Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MMus Perfformio Opera

  • Dyfarniad:

    MMus Perfformio Opera

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    20 Medi 2026

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    852F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Gyda’n cwrs dan arweiniad y diwydiant, sy’n cyfuno hyfforddiant arbenigol â chyfleoedd perfformio amrywiol, byddwch yn gwybod sut mae bodloni gofynion cwmnïau opera proffesiynol y dyddiau hyn.

Trosolwg o’r cwrs

Yn y rhaglen MMus dwy flynedd hon, byddwch yn symud o flwyddyn gyntaf o waith perfformio llais (ynghyd â’r garfan MMus Perfformio Cerddoriaeth llais) i ail flwyddyn yn canolbwyntio ar berfformiadau operatig mewn amrywiaeth o ffurfiau, gan gynnwys cyfleoedd sydd ar gael trwy ein cysylltiad agos ag Opera Cenedlaethol Cymru (WNO).

Ym Mlwyddyn 2, fel aelod o Ysgol Opera David Seligman, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau ensemble a chyflwyniadau golygfeydd opera, gan drwytho eich hun mewn amgylchedd cwmni operatig proffesiynol.

Trwy ystod o ddulliau addysgu mewn lleoliad conservatoire llawn ysbrydoliaeth, a gan ddefnyddio ein cysylltiadau cryf â diwydiant, byddwch yn datblygu meistrolaeth o’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant opera heddiw.

Pam astudio Opera yn y Coleg Brenhinol?

  • Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cyfuniad o ddulliau addysgu sy’n cyfoethogi eich sgiliau arbenigol, gan eich gwneud yn fwy cyflogadwy hefyd – gwersi un i un, hyfforddiant, gwaith grŵp, tiwtorialau, darlithoedd, seminarau, gweithdai a dosbarthiadau ymarferol, a chyfnodau cynhyrchu opera.
  • Ni fydd eich rhaglen astudio yn glynu wrth unrhyw un fethodoleg neu athroniaeth – yn hytrach, mae’n dod â llawer o ddylanwadau a dulliau at eich gwaith er mwyn i chi allu magu hyder wrth nodi a deall eich gweledigaeth artistig eich hun.
  • Byddwch yn dysgu arferion gweithio operatig proffesiynol gyda chyfarwyddwyr a répétiteurs proffesiynol, gan roi cipolwg i chi ar sut mae’r diwydiant yn gweithio a’ch helpu i gael ymwybyddiaeth o’r amgylchedd operatig.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys unawdwyr lleisiol adnabyddus a hyfforddwyr nodedig. Maent yn eich mentora ac yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i chi, yn ogystal ag addysg o’r radd flaenaf.
  • Mae ein partneriaethau â’r diwydiant opera yn cynnig cyfleoedd i chi gydweithio’n uniongyrchol ag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys gala opera flynyddol y Coleg Brenhinol, lle bydd unawdwyr o Ysgol Opera David Seligman yn cael cwmni cerddorfa’r Coleg, cael eich hyfforddi a’ch mentora gan staff cerddoriaeth y Coleg yn ogystal â’r cyfle i arsylwi a chysgodi rhai o ymarferion stiwdio’r Coleg. Bydd hyn yn eich helpu i adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau, a byddwch hefyd yn gallu datblygu dealltwriaeth ddofn o sut mae'r diwydiant yn gweithredu.
  • Byddwch yn cydbwyso eich hyfforddiant unigol â dosbarthiadau cwbl integredig mewn crefftau llwyfan, sy’n cynnwys symud a dawnsio, a hyfforddiant mewn sgiliau dramatig a dehongli. Byddwch hefyd yn cael dosbarthiadau yn y prif ieithoedd operatig – Eidaleg, Ffrangeg ac Almaeneg.
  • Mae perfformio’n hanfodol i’ch hyfforddiant, a byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau ensemble, perfformiadau amrywiol a chyflwyniadau golygfeydd opera – gan gynnwys gwaith Baróc a gwaith cyfoes yn ogystal â repertoire safonol – i fireinio’r sgiliau hyn.
  • Uchafbwynt eich astudiaeth yw astudio’n fanwl a pharatoi ar gyfer rôl operatig gyflawn i’w chyflwyno mewn clyweliad a sesiwn waith sy’n cyfateb i rôl broffesiynol. Pennaeth cerddoriaeth o un o brif gwmnïau opera’r DU sy’n asesu hyn fel arfer.
  • Bydd y rhaglen astudio o’ch dewis yn eich helpu i feithrin y sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch i wneud penderfyniadau effeithiol ynghylch repertoire addas a dewis rôl ar gyfer clyweliadau proffesiynol.
  • Byddwch yn cael dosbarthiadau sy’n canolbwyntio ar arferion proffesiynol a phrotocol opera, gan eich helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o arferion gweithio cydweithredol.
  • Byddwch yn dysgu gan artistiaid rhyngwladol enwog sy’n ymweld â’r Coleg yn flynyddol i berfformio a chynnal dosbarthiadau meistr, gan gynnig gwybodaeth amhrisiadwy am y diwydiant a gwybodaeth artistig i ddatblygu eich sgiliau.
  • Byddwch yn cael seminarau a fydd yn eich dysgu sut i sefydlu eich hun fel artist annibynnol. Bydd y sesiynau hyn yn trafod rhwydweithio, treth a chyllid, ceisiadau am gyllid, cyfryngau cymdeithasol – yr holl feysydd y mae angen i chi wybod amdanynt i ddatblygu a chynnal gyrfa bortffolio lwyddiannus a gwaith operatig.
'Dysgais bopeth o'r rhaglen yn y Coleg, gan ddechrau o'r gwersi iaith, symud, dosbarthiadau drama a gwersi canu gyda Donald [Maxwell].
O fewn dwy flynedd dysgais yr holl offer sydd eu hangen arnaf i fod yn barod i fynd am yrfa yn y diwydiant.'
Blaise MalibaGraddedig a Canwr Opera Proffesiynol
'Rwyf wrth fy modd fy mod wedi dychwelyd i Gaerdydd i ymuno ag Ysgol Opera David Seligman, gan ei bod wedi cynnig cyfleoedd eithriadol i mi na fyddwn wedi'u canfod yn unman arall. Mae uchafbwyntiau o'm hamser yn CBCDC yn cynnwys perfformio Bottom yn A Midsummer Night’s Dream gan Britten a'r brif ran yn Don Giovanni gan Mozart, perfformio gyda Cherddorfa OCC yn eu Gala Opera blynyddol a chymryd rhan mewn cyngerdd gyda Syr Bryn Terfel a Mererid Hopwood. Roeddwn hefyd yn ffodus i dderbyn dosbarthiadau meistr a hyfforddiant amhrisiadwy gan artistiaid fel Rebecca Evans, Dennis O’Neill, Carlo Rizzi, a llawer o rai eraill.'
Owain RowlandsGraddedig a Canwr Opera Proffesiynol
'Roedd y ddwy flynedd a dreuliais yn CBCDC ymhlith y cyfnodau gorau yn fy mywyd. Nid yn unig roedd y cwrs yn hynod o foddhaol yn gerddorol, ond fe wnaeth y gefnogaeth a gefais drwy’r cyfan helpu i feithrin fy hyder. Yn gyntaf, roedd yr hyfforddiant cerddorol yn eithriadol. Mae gweithio gyda Chyfarwyddwr Opera, James Southall, wedi bod yn un o’r breintiau mwyaf yn fy ngyrfa gerddorol hyd yma. Roedd ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth ddofn o bob darn a astudiwyd gennym, ynghyd â’i frwdfrydedd, yn golygu ein bod yn astudio ac yn perfformio cerddoriaeth nad oeddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn gallu ei chanu. Mae astudio gyda’m hathrawes, Anne Mason, wedi rhoi sylfaen gadarn i mi yn fy ngallu technegol, sy’n golygu fy mod bellach yn gallu perfformio repertoire sy’dd yn uchelgeisiol o safbwynt lleisioll. Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn llwyr i unrhyw un.'
Juliet WallaceGraddedig a Canwr Opera Proffesiynol

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf