctid WNO yng nghanol y 1990au fel ffordd i’r Cwmni rannu ei gariad at opera gyda chantorion ifanc llawn dyhead. Rhaglen hyfforddi wobrwyedig ydyw ar gyfer pobl ifanc, rhwng 10 a 25 oed, sydd wrth eu bodd yn canu a pherfformio. Mae aelodau’n cael profiad o hyfforddiant proffesiynol ac unigryw yn gweithio gyda Cherddorfa, cynllunwyr, rheolwyr llwyfan a thechnegwyr WNO, gan helpu i ddatblygu a chefnogi eu sgiliau proffesiynol. Bydd effaith etifeddiaeth David yn sicrhau y gall Opera Ieuenctid WNO gyflwyno perfformiad arddangos bob blwyddyn.

‘Rydym yn hynod ddiolchgar am y gymynrodd hael hon. Roedd David a Philippa Seligman yn gefnogwyr brwd o Opera Ieuenctid WNO, ac rydym wrth ein bodd gallu eu hanrhydeddu drwy barhau â’n gwaith gydag artistiaid ifanc.

Mae’r gymynrodd hefyd yn caniatáu ar gyfer parhau â’r llwybr datblygu doniau sy’n hanesyddol wedi cysylltu WNO a CBCDC. Mae nifer o gynfyfyrwyr yr opera ieuenctid wedi mynd ymlaen i hyfforddi yn y Coleg ac yna wedi dychwelyd i WNO yn broffesiynol.
Paula ScottCynhyrchydd Opera Ieuenctid WNO

Yn fwyaf diweddar, perfformiodd Carys Davies, cyn aelod Opera Ieuenctid WNO a myfyriwr presennol CBCDC, yng nghynhyrchiad mawr WNO o The Magic Flute. Meddai Carys: ‘Roedd canu gydag Opera Ieuenctid WNO yn brofiad amhrisiadwy ac mae wedi dylanwadu ar fy hyfforddiant yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 

Mae fy ngwaith gyda WNO hefyd wedi rhoi mewnwelediad rhyfeddol i mi o fywyd proffesiynol ar ôl conservatoire ac mae wedi bod yn brofiad a fydd yn aros am byth yn y cof.’

Mae sioe arddangos Opera Ieuenctid WNO eleni, The Pied Piper of Hamelin & The Crab That Played With The Sea, yn cael ei pherfformio yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn 26 a dydd Sul 27 Mai. 

Bydd myfyrwyr Ysgol Opera David Seligman i’w gweld nesaf yn perfformio Hansel and Gretel gan Engelbert Humperdinck yn Theatr Richard Burton y Coleg o ddydd Sadwrn 1 tan ddydd Mercher 5 Gorffennaf.

Nodiadau i olygyddion

David Seligman
Roedd David a’i ddiweddar wraig Philippa yn falch iawn o rannu eu cariad at y celfyddydau perfformio a chefnogi talent ifanc. Mae ymrwymiad a dyngarwch rhyfeddol David, a fynegwyd drwy ei gysylltiad â llawer o sefydliadau celfyddydol ledled Caerdydd, wedi gadael ôl parhaol ar fywyd diwylliannol Cymru, nid yn unig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a WNO, ond yn Neuadd Dewi Sant, Canolfan Gelfyddydau Chapter, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr y Sherman i enwi dim ond rhai. Yn 2010, cafodd ef a’i wraig Philippa Fedal Tywysog Cymru am Ddyngarwch yn y Celfyddydau i ddathlu unigolion sy’n cefnogi’r celfyddydau, ac i gydnabod cyfraniad ‘y dyngarwyr diwylliannol mwyaf ysbrydoledig yn y DU’.

Bywgraffiadau cyn-fyfyrwyr
Mae’r soprano o Gymru, Carys Davies, yn ei thrydedd flwyddyn ar y cwrs gradd astudiaethau llais yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn astudio gyda Suzanne Murphy. Roedd Carys yn aelod o Opera Ieuenctid WNO rhwng 2014 a 2022, lle bu’n perfformio yn y corws plant ar gyfer Hansel and Gretel, Cat yn Brundibár, ac yng nghorws Cherry Town, Moscow. Yn fwy diweddar, mae Carys wedi canu gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn Neuadd Frenhinol Albert a chwarae rhan yr Ail Wrach yn Dido and Aeneas.

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o bron i 40 o wledydd. Cyfunir doniau a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr gydag addysgu eithriadol a chysylltiadau digyffelyb â’r diwydiant, i wireddu breuddwydion. Mae uchelgais a chydweithio creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.

Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai o leoliadau mwyaf clodfawr Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen perfformiadau gan artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr.

Opera Cenedlaethol Cymru
Credwn yng ngrym opera i drawsnewid bywydau. Ein cenhadaeth yw dod â phŵer, drama ac emosiwn cryf opera i gynulleidfa mor eang â phosibl mewn perfformiadau, sydd wedi’u nodweddu gan ymchwil digyfaddawd am ansawdd artistig. Fel cwmni cenedlaethol sydd â statws rhyngwladol, rydym wrth galon creu cerddoriaeth yng Nghymru ac yn chwarae rhan werthfawr yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn Lloegr. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin talent operatig ifanc, a darparu’r sbardun ar gyfer gyrfaoedd rhyngwladol.

Teithio yw enaid ein bywyd ac rydym yn ymdrechu i gyflwyno gwaith o’r safon uchaf ar draws ein rhaglen artistig, gan ddifyrru ac ysbrydoli cynulleidfaoedd yn ein operâu a’n cyngherddau a darparu profiadau trawsnewidiol drwy ein gwaith ieuenctid a chymunedol. Gan adeiladu ar ein hanes sy’n ymestyn dros 70 o flynyddoedd a’n gwreiddiau yng nghymunedau De Cymru, ein nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol fod opera yn ffurf gelfyddyd werthfawr, berthnasol a chyffredinol. Yn fwy nag unrhyw gwmni arall, mae WNO yn agor y byd opera i bawb.

Negeseuon newyddion eraill