

Folk/ Byd-eang
Gigspanner Big Band yn cyflwyno: Turnstone
Trosolwg
Gwe 22 Awst 2025 7.30pm
Lleoliad
Prisiau
£30
Oedran
15+
Tocynnau: £30
Gwybodaeth
Mae’r Gigspanner Big Band yn rym unigryw yng ngherddoriaeth werin Prydain...
Mae eu perfformiadau egnïol a meistrolgar yr un mor apelgar i’r dilynwyr traddodiadol ag ydynt i’r rheini sy’n chwilio am rywbeth mwy arbrofol, ac maent wedi cael canmoliaeth gan gyhoeddiadau mor amrywiol ag fRoots, The Telegraph a The Wire, lle cawsant eu disgrifio fel ‘gyda gwreiddiau gwerin o ran alawon ond eto’n agored ac arloesol y tu hwnt i gyfyngiadau genre’.
Gan ddechrau eu bywyd fel triawd – gyda’r offerynnwr taro Sacha Trochett a’r gitarydd Roger Flack yn ymuno â Peter Knight, chwaraewr ffidil enwog Steeleye Span – cafodd y grŵp ei ehangu i ffurfio’r Gigspanner Big Band, gyda’r ddeuawd aml-offerynnol clodwiw Edgelarks (Phillip Henry a Hannah Martin - ‘Deuawd Gorau’ Gwobrau Gwerin y BBC) a John Spiers, cyd-sylfaenydd Bellowhead a’r chwaraewr melodion eithriadol, yn ymuno.
Er i Peter Knight, fel un o aelodau clasurol Steeleye Span o’r 1970au, helpu i greu brand o roc gwerin sy’n dal yn ddylanwadol heddiw, mae John Spiers wedi cael effaith yr un mor bwysig ar gerddoriaeth draddodiadol dros y ddau ddegawd diwethaf.
Wedi’i nodweddu gan ddyfeisgarwch chwyldroadol, chwarae unigol technegol ddawnus a rhyngweithio cynnil, mae’r cyfuniad hwn o nifer o’r enwau mwyaf y byd gwreiddiau gwerin yn cyfuno gwybodaeth ddofn am draddodiadau gwreiddiau â dull sy’n gwthio ffiniau’n ddi-baid.